Posted 25.03.2025

Eich Cylchlythyr Mewn Ffocws Mawrth 2025

Helo, Tracy ydw i, eich Swyddog Cyfranogiad. Croeso i rifyn mis Mawrth o Mewn Ffocws!

Yn y rhifyn hwn, rydym yn trafod safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnwys tenantiaid a sut rydym yn gweithio i'w cyrraedd. Fe gewch chi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau diweddar Tîm Craffu Cadarn, a'n strategaeth 'Cysylltiadau Cymunedol' sydd ar ddod. Hefyd, dysgwch sut gallwch chi gymryd rhan yn ein Panel Darllen.

Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chynnwys tenantiaid - cysylltwch â mi ar tracy.james@newydd.co.uk

E-bostiwch Tracy


Rhowch eich barn i ni am ein digwyddiadau galw heibio cymunedol

Yn dilyn y pandemig yn 2022, fe gyflwynom ddigwyddiadau galw heibio cymunedol i gynyddu rhyngweithio wyneb yn wyneb â staff Newydd. Rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau galw heibio ar draws ein hystadau i glywed eich llais a deall yr hyn sy'n bwysig i chi.

Yn ystod y digwyddiadau hyn, mae staff wedi:

  • Cefnogi tenantiaid gyda phryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwaith dilynol ar atgyweiriadau
  • Gwneud atgyfeiriadau ar gyfer cymorth ariannol, digidol ac addasiadau
  • Cynnal sesiynau codi sbwriel/cael gwared ar sbwriel swmpus
  • Darparu gwasanaeth tasgmon ar gyfer mân dasgau 

 Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus, ond rydym yn anelu at wella. A fyddech cystal â threulio 5 munud yn cwblhau arolwg am y digwyddiadau galw heibio rydych chi wedi'u mynychu a rhannu awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl gyda 3 chyfle i ennill £25!

Dyddiad cau: Dydd Llun 31ain Mawrth 2025

Diolch i chi am eich amser ac adborth.

Cwblhewch yr arolwg


Mae newid cadarnhaol yn dod!

Mae cynnwys tenantiaid yn bwysicach nag erioed. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am adborth ar eu safonau. Eu nod yw sicrhau bod gan denantiaid lais cryfach yn y gwasanaethau tai drwy:

✔ Canolbwyntio ar effaith - Pwysleisio canlyniadau cynnwys tenantiaid, nid dim ond cynnig cyfleoedd i gymryd rhan.

✔ Gwella boddhad tenantiaid – Nid cyflawni lefelau boddhad uchel yn unig yw'r nod ond eu cynnal a'u gwella dros amser, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel atgyweirio, cynnal a chadw, cefnogi tenantiaeth, diogelwch personol a dyrannu tai.

✔ Cael gwasanaethau teg – Dylai gwasanaethau tai ddiwallu anghenion amrywiol a darparu canlyniadau teg i bob tenant. 

✔ Darparu gwybodaeth glir a hygyrch – mae'n rhaid i landlordiaid roi digon o wybodaeth am berfformiad fel y gall tenantiaid adolygu a chwestiynu penderfyniadau. 

✔ Rhoi cyhoeddusrwydd i fframwaith cynnwys – Rhaid cael system glir ac effeithiol ar gyfer cynnwys tenantiaid, gyda ffocws ar foddhad tenantiaid. 

✔ Profi effaith cynnwys tenantiaid – mae angen i landlordiaid ddangos sut mae adborth tenantiaid wedi llywio gwasanaethau a phenderfyniadau.

  ✔ Gwerth am arian – Rhaid i denantiaid fod yn rhan o'r gwaith o sicrhau bod gwasanaethau'n darparu gwerth da ac yn gost-effeithiol. 


Cydweithio i wella gwasanaethau

Er mwyn bodloni safonau Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweithio gyda thenantiaid, TPAS Cymru, a Tai Pawb i greu Strategaeth Cynnwys Tenantiaid newydd, cynllun gweithredu, ac Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA). Cymeradwywyd y rhain gan y Bwrdd ym mis Chwefror. Byddwn yn parhau i gynnwys tenantiaid ym mhob agwedd ar ein busnes a gwella ein gwasanaethau. Byddwn yn parhau i rannu ffyrdd i chi gymryd rhan a rhoi adborth fel y gallwch weld effaith gadarnhaol cynnwys tenantiaid.


Teilwra Gwasanaethau

Er mwyn sicrhau nad yw ein gwasanaethau yn rhoi unrhyw un dan anfantais ar sail eu nodweddion gwarchodedig h.y. oedran, anabledd, neu hil ac ati, mae'n hanfodol eich bod yn rhannu gwybodaeth bersonol allweddol gyda ni. Yna gallwn wneud addasiadau rhesymol i ddiwallu eich anghenion. Gallwch ddiweddaru eich cofnod personol ar FyNewydd neu gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmer a fydd yn hapus i ddiweddaru eich cofnod i chi.


Diweddariad Tîm Craffu Cadarn

Fis Hydref diwethaf, dechreuodd Tîm Craffu newydd Cadarn ar eu rôl o’n helpu ni i gyrraedd safonau Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau tai teg, diogel ac o ansawdd uchel i bawb.

Mae’r Tîm wedi ein helpu i ddatblygu ein:

  • Strategaeth Cynnwys Tenantiaid newydd, cynllun gweithredu ategol ac asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
  • Strategaeth Cydraddoldeb newydd ac asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb i'w chefnogi hi
  • Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb y Cynllun Corfforaethol newydd
  • Cynllun ymgysylltu â thenantiaid Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
  • Polisi cwynion
  • Hunanwerthusiad Llywodraeth Cymru,
  • Gwefan newydd Grŵp Cadarn, a
  • hefyd wedi ystyried adborth tenantiaid yr arolwg rhent blynyddol

Derbyniodd y Tîm hyfforddiant cydraddoldeb, rhagfarn anymwybodol, a gwrth-hiliaeth ym mis Ionawr; maen nhw newydd gwblhau eu Cylch Gorchwyl a'u Cod Ymddygiad; ac maent wedi dewis adolygu eu pwnc cyntaf, sef taliadau gwasanaeth, a fydd yn digwydd ym mis Ebrill. 

Cwrdd â Thîm Craffu Cadarn

Tenantiaid Newydd

Tenantiaid Cadwyn

Amanda Lawrence (Cadeirydd)

Cath Kinson

Emma Newbury

Lianne Young

Ceri Smith

Kalpana Natarajan

Sue Bond

Shani Payter (hefyd yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol)

Rhys Humphreys (Is-Gadeirydd)

Audrey Chapman

Wayne Gill

Rosemary Kiputa

Inas Alali

Natalie Malatesta (hefyd yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol)

Pan wnaethom recriwtio tenantiaid ar gyfer y Tîm Craffu newydd, roeddem yn awyddus i sicrhau bod llais cryfach gan denantiaid ar lefel Bwrdd. Mae dau o'r tîm hefyd yn aelodau o'r Bwrdd Gweithredol!


Datblygu ein 'Cysylltiadau Cymunedol'

Rydym yn y broses o ddatblygu Strategaeth Cynaladwyedd Tenantiaeth ac Ymgysylltiad Cymunedol a chynllun gweithredu newydd a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd. Nod y strategaeth hon, o'r enw 'Cysylltiadau Cymunedol', yw cofnodi'r gwaith rhagorol yr ydym yn ei wneud a darparu fframwaith ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Mae’n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldebau
  • Sgiliau a hyfforddiant
  • Iechyd a lles
  • Cynaladwyedd Cefnogaeth a chydweithio


Materion Darllen

Rydym yn chwilio am fwy o denantiaid i gymryd rhan yn ein Panel Darllen! Fel aelod o'r panel, byddwch yn ein helpu i adolygu polisïau a dogfennau drwy e-bost, gan sicrhau bod ein cyhoeddiadau a'n cyfathrebiadau yn glir, yn ddefnyddiol ac yn hawdd eu deall. Yn ddiweddar, ymgynghorwyd â’n Panel Darllen a’n Tîm Craffu ar y cynnwys ar gyfer gwefan Cadarn yn y dyfodol, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion tenantiaid.

Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn dweud eich dweud, e-bostiwch Tracy James ein Swyddog Cyfranogiad ar tracy.james@newydd.co.uk ac fe wnawn ni eich ychwanegu at y rhestr bostio.

E-bostiwch Tracy James

Newyddion diweddaraf