Posted 19.12.2024

Lansio cynllun tai fforddiadwy newydd yn Abercynon

Mae Newydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru, a WK Plasterers Ltd, yn falch iawn o gyhoeddi lansiad tai fforddiadwy newydd sbon ar Stryd Edward, Abercynon.

Bydd y datblygiad gwerth £2.8 miliwn, sydd wedi'i leoli ar safle hen Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr Abercynon, yn darparu 12 cartref un ystafell wely am rent fforddiadwy, gan helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai lleol yn Rhondda Cynon Taf.

Derbyniodd y cynllun hwn, sy'n gyfoethog mewn hanes cymunedol, ganiatâd cynllunio ym mis Chwefror 2023 ac fe'i gwnaed yn bosibl trwy gyllid gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chyllid preifat.

Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr Abercynon, a agorodd ym 1905, oedd yr adeilad mwyaf o'i fath yn Ne Cymru ar un adeg. Gwasanaethodd fel canolbwynt ar gyfer gweithgareddau diwylliannol ac addysgol, gan groesawu ffigurau nodedig fel Keir Hardie, Ramsay MacDonald, ac Aneurin Bevan.

Mynychodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant, ddigwyddiad lansio i ddathlu cynnydd y cynllun. Dywedodd, “Rwy’n gwybod y byddai’r cyn-gynghorydd Alby Davies MBE wedi bod wrth ei fodd yn gweld y datblygiad hwn yn dwyn ffrwyth, ar ôl gweithio’n ddiflino i weld y prosiect hwn yn cael ei roi ar waith. Mae’r prosiect hwn yn dyst i’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio i fynd i’r afael â heriau tai yn ein cymunedau. Bydd y cartrefi newydd hyn yn Abercynon yn darparu llety fforddiadwy y mae mawr ei angen tra'n cwrdd â safonau amgylcheddol uchel, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd, "Mae'r datblygiad hwn nid yn unig yn darparu cartrefi mawr eu hangen ond hefyd yn parchu etifeddiaeth Stryd Edward, gan adeiladu ar ei arwyddocâd hanesyddol wrth edrych ymlaen at ddyfodol cynaliadwy."

Dywedodd James Lloyd Kathrens, Cyfarwyddwr WK Plasterers Ltd, "Rydym yn falch o fod yn darparu'r cynllun tai hwn ar garreg ein drws. Mae ein tîm lleol wedi ymroi i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sydd nid yn unig yn bodloni ond yn rhagori ar safonau amgylcheddol, gan sicrhau amgylchedd byw cynaliadwy a chyfforddus i breswylwyr y dyfodol."

Wedi'u cynllunio i fodloni'r safonau amgylcheddol diweddaraf, bydd y cartrefi'n cynnwys Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) gradd A a system wresogi nad yw'n danwydd ffosil, gan sicrhau effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd i breswylwyr. I'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais am dŷ yn Rhondda Cynon Taf, cofrestrwch eich diddordeb gyda Ceisio Cartref RhCT. 

Newyddion diweddaraf