Posted 11.03.2025

Datblygiad tai fforddiadwy Newydd yn torri tir yn Llyswyrni

Mae Newydd yn falch iawn o gyhoeddi bod datblygiad tai fforddiadwy newydd wedi dechrau yn Llyswyrni.

Mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a’r contractwyr Castell Group, bydd y datblygiad hwn yn darparu saith cartref fforddiadwy i’w rhentu, wedi’u dylunio gyda sgôr effeithlonrwydd ynni EPC A i leihau’r effaith amgylcheddol.

Mae’r prosiect yn cynnwys pedwar fflat 1 a 2 ystafell wely , a thri thŷ 2 ystafell wely. Gyda chefnogaeth £1.55m o gyllid o Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun hwn yn mynd i’r afael ag anghenion tai lleol a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2026.

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Grŵp Cadarn: "Rydym yn gyffrous i ddechrau ar y prosiect hwn, a fydd yn darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn yr ardal wledig hon. Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu i'r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, gan fod o fudd i'r amgylchedd ac i'n darpar denantiaid.

“Rydym yn edrych ymlaen at y canlyniad terfynol, gan sicrhau bod pobl leol yn cael y cyfle i fyw mewn tŷ fforddiadwy yn yr ardal ddymunol hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai’r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: “Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd ar y prosiect hwn, a fydd yn helpu i ateb y galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy.

“Mae hyn yn rhan o raglen adeiladu cartrefi ehangach sydd hefyd wedi gweld cyfres o ddatblygiadau tai cyngor yn cael eu cwblhau dros y blynyddoedd diwethaf, gydag eraill ar y ffordd.

“Mae’n waith hanfodol bwysig wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r angen dybryd am eiddo yn y Fro.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu llety modern, cyfforddus, hygyrch, ynni-effeithlon i breswylwyr, cartrefi y gallant fod yn falch ohonynt.

“Dyma’r enghraifft ddiweddaraf o’r gwaith hwnnw a phrosiect rydyn ni’n gyffrous iawn i’w gefnogi.”

Dywedodd Dorian Payne, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Group: “Rydym yn falch o fod yn darparu’r cartrefi hyn o ansawdd uchel sy’n defnyddio ynni’n effeithlon mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd a Chyngor Bro Morgannwg.

“Yn Castell Group, rydym wedi ymrwymo i adeiladu tai cynaliadwy, fforddiadwy sy’n cael effaith gadarnhaol barhaus ar gymunedau. Mae’r datblygiad hwn yn Llyswyrni yn enghraifft wych o’r ymrwymiad hwnnw, ac edrychwn ymlaen at weld teuluoedd lleol yn elwa o’r cartrefi hyn y mae mawr eu hangen.”

I wneud cais am gartref ym Mro Morgannwg, mae angen i drigolion gofrestru gyda Homes4U, cofrestr tai yr awdurdod lleol.

Newyddion diweddaraf