Technoleg glyfar ychwanegol ar ddatblygiad Cymdeithas Tai Newydd er mwyn cynorthwyo preswylydd oedrannus
Kingfisher Developments (Wales) Ltd yn ariannu technoleg glyfar ychwanegol ar ddatblygiad Cymdeithas Tai Newydd er mwyn cynorthwyo preswylydd oedrannus i gadw’n annibynnol, yn ddiogel ac mewn cysylltiad.
Wedi’i leoli yn Nyffryn, Bro Morgannwg, dechreuodd y gwaith ar y byngalo pwrpasol hwn ym mis Rhagfyr 2019. Gyda’r cysyniad Solcer gan gynnwys dylunio cyd-destunol arbennig yn defnyddio dull carbon isel, fe ddatblygodd Tîm Adfywio a Datblygu Cymunedol Newydd berthynas gyda’r darpar breswylydd a’u rhwydwaith cefnogi er mwyn helpu nodi technoleg glyfar a allai gynorthwyo i gynnal annibyniaeth, diogelwch a chysylltiad o fewn yr eiddo.
Nodwyd cynlluniau i wella pethau fel allweddi monitro ar gyfer yr eiddo sydd wedi dod yn fwyfwy anodd wrth i’r rhwydwaith gofal dyfu, y preswylydd yn gadael yr eiddo heb gymorth, y preswylydd yn cofio tasgau tymor byr a mynediad i’r rhyngrwyd o fewn yr eiddo er mwyn siopa bwyd ar-lein.
Dywedodd Scott Tandy, Swyddog Adfywio Cymunedol Newydd, “Roedd y dechnoleg a nodwyd yn ganlyniad uniongyrchol o’r wybodaeth a ddarparwyd gan y tenant a’r rhwydwaith gofal. Drwy gyfannu’r cynllun cefnogi tenant oedd yn bodoli’n barod, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn galluogi’r tenant i fyw bywyd mwy annibynnol tra hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i rwydwaith y tenant.”
Drwy raglen Buddion Cymunedol Newydd, fe wnaeth Kingfisher Developments ariannu a chefnogi’r gwaith o osod synwyryddion cyswllt, synwyryddion symudiadau, camera tu allan, clo clyfar a seinydd clyfar Alexa yn yr eiddo.
Dywedodd Pat Mcgovern, Rheolwr Safle Kingfisher Developments: “Mae Kingfisher Developments yn falch o gefnogi’r prosiect hwn sy’n defnyddio technoleg gynorthwyedig i roi budd i’r preswylydd mewn nifer o ffyrdd.”
Gobeithir y bydd y datblygiad wedi ei gwblhau yn gynnar yn 2021. Bydd y preswylydd wedyn yn parhau i dderbyn cefnogaeth drwy raglen Cynhwysiant Digidol Newydd, sydd â’r nod o leihau rhwystrau a gwella llythrennedd digidol.
Dywedodd Mat Holloway, twrnai’r preswylydd newydd, “Rydym wedi bod yn ddiolchgar iawn am y ffordd gyfeillgar a chydweithredol mae Newydd wedi ymgynghori â ni yn ystod y gwaith adeiladu er mwyn sicrhau bod y tŷ newydd wedi’i addasu’n briodol ar gyfer preswylydd bregus ac oedrannus. Rydym yn hyderus y bydd y tŷ newydd yn darparu lle byw cyfforddus, deniadol ac, yn bwysicach na dim, diogel ar gyfer ein cymydog, sy’n gynnwrf i gyd am ei chartref newydd.”