Posted 10.03.2023

Dylanwadu tenantiaid yn cael y golau gwyrdd

Newydd yw’r gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gwblhau her newydd TPAS Cymru, sef yr Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid (TESA), yn llwyddiannus. 

Roedd her TESA, a gymerodd 9 mis i’w gwblhau, yn cynnwys adolygu safle Newydd ar hyn o bryd o ran darparu ymgysylltu â thenantiaid; nodi cyfleoedd ar gyfer gwella; sicrhau bod y gymdeithas yn cwrdd â disgwyliadau a safonau rheoleiddiol Llywodraeth Cymru, a dangos ymrwymiad i ymgysylltu â thenantiaid.

Yn dilyn asesiad manwl annibynnol TPAS Cymru o’r dystiolaeth hunanasesiad ynghyd â chyfweliadau a grwpiau ffocws gyda staff a thenantiaid, dyfarnwyd statws ‘gwyrdd’ i Newydd am bob un o’r 3 safon blaenoriaeth TESA. Mae’r gymdeithas dai wedi boddhau’r meini prawf o ran arweinyddiaeth a llywodraethiant, arferion ymgysylltu, a bod yn agored ac yn atebol.

Dywedodd David Lloyd, Cyfarwyddwr Rhaglen yn TPAS Cymru, “Mae gan Newydd hanes blaenorol cadarn mewn darparu ffyrdd effeithiol ac ystyrlon o gynnwys tenantiaid. Mae hyn yn sicrhau eu bod nhw mewn safle cryf i symud ymlaen gyda gweithrediad y Strategaeth Dylanwadu Tenantiaid newydd. Bydd y diwylliant yn Newydd – wedi’i seilio ar ymroddiad y Bwrdd, y Tîm Gweithredu a’r staff i’r pwnc o ymgysylltu â thenantiaid – yn rhan allweddol o ddull newydd Newydd.”

Roedd Newydd wedi cychwyn datblygu Strategaeth Dylanwadu Tenantiaid newydd gyda ffocws ar bobl o’r enw ‘Pobl wrth Galon’ cyn dechrau’r her. Fe wnaeth mynd drwy’r broses TESA wrth ddatblygu’r strategaeth newydd hon sicrhau bod y strategaeth yn addas i’r diben, bod ganddi fethodoleg gadarn ar gyfer y dyfodol, a’i bod yn caniatáu i denantiaid gyd-gynllunio datrysiadau ar gyfer y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn.

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Mae cyflawni’r her TESA newydd ar ein cynnig cyntaf, a bod y gymdeithas dai gyntaf i wneud hynny, yn destament i waith caled a brwdfrydedd ein tenantiaid a’n staff. Wrth symud ymlaen, bydd darparu technegau dylanwadu sy’n siwtio tenantiaid orau yn sicrhau bod pawb yn medru cymryd rhan - rhywbeth sy’n hanfodol i wella ein gwasanaethau. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd ein dylanwadwyr yn datblygu ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.”

Mae ‘bwydlen’ newydd Newydd o gyfleoedd dylanwadu o fewn y strategaeth yn cynnig amrywiaeth a dewis i denantiaid. Mae’r dewisiadau yn gynhwysol, hyblyg, hygyrch ac yn bodloni anghenion, galluoedd, uchelgeisiau a ffyrdd o fyw unigolion. Y nod cyffredinol yw caniatáu tenantiaid i gymryd rhan ar lefel ac amser sy’n eu siwtio nhw orau.

Newyddion diweddaraf