Ein Rhenti a’n Tâl Gwasanaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid i ni osod rhenti a ffioedd gwasanaeth sy’n sicrhau bod ein cartrefi yn parhau i fod yn fforddiadwy ac yn darparu gwerth am arian.
Dywedoch chi wrthym ni y dylai ein fflatiau fod yn rhatach na’n tai, ac y dylai hen eiddo gostio llai nac eiddo newydd. Roeddech chi’n meddwl bod angen i ni gymryd incwm yr aelwyd i ystyriaeth, yn ogystal â maint yr eiddo, wrth osod rhenti. Fe ddywedoch chi hefyd bod safon gwasanaethau yn bwysicach na’r gost. Pan ofynnon ni, roedd 87.5% o denantiaid yn fodlon bod rhenti yn cynnig gwerth am arian, a 62.5% bod ffioedd gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian.
Eich barn
- Rydym yn arolygu 500 o denantiaid dros y ffôn bob blwyddyn i gael adborth
- Rydym yn cynnal gweithdai tenantiaid ar fforddiadwyedd bob blwyddyn; mis Tachwedd diwethaf fe gynhaliom gynhadledd denantiaid rhithiol wythnos o hyd, ac roedd hyn yn cynnwys diwrnod yn arbennig ar renti a ffioedd gwasanaeth
- Rydym yn ymgynghori â thenantiaid ar newidiadau i wasanaeth
Fforddiadwyedd
- Rydym yn cymharu ein fforddiadwyedd rhent gyda chartrefi ar incwm isel
- Rydym yn adolygu a yw lefel y codiadau rhent yn rhesymol
Tegwch
- Mae ein hadeiladau hŷn yn rhatach na chartrefi mwy effeithlon o ran ynni
- Mae rhenti ar fflatiau yn is na rhenti ar dai
- Mae rhenti’n adlewyrchu incwm nodweddiadol cartrefi ar gyfer maint yr adeilad
- Rydym yn sicrhau bod ein rhenti yn rhesymol ac yn unol â landlordiaid cymdeithasol eraill a’r sector preifat
Gwerth
- Rydym yn asesu ein perfformiad yn erbyn dangosyddion a osodwyd gan denantiaid ac rydym yn cyhoeddi’r canlyniadau yn ein cyfrifon statudol ac ar ein gwefan; cewch hyd iddyn nhw yma.
- Rydym yn asesu ein perfformiad corfforaethol yn erbyn dangosyddion tai cymdeithasol sefydledig, ac yn cyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan yma.
- Rydym yn cymharu ein perfformiad â pherfformiad cymdeithasau tai eraill yng Nghymru.
- Rydym yn gweithio’n galed i ostwng neu gael gwared â ffioedd gwasanaeth ac i sicrhau gwerth am arian
Codiad Rhent o 1 Ebrill 2023
Eleni mae'r rhent wedi cynyddu 6.5%
Ffioedd Gwasanaeth
Disgwylir i landlordiaid cymdeithasol osod polisi rhent a thâl gwasanaeth sy’n sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau i fod yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid presennol a’r dyfodol. Rydym yn adennill yr holl daliadau cymwys gan gyfeirio at ganllaw'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol ar gyfer landlordiaid tai cymdeithasol.
Rydym yn gweithredu system ffioedd gwasanaeth sefydlog. Y ffordd rydym yn sicrhau eich bod chi’n talu ffioedd teg yw drwy osod y ffi ar sail cytundebau go iawn, neu ar sail y flwyddyn flaenorol os oes rhaid i ni ddefnyddio amcangyfrif. Caiff unrhyw newidiadau i’r swm rydym ni’n ei dalu am y gwasanaethau hyn yn ystod y flwyddyn eu haddasu yn eich ffioedd gwasanaeth y flwyddyn ddilynol.
Mae'r weithdrefn Tâl Gwasanaeth yn ystyried fforddiadwyedd ac mae'n cynnwys, mewn achosion eithriadol, mecanwaith i gynnig gostyngiadau i denantiaid lle bernir bod y rhent a'r tâl gwasanaeth gyda'i gilydd yn anfforddiadwy.
Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod hyn gyda ni, cysylltwch â ni wrth ebostio ymholiadau@newydd.co.uk neu galwch 0303 040 1998.