Newydd yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael â cham-drin domestig
Mae Cymdeithas Tai Newydd yn ymrwymo i addewid Make a Stand, a lansiwyd gan Sefydliad Tai Siartredig mewn partneriaeth â Chynghrair Tai Cam-drin Domestig a Chymorth i Fenywod.
Mae’r addewid yn cynnwys pedwar ymrwymiad i sefydliadau tai, ar gyfer rhoi cymorth i bobl sy’n profi cam-drin domestig. Mae Newydd wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael a cham-drin domestig yn ei gymunedau.
Dywedodd Alison Inman, llywydd CIH, “Rwyf wrth fy modd bod Newydd wedi arwyddo’r addewid Make a Stand, gan y gallai hyn wneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau lleol.”
“Cam-drin domestig yw’r un o’r problemau mwyaf sydd yn ein hwynebu heddiw. Mae miliynau o bobl yn cael eu heffeithio ac mae dwy fenyw'r wythnos yn cael eu lladd gan eu partner neu gynbartner.
“Mae sefydliadau tai yn rhoi cartref ac yn cyflogi miliynau o bobl, ac mae’n ddyletswydd arnom i wneud mwy i fynd i’r afael a’r mater hwn. Dyma ein cartrefi ni, ein pobl ni, ac ein problem ni.”
“Trwy arwyddo’r addewid Make a Stand, mae Newydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl yn ei gymunedau, a all olygu achub bywyd.”
Ychwanegodd Kelly Henderson, cyd-sylfaenydd DAHA, “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r addewid yma, ac yn cymeradwyo Newydd am wneud yr un fath. Gwyddom fod y sector tai yn chwarae rhan hanfodol wrth gydnabod ac ymateb i gam-drin domestig, ac mae ymrwymo i’r addewid yma yn ffordd hawdd o gymryd y camau ymarferol i wella’r ymateb i staff a thenantiaid."
Dywedodd Katie Ghose, prif weithredwr Cymorth i Ferched, “I filoedd o fenywod a phlant ledled y wlad, eu cartref yw’r lle mwyaf peryglus y gallant fod."
“Trwy ymrwymo i addewid Make a Stand, mae Newydd wedi anfon neges bwerus i oroeswr cam-drin domestig nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod cymorth a chefnogaeth ar gael iddyn nhw.”
Gall sefydliadau eraill lofnodi addewid Make a Stand ar y wefan CIH, a byddwch yn derbyn pecyn cymorth, yn ogystal â gwybodaeth arall i'ch helpu i roi ymrwymiadau’r addewid ar waith. Y pedwar ymrwymiad yw:
- Sefydlu ac ymgorffori polisi i gefnogi preswylwyr sy’n profi cam-drin domestig.
- Sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau cymorth cam-drin domestig cenedlaethol a lleol ar gael ar eich gwefan ac mewn mannau eraill sy'n hygyrch i breswylwyr a staff.
- Rhoi polisi a gweithdrefn AD ar waith ar gam-drin domestig, neu ymgorffori hyn mewn yn y polisi sy'n bodoli eisoes, i gefnogi aelodau o staff sy'n profi cam-drin domestig,
- Penodwch hyrwyddwr yn eich sefydliad i fod yn berchen ar y gweithgaredd yr ydych yn ei wneud i gefnogi pobl sy'n profi cam-drin domestig

