Ein uchafbwyntiau cynnwys tenantiaid o 2022–23
Tracy James, ein Swyddog Cynnwys Tenantiaid, sy’n sôn am ein huchafbwyntiau cynnwys tenantiaid o’r flwyddyn ddiwethaf.
Helo ‘na! Fy enw i yw Tracy James, a fi yw’r Swyddog Cynnwys yn Newydd. Gyntaf oll, fe hoffwn ddiolch i’n holl denantiaid sydd wedi cymryd amser o’u bywydau prysur er mwyn cymryd rhan a gweithio gyda ni. Mae eich cyfraniad wedi bod yn hynod werthfawr i’n helpu ni i ddatblygu ein strategaethau a gwella gwasanaethau er mwyn cwrdd ag anghenion ein tenantiaid yn fwy effeithiol.
Un o brif uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd ein digwyddiadau ymgynghori ar y Cynllun Corfforaethol yn Y Barri, Rhydyfelin a’r Drenewydd. Derbyniom adborth gwerthfawr oddi wrth denantiaid, ac mae hyn wedi arwain at gyflwyno digwyddiadau pop-up cymunedol misol ar ein hystadau sy'n galluogi i staff Newydd fod ar gael ar gyfer ymateb unrhyw ymholiadau neu sgwrsio gyda thenantiaid. Mae hefyd wedi ein helpu ni i ddatblygu gwahanol strategaethau er mwyn cefnogi nodau ein Cynllun Corfforaethol.
Mewn partneriaeth gyda TPAS Cymru a’n tenantiaid, rydym wedi datblygu Strategaeth Dylanwadu Tenantiaid newydd sbon. Cynlluniwyd y strategaeth hon i rymuso ein tenantiaid ac i roi llais iddyn nhw o ran llunio ein gwasanaethau. Roeddem hefyd yn falch iawn o basio Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid TPAS Cymru, lle cafwyd cydnabyddiaeth ein bod yn parhau i roi tenantiaid wrth galon popeth a wnawn. Mae hefyd yn cydnabod bod ein hagwedd yn esblygu i ddiwallu anghenion cyfnewidiol ein tenantiaid a’n cymunedau yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar-lein newydd. Ni oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gwblhau her TESA yn llwyddiannus. Gallwch ddarllen mwy am ein cyflawniad TESA yma.
Fe adolygodd ein Panel Darllen a Pholisi nifer o ddogfennau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys ein siartrau; taflenni ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, cynhwysiant ariannol a chynhwysiant digidol; ein hadroddiad blynyddol; ein canllaw iaith cynhwysol; rhifynnau o Newyddion, ein e-gylchlythyr tenantiaid, a llawer mwy. Mae’r mewnbwn gwerthfawr gan ein tenantiaid wedi ein helpu ni i sicrhau bod y dogfennau hyn yn glir, yn gryno ac yn hawdd i’w deall.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Cath, ein Haseswr Cynllun Tenantiaid, archwiliadau RNIB Cymru Visibly Better mewn dau o’n cynlluniau byw’n annibynnol. Rydym yn falch o fedru dweud bod un o’r rhain wedi cyrraedd y safon Platinwm am y tro cyntaf, tra bod y llall wedi cynnal y safon honno’n llwyddiannus. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymroddiad i sicrhau bod ein cynlluniau byw’n annibynnol yn cwrdd ag anghenion ein tenantiaid sy’n byw gyda nam ar eu golwg.
Chwaraeodd aelodau ein Grŵp Craffu Tenantiaid rôl allweddol mewn helpu i gaffael cwmni annibynnol ymchwil i’r farchnad newydd Acuity i gynnal ein harolwg boddhad tenantiaid chwarterol. Fe wnaethon nhw hefyd gwrdd gyda Jason, ein Prif Weithredwr, a chyfrannu tuag at ein dogfen hunanwerthuso ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Adolygwyd ein proses Grant Addasiadau Ffisegol gan NEADS (Is-grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Newydd). Cyd-gynhyrchodd y grŵp hefyd bedair siarter, gan gynnwys y Siarter Diogelwch yn Gyntaf, y Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid, y Siarter Gwneud Addasiadau Rhesymol, a’r Siarter Contractwyr. Mae’r siartrau hyn ar gael ar ein gwefan yma ac maent yn adlewyrchu ein hymroddiad i sicrhau bod ein holl wasanaethau yn gynhwysol ac yn hygyrch.
Eisteddodd tenantiaid hyfforddedig ar baneli cyfweld i recriwtio aelodau staff newydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn recriwtio pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n hymroddiad i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ar gyfer ein tenantiaid.
Yn olaf, cyfrannodd ein gwirfoddolwyr gyfanswm gwych o dros 400 awr, sy’n arwydd o ymroddiad ein tenantiaid at wella ein gwasanaethau.
Fel casgliad, roedd 2022–23 yn flwyddyn brysur a chynhyrchiol ar gyfer cynnwys tenantiaid yn Newydd. Byddwn yn parhau i’ch grymuso chi, ein tenantiaid, drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddylanwadu ar ein gwasanaethau. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiannau hyn eleni.
Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o’r gweithgareddau hyn, ewch i'r dudalen yma.