Darganfod effaith ein Cronfa Budd i’r Gymuned yn Y Barri
Yr wythnos ddiwethaf fe es i a Jonathan, ein Cydgysylltydd Buddion Cymunedol, ar daith i ddarganfod effaith ein Cronfa Budd i’r Gymuned yn Y Barri. Gydag ymrwymiad dwfn i roi yn ôl i’n cymuned, roeddem yn frwd iawn i weld gyda’n llygaid ein hunain sut mae ein cyfraniadau wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl a’r prosiectau rydym yn eu cefnogi.
Wrth i ni rannu ein hantur gyffrous gyda chi, hoffem yn gyntaf ddiolch o waelod calon am y gefnogaeth amhrisiadwy a roddodd Cartrefi Ltd, CW Facilities Management a Sterling Construction Ltd i’n Cronfa Budd i’r Gymuned. Mae’r contractwyr hyn wedi bod yn datblygu ein tri safle a oedd gynt o dan berchnogaeth Brains Pubs, ag y gwnaethom eu prynu fel rhan o bortffolio o 3 safle. Heb eu cefnogaeth hael, ni fyddem wedi medru helpu’r elusennau a phrosiectau cymunedol gwych hyn.
Mae hi’n werth nodi bod y prosiectau cymunedol yma rydym wedi medru eu helpu wedi dod o Cartrefi Ltd. Rydym yn ddiolchgar iawn i gael gweithio mewn partneriaeth gyd nhw i greu dyfodol mwy disglair ar gyfer ein cymuned.
Stop 1: Elusen Woody’s Lodge
Ein stop cyntaf oedd Elusen Woody’s Lodge, lle cawsom ein croesawu gan Kim. Tywysodd Kim ni o gwmpas yr ardd, a dangos yr offer garddio, bwrdd picnic a’r twnnel polythen cerdded-i-mewn newydd a ddarparwyd drwy ein cyllid. Roeddem wrth ein bodd cael clywed sut mae’r prosiect hwn wedi helpu cyn-filwyr i ailintegreiddio yn eu cymunedau a rhoi synnwyr o bwrpas iddyn nhw. Aeth Kim ymlaen i ddisgrifio sut mae’r Prosiect Gardd Heddwch yn anelu i greu gofod awyr agored heddychlon lle gall cyn-filwyr a’r gymuned leol ddod at ei gilydd, ymlacio a thyfu cynnyrch lleol. Roedd hi’n dipyn o ysbrydoliaeth clywed eu bod hefyd yn rhoi canran o’r cynnyrch a dyfir yno i deuluoedd lleol sydd yn ynysedig neu mewn angen.

Stop 2: Gardd Gymunedol Belvedere
Nesaf, aethom i Ardd Gymunedol Belvedere, lle mae ein cyllid wedi’i gwneud hi’n bosib cwblhau gwaith pellach i drawsnewid yr ardd i mewn i ofod lle gall pobl leol ddod at ei gilydd a mwynhau byd natur. Dangosodd Helen o Ganolfan Gymunedol Castleland yr ardd i ni ac esboniodd sut mae ein harian wedi trawsnewid yr ardd i mewn i hyb cymunedol lle gall pobl leol ymgysylltu gyda’i gilydd a mwynhau byd natur. Gyda’r haf ar y ffordd, rydym yn sicr y bydd pobl Y Barri yn gwneud defnydd mawr o’r ardd hyfryd hon.

Stop 3: Neuadd Bentref Pen-marc
Ein cyrchfan olaf oedd Neuadd Bentref Pen-marc, lle y tywysodd Niall ni o gwmpas y neuadd bentref sydd newydd gael ei hadnewyddu. Mae’r cyllid a ddarparwyd gennym ni wedi helpu gyda goleuadau tu mewn a thu allan, sychwyr dwylo a bocs ffôn wedi’i adfer. Roedd hi’n wych i weld sut, o dan reolaeth newydd, mae neuadd y pentref wedi cael adfywiad ac mae hi nawr yn hyb ffyniannus ar gyfer y gymuned gyfan.

Drwy gydol ein taith, roedd hi’n drawiadol sut mae ein Cronfa Budd i’r Gymuned wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymuned leol. Roedd hi’n codi’r galon cael cwrdd â’r bobl sydd wedi cael budd o’n cyfraniadau a chael gweld sut mae ein cefnogaeth wedi’u helpu nhw i greu effaith bositif yn y gymuned. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi derbyn 38 o geisiadau ar gyfer ein Cronfa Budd i’r Gymuned, ac rydym wedi gwneud rhoddion i 29 o’r rhain. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi elusennau a phrosiectau cymunedol gwych drwy gydol 2023.

