10.11.2025
Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Tachwedd
Diweddariadau pwysig ar gefnogaeth cyflogadwyedd, arolwg tenant TPAS, cefnogaeth ariannol i breswylwyr, yswiriant cynnwys cartref, ac ymwybyddiaeth sgamiau.
Mae’n bleser cyhoeddi bod y ddwy Gymdeithas Tai yng Ngrŵp Cadarn, Newydd a Cadwyn, wedi derbyn y radd uchaf yn Nyfarniadau Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.
Mae’r dyfarniad yn cadarnhau i’r ddau fudiad derbyn gradd Wyrdd yn y meini prawf Llywodraethu a Gwasanaethau i Denantiaid, a Hyfywedd Ariannol.
Pwrpas y rheoleiddio blynyddol yw gwarchod tenantiaid a sicrwydd ariannol cymdeithasau tai Cymru. Mae cydymffurfiad yn sicrhau bod cymdeithasau tai wedi’u llywodraethu’n dda, yn darparu tai a gwasanaethau o ansawdd uchel, a’n hyfyw yn ariannol.
Gallwch ddarllen y Dyfarniad Rheoleiddio diweddaraf yma.