Newyddion: Your December Newsletter
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:
- Cyfle olaf i gael eich Taliad Tanwydd Gaeaf
Mwynhewch Nadolig ar gyllideb
- Rhoddwch anrheg i blentyn mewn hostel y Nadolig hwn
- Mae ein Tîm Cynhwysiant Ariannol yma i helpu
- Rydym yn gadael X/Twitter
- Ateb i gystadleuaeth mis diwethaf
Cyfle olaf i gael eich Taliad Tanwydd Gaeaf
Rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025 (neu’r Winter Heating Payment, os ydych yn byw yn yr Alban).
Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/taliad-tanwydd-gaeaf
I weld a ydych chi'n gymwys ac i hawlio'ch arian, ewch i:
https://www.llyw.cymru/yma-i-helpu-gyda-chostau-byw
Neu ffoniwch linell gymorth Advicelink Cymru am ddim ar 0808 250 5700
Os oes angen help arnoch i wneud cais am Gredyd Penwin, cysylltwch â'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0303 040 1998
Mwynhewch Nadolig ar gyllideb
Os ydych chi yn edrych i arbed arian y tymor hwn, dyma rai awgrymiadau a thriciau i fwynhau Nadolig eleni ar gyllideb!
- Gofyn i westeion ddod â saig: Os ydych chi'n croesawu pobl i’ch cartref, beth am ofyn i westeion ddod â saig. Bydd hyn yn gwneud y pryd yn fwy fforddiadwy a gall pawb gyfrannu.
- Gosod cyllideb: Penderfynwch faint rydych chi’n mynd i wario ar fwyd, anrhegion ac addurniadau. Blaenoriaethwch eich gwariant a thorrwch yn ôl lle bo angen.
- Ail-roi: Ydych chi wedi derbyn anrheg nad ydych wedi'i defnyddio? Os ydych chi'n meddwl y byddai rhywun arall yn ei fwynhau, beth am ei roi iddyn nhw? (Gwnewch yn siŵr nad dyma'r person a roddodd yr anrheg i chi)
- Gosod disgwyliadau gyda’ch teulu: Rhowch wybod i’ch teulu a’ch ffrindiau eich bod yn cael Nadolig cyfeillgar i’r gyllideb, maen nhw’n siŵr o werthfawrogi eich gonestrwydd.
- Prynu ail-law: Gallwch ddod o hyd i rai prisiau da iawn os ydych yn prynu anrhegion ail-law. Chwiliwch mewn siopau elusen neu farchnadoedd ar-lein i ddod o hyd i rai bargeinion!
- Creu eich addurniadau eich hun: Gallwch ddefnyddio gwyrddni, hen bapur lapio a jariau i greu addurniadau Nadolig cartrefol.
Rhoddwch anrheg i blentyn mewn hostel y Nadolig hwn
Helpwch Bob Plentyn i Ddeffro i Anrheg Y Nadolig Hwn
Y Nadolig hwn, bydd tua 60 o blant yn deffro yn hosteli tai â chymorth Cadwyn. Helpwch ni i sicrhau bod pob plentyn yn gallu deffro i anrheg ar ddydd Nadolig.
Sut gallwch chi helpu:
Gwyliwch y fideo i glywed sut mae'r plant yn teimlo am y Nadolig eleni, a dilynwch y ddolen isod i roddi anrheg os gallwch chi. Diolch i'ch caredigrwydd, mae pob un anrheg yn gwneud byd o wahaniaeth i'r plant.
Rhoddwch nawr a lledaenwch hwyl yr ŵyl (a chofiwch ddewis Cyfeiriad y Gofrestrfa Rhoddion fel y cyfeiriad danfon):
Diolch a Nadolig Llawen
Mae ein Tîm Cynhwysiant Ariannol yma i helpu
Mae Newydd yn deall y gallech chi gael problemau wrth dalu eich rhent. Efallai y byddwch hefyd angen cymorth cyllideb ar gyfer y costau mwyaf hanfodol a phwysig yn eich bywyd fel rhent, bwyd a gwres. Rydym ni yn gallu eich helpu os ydych chi yn cael trafferth talu am y pethau hyn, po gynharaf byddwch yn cael cefnogaeth gennym ni y mwyaf y gallwn ni helpu. Gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau cywir ac yn cael gostyngiadau ar bethau fel y dreth gyngor a biliau dŵr ayyb.
Cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid heddiw i drefnu siarad ag aelod o'n Tîm Cynhwysiant Ariannol.
Ffôniwch Gwasanethau Cwsmeriaid
Rydym yn gadael X/Twitter
Rydym yn gadael X/Twitter ar 31 Rhagfyr
Fel rhan o’n hymdrechion i ganolbwyntio adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ddadactifadu ein cyfrif ar X. Ond rydyn ni dal yma i chi ar sianeli eraill!
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein newyddion a’n gwasanaethau diweddaraf, cysylltwch â ni ar ein sianeli eraill. Diolch am bod yn rhan o’n cymuned ni yma. Edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith i ddarparu cartrefi fforddiadwy i'r rhai sydd angen tai.
Welwn ni chi ar ein sianeli eraill!
Ateb i gystadleuaeth mis diwethaf
Diolch i bawb sydd a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth mis diwethaf ar gyfer ein 50fed penblwydd!
Cymerodd dros 70 o bobl ran yn ein cystadleuaeth i ddyfalu pa ddegawd y cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol hwn.
Yr ateb oedd... y 1980au! Da iawn i bawb a gafodd yr ateb yn gywir!
Llongyfarchiadau mawr i Amber sydd wedi ennill taleb £50!