Posted 03.12.2025

Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Rhagfyr

Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar beth gallwch weld yn y rhifyn yma:

  1. Oriau Agor Nadolig

  2. Diweddariad ORP - Lleihau Ein Ol-Troed Carbon

  3. Apel Anrhegion Nadolig Tai a Chymorth

  4. Ymwybyddiaeth Sgam Taliad Tanwydd y Gaeaf

  5. Cefnogaeth Cyfeillgar am Dementia

Oriau Agor Nadolig

Bydd ein swyddfeydd ar gau a bydd y rhan fwyaf o'r staff ar gael dros gyfnod o'r Nadolig. Ond peidiwch â phoeni! Rydym ni yma i chi os bydd argyfwng.

Bydd y swyddfa ar gau ar 5 Rhagfyr, a rhwng 25 Rhagfyr tan iddi ailagor yn llawn ar 2 Ionawr.

Os bydd rhywbeth yn digwydd yn ystod yr amser hwn sy'n peryglu'r eiddo neu'ch diogelwch o ganlyniad i'r eiddo, gallwch gysylltu â'n contractwyr y tu allan i oriau gwaith drwy ffonio ein rhif cymorth cwsmeriaid ar 029 2049 8898 neu drwy glicio yma.


Apel Anrhegion Nadolig 2025 - Helpwch Gadw Nadolig Yn Arbennig!


Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid yn Cadwyn i drial sichrau gall pob plentyn yn eu hosteli tai â chymorth deffro i gael anrheg fore Nadolig.

Bydd tua 3,000 o blant yng Nghymru yn deffro mewn llety dros dro y Nadolig hwn. Gall eich caredigrwydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth sicrhau diwrnod hudolus.

Rydym yn gyffrous i rannu cerdd arbennig gan y teuluoedd yn ein hosteli wrth iddynt fynegi eu gobeithion ar gyfer y Nadolig a'r dyfodol. 

Cliciwch yma i wylio'r fideo a chlywed y dymuniadau o'r galon.

Sut i roddi:

  1. Cliciwch y ddolen yma ar ôl gwylio'r fideo;
  2. Wrth dalu, dewiswch 'Gift Registry Address' fel y cyfeiriad dosbarthu;
  3. Ar ôl cwblhau eich pryniant, hoffem ddweud diolch yn fawr iawn a dymuno Nadolig Llawen i chi!


Diweddariad ORP - Lleihau Ein Ol-Troed Carbon

Mae Newydd yn gweithio'n galed i leihau effaith ein cartrefi ar yr hinsawdd – a rhan allweddol o'r gwaith hwn yw ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio (ORP) i leihau allyriadau.

Menter gan Lywodraeth Cymru yw ORP i wneud cartrefi'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, lleihau biliau a gwella amodau byw i denantiaid. Cliciwch y ddolen isod i ddysgu mwy am ein gwaith hyd yn hyn yn 2025, gyda llawer mwy i ddod y flwyddyn nesaf. Darllenwch y diweddariad llawn ar ein gwaith ORP yma.

Byddwch Yn Wybodus O Sgamiau Taliadau Tanwydd Gaeafol

Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2025, mae Action Fraud wedi derbyn 2,790 o adroddiadau troseddau yn ymwneud â sgamiau Taliad Tanwydd Gaeaf, gyda dioddefwyr yn nodi colledion gwerth cyfanswm o dros £27,000.

Gwneir Taliadau Tanwydd Gaeaf yn awtomatig, does dim angen i chi wneud dim. Os ydych chi'n derbyn unrhyw negeseuon testun am Daliadau Tanwydd Gaeaf, mae'n sgam. 

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi bod yn ddioddefwr twyll, cysylltwch â'ch banc ar unwaith a rhowch wybod amdano i Action Fraud ar-lein yma.


Cefnogaeth Cyfeillgar i Dementia

Angen cymorth neu gyngor am ddementia i chi, ffrind, neu aelod o'r teulu?   Mae adnoddau defnyddiol ar gael i'ch helpu chi a'ch anwyliaid. Cliciwch y dolenni isod i ymweld â'r tudalennau cymorth pwrpasol neu ffoniwch y Llinell Gymorth Dementia ar 0333 150 3456 am gyngor cyfrinachol.

Ymwelwch â gwefan Alzheimers Society Wales yma.

Cliciwch yma i ddarllen llyfryn gofal iechyd Dementia Connect.

Derbyniwch gefnogaeth o Age UK yma.

Newyddion diweddaraf