Newyddion: Eich cylchlythyr mis Awst
Croeso i Newyddion! Dyma gipolwg ar beth gallwch ddisgwyl darllen mis yma:
- Newidiadau dros dro i'n gwasanaeth ffôn
- Cwestiwn y Mis
- Ac mae'r canlyniadau yma...CyM Gorffennaf
- Diolch arbennig i Cath Kinson
- Cyfleoedd recriwtio
- Gwaith cynnal a chadw tiroedd
- Ailgylchu cyfrifol
- Cymunedau mwy diogel
- Ap MyNewydd
Newidiadau dros dro i'n gwasanaeth ffôn
Byddwn yn gwneud newid dros dro i'n hargaeledd ffôn ddydd Iau, 6 Awst, a dydd Gwener, 7 Awst. er mwyn ein helpu i wella ein gwasanaeth.
Ar y dyddiadau hyn, byddwn ar gael dros y ffôn ar gyfer ymholiadau brys yn unig. Ar gyfer ymholiadau arferol, parhewch i gysylltu â ni drwy ein sianeli arferol, a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Yn ddiweddar, rydym wedi profi rhestr hir o ymholiadau gan gwsmeriaid, sydd wedi effeithio ar ein hamseroedd ymateb a’r gwasanaeth a ddarparwn i chi. Rydym yn deall unrhyw rwystredigaeth gallai hyn fod wedi’i hachosi ac yn ymddiheuro.
I fynd i’r afael â hyn, rydym yn neilltuo amser i leihau’r rhestr aros a gwella ein prosesau. Er y bydd hyn yn golygu gostyngiad dros dro yn ein hargaeledd ar gyfer ymholiadau arferol, bydd yn ein helpu i ddarparu amseroedd ymateb cyflymach a gwasanaeth gwell yn y dyfodol.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Cwestiwn y Mis
Dyma gyfle arall i ennill taleb £25 drwy gymryd rhan yng Nghwestiwn y Mis ar gyfer mis Awst.
Y tro hwn, rydym eisiau gwybod eich barn am sut y dylem ddarparu ein gwasanaethau tai a rhent.
Gan ein bod yn gofyn am ychydig mwy o’ch barn y mis hwn, rydym yn cynyddu nifer y talebau sydd ar gael i’w hennill o ddwy daleb £25 i bedair!
Yn syml, cliciwch ar y ddolen isod, cwblhewch yr arolwg byr a nodwch eich manylion er mwyn cael eich cynnwys yn y raffl.
Cliciwch yma i ateb Cwestiwn y Mis y mis hwn.
Ac mae'r canlyniadau yma...CyM Gorffennaf
Mis diwethaf, gofynnom ni, “Beth yw’r un peth y gallem ei wneud yn well wrth ymdrin â chwynion?”.
Y neges glir gan denantiaid oedd y byddai cyfathrebu gwell (34% o’r ymatebion) a diweddariadau rheolaidd (22%) yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Rydym yn defnyddio’r adborth yma i wella a’n sicrhau bod tenantiaid yn cael diweddariadau cliriach ac amserol o’r dechrau i’r diwedd. Rydym hefyd yn lansio grwpiau ffocws tenantiaid i helpu i lunio a gwella ein gweithdrefn gwynion. Os hoffech gymryd rhan a helpu i wella ein gwasanaeth cwynion, anfonwch e-bost at complaints@cadarn.co.uk ac ymunwch â’r sgwrs.
Gwnaethom hefyd ofyn… “Pe gallech fwyta un blas hufen iâ yn unig am weddill yr haf, beth fyddai hwnnw?”. Ac mae’n amlwg fod tenantiaid yn hoff iawn o fint gan mai dyma oedd y canlyniadau…
Mintys siocled – 44%
Fanila – 31%
Mefus – 18%
Siocled – 7%
A’r enillwyr yw… Llongyfarchiadau mawr i Denise o’r Barri a Karren o Gaerdydd ar ennill talebau £25 y mis diwethaf am gymryd rhan yn yr arolwg. Cofiwch gymryd rhan y mis hwn am gyfle arall i ennill drwy glicio ar y ddolen yn yr erthygl uchod.
Diolch arbennig i Cath Kinson
Diolch i Cath Kinson ar achlysur nodi 25 mlynedd o gyfrannu at gymuned Newydd.
Ers y cychwyn, mae Cath wedi rhoi ei hamser, ei hegni a’i gofal i gefnogi tenantiaid, gan gynnwys sefydlu grwpiau cymunedol a rhedeg hybiau i ddod â phobl ynghyd.
Mae wedi gwasanaethu ar Fwrdd Newydd, wedi cynrychioli tenantiaid yn weithredol ar y Tîm Craffu, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o baneli cyfweld er mwyn dod â safbwynt tenantiaid i’n prosesau recriwtio.
Bu Cath hefyd yn rhan o Brosiect Visibly Better RNIB a helpodd i sicrhau bod tenantiaid â nam ar eu golwg yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Cafodd ymroddiad Cath ei gydnabod pan dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes TPAS am wneud gwahaniaeth cadarnhaol er budd pob tenant.
Diolch am bopeth Cath.
Cyfleoedd recriwtio
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau cyffrous ar draws Grŵp Cadarn. A yw un o’r swyddi hyn yn apelio atoch chi, neu at rywun rydych yn ei adnabod? Cliciwch ar deitlau’r swyddi isod am ragor o wybodaeth.
Gweinyddwr Asedau a Datgarboneiddio (rhan-amser)
£26,793-£28,203 (pro rata)
9 Awst
Gweinyddwr Asedau a Datgarboneiddio (llawn amser)
£26,793-£28,203 (pro rata)
9 Awst
Partner Busnes Cyllid (llawn amser)
£43,928 - £46,240
10 Awst
Swyddog Cyswllt Tenantiaid x2 (llawn amser)
£30,112-£31,696 16 Awst
Gwaith cynnal a chadw tiroedd
Yn dilyn adborth gan denantiaid, rydym yn falch bod lluniau “cyn ac ar ôl” gwaith cynnal a chadw tiroedd bellach ar gael i denantiaid eu gweld.
Os hoffech gael y rhain, cysylltwch â'n tîm Profiad Cwsmer drwy'r ddolen isod.
Cliciwch yma i gysylltu â'r tîm.
Ailgylchu cyfrifol
Mae 94% o’n cymuned yn ailgylchu’n gyfrifol ac yn helpu i gadw ein cymuned yn lân i bawb ei mwynhau.
Yn anffodus, mae tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghywir yn ein storfeydd biniau yn dod yn fwyfwy cyffredin. Peidiwch â bod yn rhan o’r 6% sy’n gwaredu eu gwastraff yn anghyfrifol ac yn creu llanast yn ein cymuned.
Mae tipio anghyfreithlon yn erbyn y gyfraith, a byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw achosion lle gellir adnabod y rhai sy’n gyfrifol. Gall hyn arwain at ddirwyon sylweddol a chyhuddiad troseddol.
Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau ailgylchu a gwastraff yn eich ardal.
Ailgylchu a Gwastraff Rhondda Cynon Taf
Ailgylchu a Gwastraff Castell Nedd Port Talbot
Cymunedau mwy diogel
Mae ein Swyddog Cymunedau Mwy Diogel, Sarah, wedi bod allan yn y gymuned gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) i siarad â thrigolion a nodi cyfleoedd i wella diogelwch a mynd i'r afael â phryderon lleol.
Os oes gennych unrhyw faterion diogelwch cymunedol yr hoffech eu codi, darganfyddwch fwy drwy glicio isod neu drwy anfon e-bost atom yn ymholiadau@cadarn.co.uk.
Ap MyNewydd
Mae ap MyNewydd yn ei gwneud hi’n gyflym ac yn hawdd i reoli eich tenantiaeth pryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Gallwch:
• Edrych ar falans eich rhent • Reportio digwyddiadau a phroblemau ar-lein • Diweddaru eich manylion cyswllt • Cael mynediad at wasanaethau 24 awr y dydd
Does dim angen aros ar y ffôn yn ystod cyfnodau prysur, a gallwch gysylltu â ni y tu allan i oriau swyddfa pan fo’n gyfleus i chi.
Darganfyddwch fwy am MyNewydd yma a dysgwch sut i ychwanegu MyNewydd i'ch sgrin cartref yma.










