Croesawu ein Rheolwr Prosiect Graddedig newydd, Morgan Evans
Mae hi’n bleser mawr cael cyflwyno’r aelod diweddaraf i dîm Newydd, ein Rheolwr Prosiect Graddedig, Morgan Evans.
Dyma beth oedd ganddi hi i’w ddweud am ei phrofiad yn y diwydiant adeiladu a ychydig am ei rôl hi yn gweithio i Newydd.
"I fod yn berffaith onest, wnaeth y syniad o ddilyn gyrfa mewn rheoli prosiectau adeiladu ddim croesi fy meddwl yn ystod fy mlynyddoedd olaf yn yr ysgol, na hyd yn oed yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Doedd e byth yn opsiwn oedd yn cael ei drafod, yn enwedig gyda merched, yn ystod sgyrsiau gyrfaoedd. Roedd hi’n ymddangos mai opsiwn i fechgyn yn unig oedd y diwydiant adeiladu. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r pwnc ‘Daearyddiaeth Ddynol’ yn yr ysgol, ac fe ddes i ar draws y cwrs ‘Cynllunio a Datblygu Trefol’ ym Mhrifysgol Caerdydd. Eto, roedd gen i ddiddordeb yn y pwnc hwn gan nad oedd e’n rhywbeth oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen. Roedd y cwrs yn edrych yn reit niche. Doedd dim llawer ohonom ni ar y cwrs i gymharu â chyrsiau eraill, ac fel y gallwch chi ddychmygu, dynion oedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr - ond doedd hyn ddim yn fy mhoeni i.
Yn ystod fy ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf yn y brifysgol, fe benderfynais i fynd i chwilio am brofiad gwaith o fewn adran ddatblygu cymdeithas dai. Fe ddewisodd nifer o fy ffrindiau coleg ymgynghoriaethau cynllunio, ac i fod yn onest fe wnaeth hyn i fi banicio ychydig gan mai fi oedd un o’r ychydig rai na aeth i lawr y llwybr hwnnw. Ond y peth gorau wnes i erioed oedd cael profiad gwaith mewn adran ddatblygu cymdeithas dai. Yn gyflym iawn fe ddes i i ddeall y broses gyffredinol o adeiladu tai fforddiadwy, ac fe wnaeth hyn arwain at gael fy swydd lawn-amser gyntaf mewn cymdeithas dai.
Yr unig amcan o weithio fel rheolwr prosiect ar gyfer cymdeithas dai yw darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu bod y swydd yn rhoi boddhad mawr pan mae cynllun wedi’i gwblhau, ac rydych chi’n medru gweld y gwahaniaeth rydych chi wedi’i wneud i fywyd rhywun. Rydw i wrth fy modd gyda’r gwahanol elfennau sydd i’r rôl. Mae llawer o’r gwaith yn cael ei wneud yn y swyddfa, yn cyfathrebu gyda’r gwahanol ymgynghorwyr a’r gwahanol awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Mae yna lawer o benderfyniadau i’w gwneud o gwmpas y cam arfarnu safle, ac rydym ni’n gweithio’n agos iawn gyda gwahanol adrannau er mwyn sicrhau datblygiad llwyddiannus. Dwi’n hoffi gweld cynnydd go iawn yn cael ei wneud wrth i chi symud drwy’r prosiect. Dwi’n cael cyfle i fynd i’r safle y rhan fwyaf o wythnosau, ac rydw i wir yn mwynhau’r elfen hon o’r rôl oherwydd mae’n gyfle i brofi fy sgiliau arolygu. Rydw i’n gweithio gyda thîm gwych sy’n gefnogol iawn ac sy’n arbennig o dda am eu gwaith. Mae dod i’r gwaith yn bleser.
Yn anffodus, ym mis Rhagfyr 2021, dim ond 10% o’r holl weithwyr yn y diwydiant adeiladu oedd yn fenywod. Rwy’n credu y byddai nifer o fenywod yn petruso cyn dechrau gyrfa yn y diwydiant adeiladu yn bennaf oherwydd ei fod yn cael ei adnabod fel diwydiant sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion. Doedd hyn ddim yn fy mhoeni i wrth ddechrau yn y diwydiant, mwy na thebyg gan fy mod i wedi bod yn chwarae a dilyn pêl-droed ers pan oeddwn i’n saith. Mae hi’n bwysig iawn newid agwedd pobl am fenywod yn ymuno â’r diwydiant ac mae hyn yn allweddol ar gyfer annog mwy o fenywod i ddilyn gyrfaoedd mewn adeiladu. Mae llawer o bobl yn credu mai dim ond mater o weithio ar y safle adeiladu ei hun yw’r ‘diwydiant adeiladu’, a gwisgo hetiau caled ac esgidiau safle bob dydd, ond dyw hyn ddim yn wir. Mi fydden i’n dweud bod 80% o fy ngwaith i’n cael ei wneud yn y swyddfa. Mi fydden i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y diwydiant i chwilio am brofiad gwaith er mwyn dod yn gyfarwydd ag e.
Rydw i’n credu y dylai ysgolion, prifysgolion a sefydliadau addysg eraill hybu’r diwydiant adeiladu fel gyrfa i bawb. Mae yna nifer o fuddion i weithio yn y diwydiant hwn ac mae yna wastad gyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu sgiliau. Mae dathlu menywod llwyddiannus yn y diwydiant adeiladu a dangos enghreifftiau o fenywod hanesyddol yn y diwydiant yn ffyrdd gwych o weithio yn erbyn stereoteipio ar sail rhywedd.
Yn lwcus iawn dwi’n teimlo nad ydw i wir wedi wynebu unrhyw rwystrau mawr fel dynes yn y diwydiant adeiladu hyd yn hyn. Rydw i’n gwybod fy mod i wedi cyrraedd lle ydw i drwy ddygnwch a gwaith caled. Yr unig beth fyddwn i’n dweud sy’n her bersonol yw hunan-amheuaeth. Wrth gwrs, mae’n medru bod yn eithaf anodd a bygythiol i fod yr unig fenyw ar safle gyda 20–30 o ddynion. Rwyf wedi dysgu jyst i fod yn hyderus, ac y dylwn i fod yn falch o fy hun fel yr unig fenyw yno - ac nid fi fydd yr unig un mewn ychydig flynyddoedd gobeithio. Po fwyaf o fenywod mae’r cyhoedd yn ei weld yn y diwydiant, y mwyaf hygyrch y daw’r diwydiant i fenywod a merched.