Newyddion: Eich cylchlythyr tenantiaid mis Rhagfyr
Helo, Newydd sy’ ‘ma! Wrth i ni ddod i'n rhifyn olaf ein cylchlythyr tenantiaid yn 2023, hoffem ddiolch i chi gyd am ddarllen ac ymgysylltu â’r cylchlythyr hwn drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn gwerthfawrogi pob un o’r sylwadau rydym wedi’u derbyn oddi wrth y Panel Darllen a Pholisi, sydd wedi ein helpu i wella’r ffordd rydym yn ysgrifennu a dylunio’r cylchlythyr.
Os oes gennych chi unrhyw syniadau o ran sut y medrwn wneud y cylchlythyr yn well fyth, neu os oes unrhyw beth penodol yr hoffech ei weld yn 2024, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda drwy e-bostio marketing@newydd.co.uk.
Hoffai pawb yma yn Newydd ddymuno Nadolig Llawen i chi a’ch anwyliaid, a Blwyddyn Newydd Dda!
Allan o’r swyddfa!
Bydd ein swyddfeydd ar gau o 3:00pm ar Ddydd Gwener, 22 Rhagfyr 2023, ac yn ail-agor am 8:30am Ddydd Mawrth, 2 Ionawr 2024. I roi gwybod am waith atgyweirio brys dros y cyfnod hwn, ffoniwch 0303 040 1998 a dilynwch yr opsiynau. Byddwch yn rhoi gwybod am eich gwaith atgyweirio brys yn uniongyrchol i’n gwasanaeth tu allan i oriau swyddfa – sy’n medru cymryd eich galwad 24 awr y dydd.
Os byddwch angen rhoi gwybod am waith nad sy’n argyfwng neu dalu eich rhent dros y cyfnod hwn, mae FyNewydd, eich cyfrif tenant, ar gael 24 awr y dydd. Peidiwch â defnyddio FyNewydd, enquiries@newydd.co.uk na’r cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod am unrhyw waith brys gan na fyddwch yn cael ymateb – mae’n rhaid i chi ffonio 0303 040 1998.
Ymgyrch Hamper Nadolig 2023
Mae ein Hymgyrch Hamper Nadolig 2023 wedi dod i ben! Dyma rai o aelodau staff Newydd yn pacio hamperi Nadolig ar gyfer unigolion a theuluoedd oedd wedi’u hatgyfeirio atom gan ein Tîm Cynhwysiant Ariannol. Yr wythnos hon, rydym wedi darparu mwy na 50 o hamperi bwyd i deuluoedd ledled ein holl ystadau.
Dŵr Cymru: Cefnogaeth ariannol
Os ydych chi’n pryderu am gost y Nadolig, gall Dŵr Cymru ddarparu opsiynau cefnogaeth ariannol sydd ar gael i’ch helpu i arbed arian ar eich bil dŵr. I drafod eich opsiynau, ffoniwch nhw ar: 0800 052 0145.
Gallwch hefyd ymweld â’u gwefan yma am fwy o wybodaeth.
Diogelwch tân: Eich cadw chi’n ddiogel
Y Nadolig hwn, efallai y byddwn yn defnyddio ein nwyddau trydanol yn amlach ac yn addurno gyda goleuadau a chanhwyllau. Byddwch yn ofalus gan y gall tân gael effaith ddinistriol. Yn anffodus, cafodd un o’n tenantiaid dân yn eu cartref yn ddiweddar, gan achosi difrod sylweddol fel y gwelir yn y llun isod.
Mae’r difrod a achoswyd yn y digwyddiad anffodus hwn yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw hi i roi blaenoriaeth i ddiogelwch tân yn ein bywyd bob dydd. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n ddiogel mewn achos o dân, mae hi’n bwysig gwybod y camau sylfaenol:
- Profwch eich larwm mwg bob wythnos. Cynlluniwch sut fyddech chi’n dianc pe bai tân yn eich cartref.
- Ymgyfarwyddwch â chynllun gadael mewn argyfwng eich adeilad.
- Cofiwch gau’r holl ddrysau, a diffodd a datgysylltu’r plwg ar offer trydanol fel setiau teledu bob nos. Cadwch eich ffôn ac unrhyw declynnau symudedd yn agos os ydych eu hangen.
- Gwnewch yn siŵr nad yw canhwyllau ar neu’n agos i unrhyw beth a allai gynnau, a gwnewch yn siŵr nad yw’r gwresogyddion wedi’u gorchuddio.
- Defnyddiwch ddim mwy nag un plwg ym mhob soced a pheidiwch byth â’u defnyddio os ydyn nhw’n wlyb.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd ac yn gwaredu sigaréts yn ddiogel, a chadwch fatsis a thanwyr allan o gyrraedd plant. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch tân, cliwciwch yma.
Cewch hefyd hyd i fwy o wybodaeth gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yma.
Nid ydym yn darparu yswiriant cynnwys fel rhan o'ch cytundeb ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried polisi yswiriant cynnwys cartref er mwyn eich amddiffyn rhag unrhyw ddifrod neu golled sy'n digwydd yn eich cartref. Mae yswiriant cynnwys wedi'i gynllunio i helpu amddiffyn eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae gwastad risg y gall eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn, felly gall yswiriant cynnwys cartref helpu i ddarparu tawelwch meddwl. Am fwy o wybodaeth am yswiriant, ewch i'n tudalen yma.
Cefnogaeth ddigidol
Gallwn eich helpu chi i ennill sgiliau newydd mewn defnyddio cyfrifiaduron a thabledi, a defnyddio gwasanaethau fel siopa ar-lein, chwilio am swydd, a chyrchu eich cyfrif Porth y Llywodraeth neu fancio ar-lein. Gallwn hefyd eich helpu i ennill cymwysterau mewn sgiliau cyfrifiadurol.
Rydym yn cynnig benthyciadau cyfnod byr o offer digidol gan gynnwys tabledi, gliniaduron a seinyddion clyfar er mwyn eich helpu chi i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y gefnogaeth ddigidol rydym yn ei chynnig, ewch i’n gwefan yma neu cysylltwch â Scott, eich Swyddog Cynhwysiant Digidol, ar Scott.Tandy@newydd.co.uk neu eich Cynorthwyydd Cefnogi Digidol Nia ar Nia.Williams@newydd.co.uk.
Caneuon Nadolig yng Nghwrt Elis Fisher
Diolch yn fawr iawn i’r plant o Ysgol Gynradd Oakfield am ddod i ganu caneuon Nadolig yn un o’n cynlluniau byw’n annibynnol.
Fe fwynhaodd tenantiaid Cwrt Elis Fisher eu cyngerdd yn fawr iawn. Gwrandewch ar y clip byr hwn ohonynt yn canu “Feliz Navidad” a “Rocking Around the Christmas Tree” i’ch rhoi yn ysbryd yr ŵyl.
Dewch i gwrdd â Ruth!
Helo ‘na! Fi yw Ruth, un o Swyddogion Cynhwysiant Ariannol Newydd. Mae bywyd weithiau’n cynnwys ambell i syrpréis annymunol, ac mae’n medru bod yn anodd weithiau talu’r rhent ac ymdopi â chostau hanfodol fel bwyd a gwresogi – ond rydym ni yma i’ch helpu! Gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau cywir ac yn cael disgownt ar bethau fel eich treth cyngor a biliau dŵr.
Cysylltwch â ni drwy ffonio 0303 040 1998 a gofyn am y Tîm Cynhwysiant Ariannol, neu gallwch ein e-bostio ni’n uniongyrchol ar financial.inclusion@newydd.co.uk..
GetFit.Wales
Barod i ddechrau ffordd iachach a mwy actif o fyw’r flwyddyn nesaf? GetFit.Wales yw eich allwedd i gyflawni eich holl nodau ffitrwydd a llesiant!
Mynd ar gyrchoedd rhithiol: Dewiswch o amrywiaeth eang o heriau rhithiol hwyliog, fel cymharu eich ffitrwydd gyda ffitrwydd nyrs, neu goncro Taith Taf yn ei chyfanrwydd.
Enillwch wobrau am eich cyflawniadau: Gwyliwch eich pwyntiau’n cynyddu wrth i chi gwblhau cyrchoedd! Yna gallwch gyfnewid y pwyntiau hyn am docynnau rhodd mewn siopau lleol.
Os yw hyn yn swnio fel y math o hwb rydych chi ei angen, cofrestrwch isod a dechreuwch eich taith i ddod yn fwy ffit, iach a hapus!
Cofrestrwch yma.