Posted 25.06.2025

Eich Cylchlythyr In Focus Mis Mehefin

Helo, Tracy ydw i, eich Swyddog Cyfranogiad. Croeso i rhifyn mis Mehefin o In Focus!

Yn y rhifyn yma, fe welwch erthyglau ar ffilmiau SATC (Safonau Ansawdd Tai Cymru); gweithdy technoleg smart mewn tai cymdeithasol; diweddariad gwelliant ar adolygiad ein Tîm Craffu Cadarn o daliadau gwasanaeth; cyfraniad tenantiaid i'n hunanwerthuso; ac adolygiad o pop-ups cymunedol. 

Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud gyda chynnwys tenantiaid - cysylltwch gyda fi ar tracy.james@newydd.co.ukos gwelwch yn dda.  

Fideos SATC wedi'i hanimeiddio i denantiaid

I helpu codi ymwybyddiaeth o SATC (Safonau Ansawdd Tai Cymru), gweithiodd Newydd a Chadwyn gydag wyth aelod arall o LENS (Landlord Engagement Network South Wales) sef Hafod, Bron Afon, Beacon, Cynon Taf, Vale Homes, V2C, CCHA a Trivallis, yn ogystal â thenantiaid gwirfoddol a TPAS Cymru i gynhyrchu cyfres fer o fideos wedi’u hanimeiddio. Diolch i TurnipStarfish am greu animeiddiadau gwych i ni ac i bawb oedd yn rhan o’r cydweithrediad anhygoel yma! î

I ddysgu mwy am SATC a sut fydd yn buddio chi a’ch cartref, cliciwch y linc isod i wylio’r 4 fideo – gobeithiwn hoffwch chi nhw!

Gweithdy creadigol ar dechnoleg smart mewn tai cymdeithasol

Ym mis Mai, fe gynhalion weithdy creadigol gyda Phrifysgol De Cymru i ymchwilio’r heriau i dderbyniaeth technoleg smart o fewn tai cymdeithasol. Dechreuodd ein Tîm Cefnogaeth Ddigidol y sesiwn gydag arddangosiad o ddyfeisiadau technoleg smart, gan alluogi’r tenantiaid cyfranogol i brofi’n uniongyrchol sut mae’r dyfeisiadau arloesol gallu gwella eu safonau byw. 

Roedd cynrychiolydd o Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (RhOO) Llywodraeth Cymru yn bresennol a ddarparodd cyfle unigryw i denantiaid i rannu eu profiadau a mewnwelediadau. Cawsom hefyd cynrychiolwyr o Hafod, Bron Afon a TPAS Cymru.

Cynigodd y digwyddiad cyfle i denantiaid cysylltu ag ymgysylltu mewn gweithgareddau creadigol a chyfrannodd y mewnwelediad ag enillwyd i ymchwil gwerthfawr a fydd yn siapio’r dyfodol o dechnoleg smart i well gyrraedd anghenion ein cymunedau. Diolch i bawb a ddaeth a gwneud yn ddigwyddiad arbennig!

Adolygiad o daliadau gwasanaeth

Mae adolygiad Tîm Craffu Cadarn o daliadau gwasanaeth nawr ar ei hanterth. Eu bwriad yw i’n helpu i wella boddhad tenantiaid, safon gwasanaeth a darpariad.

Ym mis Mai, cyfarfodd y tîm rheolwyr o Newydd a Chadwyn i gasglu mewnwelediad i’r broses a thrafod y themâu maen nhw’n barod wedi adnabod:

·       Eglurder a gwerth taliadau gwasanaeth

·       Cyfathrebiadau ac ymatebolrwydd

·       Safon darpariaeth a gwasanaeth

·       Cynnal a chadw o ardaloedd cyffredin

Mae’r tîm nawr wedi dechrau drafftio eu hadroddiad a fydd yn cael ei drafod gyda’r Uwch Dîm Rheoli cyn cael ei rannu gyda’r Bwrdd pan wedi’i gyflawni. Fe ddiweddarwn ni chi gyda’r newidiadau a fydd yn cael eu gweithredu i well gwasanaethu chi.

Fideo Fer TPAS Cymru

Roeddem ni wrth ein bodd i TPAS Cymru yn ddiweddar gwahodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Cadarn, ac Amanda Lawrence, Cadeirydd Tîm Craffu Cadarn, i ymddangos mewn ffilm fer am reoleiddio a’r gwaith arloesol mewn craffu tenantiaid a hunan werthuso! Mae’r fideo eisoes wedi cael ei rhannu fel esiampl o ymarfer gorau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol amrywiol.

Cliciwch yma i weld y fideo.

Adolygiad o Pop-ups Cymunedol

Diolch yn fawr i’r 103 o denantiaid a gwblhaodd arolwg diweddar ar Pop-ups Cymunedol. Llongyfarchiadau i Hannah (Y Barri), Sian (Rhydyfelin), a Steve (Y Bontfaen) a enillodd y gwobrwyon raffl a derbyn taleb anrheg £25 yr un. Fe ddilynon ni hyn trwy gynnal cyfarfod grŵp ffocws ar-lein i drafod ymhellach darganfyddiadau’r arolwg a chynllunio sut i wella digwyddiadau pop-ups cymunedol yn y dyfodol.

Yn ogystal â chnocio drysau, arolygon tenantiaid, codi sbwriel a chyfeiriadau cefnogaeth am gyflogadwyedd, cefnogaeth ariannol a digidol, fe ddwedoch wrthym hoffech i ni:

Cerdded o gwmpas ystadau â thenantiaid

Cydlynu caffis trwsio

Gwahodd mudiadau partner i fynychu i helpu delio gyda phroblemau h.y. heddlu, awdurdod lleol a.y.y.b., neu gyfuno gyda digwyddiadau cymunedol lleol lle’n bosib

Hybu gwaredu sbwriel, ailgylchu, a pherchnogaeth anifeiliaid anwes cyfrifol

Cefnogi tenantiaid bregus/hen oed i gynnal eu gerddi unigol

Adolygu sut gyfathrebwn ni digwyddiadau ar y gorwel a rhannu allbynnau gyda thenantiaid – sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

Yn ddiddorol, gwnaeth bron 50% o rheiny a ymatebodd i’r arolwg ddangos diddordeb mewn cael pop-up digidol h.y. lle dderbynia denantiaid e-bost neu neges destun. Felly, rydyn yn edrych yn ymhellach i hyn gan fydd hyn yn ein galluogi ni i wneud cyswllt mwy rheolaidd gyda’n tenantiaid a datrys unrhyw broblemau sydd gennyn yn gyflymach.

Mae ein pop-up nesaf yng Nghlos Magellan, Clos Columbus, a Chlos Llawhaden ar 1 o Orffennaf am 11:30yb. Edrychwn ymlaen i ymweld â thenantiaid yn yr ardal yma.

Newyddion diweddaraf