Gwella ein gweledigaeth
Mae dysgu yn golygu dod i weld pethau o safbwynt gwahanol felly fe wnaethon ni ymgynghori â’n tenantiaid yn ddiweddar ynglŷn â’n themâu cynllun corfforaethol newydd.
Fe rannom ni’r cynllun 5 mlynedd ar Facebook, Fy Newydd a thrwy e-bost. Gwahoddwyd tenantiaid hefyd i fynychu un o dri digwyddiad a drefnwyd gennym ni yn Rhydyfelin, Y Drenewydd a’r Barri.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Fe gafwyd ymateb gwych, gyda 52 o denantiaid yn dod i’n digwyddiadau a 13 o denantiaid eraill yn rhannu adborth drwy e-bost. I lawer ohonynt, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ymgysylltu â ni. Fe alla i ddweud ar ran yr holl staff oedd yn bresennol ein bod ni wedi mwynhau’r digwyddiadau, ac ein bod wedi casglu syniadau gwych ac adborth gonest a fydd yn ein galluogi i addasu ein cynllun corfforaethol.”
Themâu ac adborth
Pum thema’r cynllun corfforaethol yw Twf, Diogelwch, Cynaliadwyedd, Cefnogaeth a Gwasanaethau Rhagorol. Roedd yr adborth a dderbyniwyd oddi wrth denantiaid yn awgrymu y dylem:
- Wella cyfathrebu a hygyrchedd drwy gynnig mwy o gyfleoedd wyneb yn wyneb a chyflwyno galwadau fideo/Zoom
- Gwella amlygrwydd staff ar ystadau, a chynnal cymorthfeydd rheolaidd fel y gallwn wrando ar ac adeiladu cysylltiadau cryfach gyda’n tenantiaid
- Gwella’r cyfleusterau ar gyfer tenantiaid hŷn ac agored i niwed e.e. mannau storio sgwteri
- Symleiddio prosesau a gweithdrefnau
- Darparu mwy o gefnogaeth ariannol yn y cyfnod hwn o argyfwng economaidd
- Ehangu gweithio mewn partneriaeth er mwyn datrys problemau yn y gymuned e.e. parcio a gwaredu sbwriel
- Rhannu mwy o wybodaeth ar gynlluniau sy’n ymwneud â datgarboneiddio a datblygiadau newydd
- Cael atgyweiriadau’n iawn y tro cyntaf
Y dyfodol
Defnyddir yr adborth a dderbyniwyd nawr i lywio strategaethau er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i gwrdd ag anghenion a disgwyliadau amrywiol ein cwsmeriaid.
Ychwanegodd Jason, “Bydd parhau i weithio gyda’n tenantiaid yn sicrhau bod gennym ni gyd weledigaeth glir yn gyffredin, a bod y dyfodol yn ddisglair iawn i bawb!”
Enillwyr gwobrau
Rhoddwyd enw pob tenant a rannodd eu barn gyda ni yn yr het i ennill gliniadur. Yr enillwyr lwcus oedd Soraya, Sara, Mark a William o’r Barri, Leah a Sarah o Rydyfelin, a Paul a Julie o’r Drenewydd. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd!