Rydym yn gweithio tuag at fod yn Ddementia Cyfeillgar!
Rydym yn gweithio tuag at fod yn Ddementia Cyfeillgar!
Rydym ni wedi cymryd camau i wneud ein sefydliad yn fwy croesawgar a hygyrch ar gyfer ein tenantiaid a staff sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Beth ydym ni wedi’i wneud?
Mae ein staff wedi datblygu cynllun er mwyn cyflwyno Ffrindiau Dementia ledled y sefydliad drwy enwebu aelod o staff i ddod yn Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia drwy gymryd rhan mewn hyfforddiant arbenigol. Yn ogystal â hyn, mae ein staff wedi ymrwymo i hybu iaith hygyrch ledled ein sefydliad drwy ddefnyddio geiriau’n effeithiol, osgoi jargon a sicrhau bod ein cyfathrebu geiriol a di-eiriau yn cael eu hadlewyrchu.
Dywedodd Tracy James, ein Swyddog Cynnwys:
“Roeddem yn frwd iawn i wneud yr adduned Deall Dementia er mwyn caniatáu i ni ddarparu gwasanaeth mwy croesawgar a hygyrch ar gyfer ein preswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan ddementia, ac er mwyn darparu gwell cefnogaeth i’n staff.”
Adolygwyd amgylcheddau ffisegol ein cynlluniau tai gan ddefnyddio adnoddau arbenigol wrth adeiladu ar yr addasiadau a wnaed yn ddiweddar i arwyddion o dan ein hagenda tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn hefyd yn ystyried yr argymhellion i sicrhau gwell hygyrchedd wrth gynllunio’n cartrefi sydd wedi’u diogelu at y dyfodol.
Rhannwyd gwybodaeth am yr adnoddau a’r gefnogaeth dementia sydd ar gael gyda’n holl staff drwy ein cyfryngau cymdeithasol mewnol ac yn ein cylchlythyr staff, a hefyd gyda’n tenantiaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn hybu ymgysylltu a dealltwriaeth.
Rydym wedi sicrhau bod cyfarfodydd rhithiol gyda’n tenantiaid yn fwy hygyrch drwy weithredu’r argymhellion yn rhestr wirio’r amgylchedd rhithiol ar gyfer pob cam o’r broses gyfarfod, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu tenantiaid ag offer digidol am ddim a hyfforddiant i godi lefelau sgiliau a hyder.
Rydym wedi adolygu ein polisïau a’n canllawiau er mwyn sicrhau mwy o hyblygrwydd a chefnogaeth i’n staff sydd â chyfrifoldebau a rolau gofalu, yn ogystal â diweddaru ein polisïau byw’n annibynnol ar gyfer tenantiaid, sy’n adlewyrchu anghenion penodol pobl sy’n byw gyda dementia.
Y dyfodol
Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno “caffis cof” fel rhan o’r hyn rydym yn ei gynnig i denantiaid yn eu cynlluniau byw’n annibynnol, gan gynnwys trefnu gweithgareddau sy’n pontio cenedlaethau, er mwyn gwella argaeledd cefnogaeth ymatebol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia.
Mae ein hymrwymiad i weithio tuag at Ddeall Dementia wedi ei adlewyrchu yn y ffordd rydym yn datblygu rhaglen hyfforddi ehangach ar gyfer dementia ledled y sefydliad, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ledled y sector er mwyn cefnogi cyfranogiad ehangach mewn gwneud yr adduned er budd y rheiny sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.
Cyn ac ar ôl cymryd rhan yn y broses gydnabod ‘Gweithio tuag at Ddeall Dementia’, rydym wedi nodi cynnydd mewn hyder wrth fynd i gwrdd ag anghenion pobl sy’n byw gyda dementia, gan adael i’n tenantiaid deimlo’n dawelach eu meddwl y bydd eu hanghenion yn cael eu cydnabod ac y byddant yn derbyn cefnogaeth effeithiol.

