Posted 01.08.2023

Newyddion: Eich cylchlythyr tenantiaid mis Awst

Bloedd i’n tenantiaid gwych yn Heol y Llongau yn Y Barri

Mae Janice a Christine, ynghyd â thenantiaid eraill, wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ailwampio’r ardd gymunol. Drwy eu hymdrechion, trawsffurfiwyd yr ardd i mewn i ardal hyfryd, heddychlon y gall y gymuned gyfan nawr ei fwynhau. Rhoddodd Kirsty, eu Swyddog Tai, syrpréis annisgwyl iddyn nhw - tocyn rhodd ar gyfer canolfan arddio leol - fel arwydd o ddiolchgarwch am eu gwaith caled.


Llygad ar y wobr

Roeddem wrth ein bodd cael derbyn yr ail wobr yng Ngwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru eleni. Cydnabuwyd ein cynnig ‘Pobl Wrth Galon’ yn y categori newydd ‘Llais y Tenant’. Mae’r wobr hon yn dangos bod y beirniaid yn gwerthfawrogi ein hymdrechion llwyddiannus i’ch cefnogi ac i’ch grymuso chi, ein tenantiaid, i ddylanwadu ar y gwasanaethau a’r penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn clywed, yn gwrando ar ac yn ymateb i’r hyn rydych chi’n ei ddweud – a hynny ar bob lefel o’n sefydliad.

Ond wnawn ni ddim yn stopio yma. Byddwn yn parhau i ymdrechu i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i chi gael mynegi eich barn – a bydd hyn yn ein helpu ni i wella’r gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn. Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yma.

Dathlu ein Tîm Cynnal a Chadw

Llongyfarchiadau mawr i’n Tîm Cynnal a Chadw anhygoel am ennill 32 sgôr perffaith 10 allan o 10 gennych chi’r wythnos ddiwethaf am eu gwaith atgyweirio!

Rydym ni hefyd yn falch iawn bod 18 ohonoch chi wedi cymryd munud i ysgrifennu sylwadau positif am ein gweithwyr. Mae eich geiriau caredig yn golygu gymaint i ni ac yn ein hysbrydoli i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib bob dydd.

Hoffem roi bloedd arbennig i ddau aelod o’n tîm:

Anthony: “Fe wnaeth e waith gwych yn atgyweirio fy nhoiled. Fe gyrhaeddodd yn gynnar felly doedd dim rhaid i mi aros yn y tŷ drwy’r dydd. Fe wnaeth e’r gwaith yn gyflym ac yn drylwyr. Roedd e’n gyfeillgar ac fe adawodd e bopeth yn lân.” 

Glenn: “Roedd e’n gwrtais iawn ac fe wnaeth e esbonio beth oedd e’n ei wneud. Aelod o staff arbennig.”  

Gallwch roi gwybod am waith atgyweirio drwy:

  • Eich cyfrif FyNewydd
  • E-bostio ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid enquiries@newydd.co.uk
  • Ffonio 0303 040 1998

Ein cronfa buddion cymunedol

Rydym wedi rhoi £750 i Glwb Pêl-droed Barry Athletic! Roedd y cyfraniad hael hwn yn bosib diolch i gefnogaeth Cartrefi Ltd, ein contractwr a ddatblygodd Gwesty Windsor ar Ffordd Holton yn Y Barri. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth hwn i helpu ariannu ein menter buddion cymunedol, sy’n ein galluogi i gefnogi prosiectau cymunedol pwysig fel hwn.

Mae’r rhodd wedi mynd tuag at osod bariau diogelwch o gwmpas y prif faes. Mae’r gwelliannau wedi gwneud y maes yn llawer mwy diogel ac wedi gwella’r profiad cyffredinol ar gyfer chwaraewyr a chefnogwyr. 

Mae’r prif faes yn lle arbennig i’r gymuned gan ei fod yn galon i’r dref ac yn chwarae rôl hanfodol yn nhwf a datblygiad y clwb.


Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen buddion cymunedol, ewch i’n gwefan yma.

Neges gan ein Swyddog Cyflogadwyedd

Fy enw i yw Jackie Holly, a fi yw eich Swyddog Cyflogadwyedd o fewn Tîm Adfywio Cymunedol Newydd. Rwy’n gobeithio y gallaf eich helpu chi (neu unrhyw un arall sy’n byw yn eich cartref) i symud yn agosach at y farchnad gyflogadwyedd.

Gallaf gynnig nifer o wasanaethau y gellir eu teilwra i ffitio eich anghenion personol:

  • Hyfforddiant ar-lein am ddim sy’n eich galluogi chi i ennill y cymwysterau galwedigaethol angenrheidiol a all eich galluogi i ddechrau neu symud ymlaen o fewn yr yrfa rydych wedi’i dewis.
  • Help gyda dillad ar gyfer cyfweliadau drwy ein cynllun Working Wardrobe.
  • Mynediad i’n cyllid cyflogadwyedd – gall hyn fod ar gyfer unrhyw hyfforddiant neu offer a all eich helpu chi symud ymlaen tuag at waith. 
  • Help i chwilio am waith, diweddaru eich CV a mathau eraill o hyfforddiant allanol, drwy eich cyfeirio at bartneriaid allanol sy’n rhedeg y gwasanaethau hyn yn y gymuned lle rydych chi’n byw. Fe alla i hefyd rannu hysbysebion a phostiadau swydd sydd wedi cael eu hanfon ata i’n uniongyrchol o’r Canolfannau Gwaith lleol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch fi ar Jackie.Holly@newydd.co.uk neu ffoniwch fi ar fy rhif ffôn symudol 07501466694. Os na fedra i ateb, gadewch neges ac fe wna i'ch ffonio chi nôl cyn gynted â phosib. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan yma.

Cefnogaeth ddigidol

Gallwn eich helpu chi i ennill sgiliau newydd mewn defnyddio cyfrifiaduron a thabledi, a defnyddio gwasanaethau fel siopa ar-lein, chwilio am swydd, a chyrchu eich cyfrif Porth y Llywodraeth neu fancio ar-lein. Gallwn hefyd eich helpu i ennill cymwysterau mewn sgiliau cyfrifiadurol.

Rydym yn cynnig benthyciadau cyfnod byr o offer digidol gan gynnwys tabledi, gliniaduron a seinyddion clyfar er mwyn eich helpu chi i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y gefnogaeth ddigidol rydym yn ei chynnig, ewch i’n gwefan yma neu cysylltwch â Scott, eich Swyddog Cynhwysiant Digidol ar Scott.Tandy@newydd.co.uk.

Beth fuom ni’n ei wneud yn ystod Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YGG) ym mis Gorffennaf, roedd ein Swyddogion Cymunedau Diogelach, Sarah a Kay, yn brysur iawn yn ymweld â gwahanol ardaloedd yn y gymuned er mwyn siarad am eich pryderon YGG. Yn ystod un o’u hymweliadau, fe fuon nhw’n gweithio gyda Heddlu De Cymru.

Fe wnaethon nhw lawer o deithio, gan ymweld â Phenarth, Gwlad Du Gwyrdd, Gilfach Goch, Junction House, Newbourne Place, Clos y Glowyr, a Nant Arian.  Ac fe wnaethon nhw gnocio ar 70 o ddrysau a chynnwys 22 ohonoch yn yr arolwg. Ond peidiwch â phoeni os na wnaethom gwrdd â chi neu os na wnaethom ymweld â’ch ardal yn ystod yr wythnos! Rydym ni dal yma i chi.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol neu unrhyw beth arall, anfonwch neges atom. Mae eich adborth yn hanfodol, ac rydym ni yma i wrando a gweithredu.

Am fwy o wybodaeth ar sut i roi gwybod am achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB), ewch i’n gwefan yma.

GIG 111 Cymru

Mae llinell ffôn genedlaethol wedi cael ei lansio ledled Cymru ar gyfer pobl sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl brys. Am gefnogaeth iechyd meddwl brys, ffoniwch 111 a dewiswch OPSIWN 2. Gallwch nawr gael cyngor a chefnogaeth gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. 

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Newyddion diweddaraf