Wythnos SeroNet TPAS: Trawsnewid cartrefi ar gyfer dyfodol gwyrddach.
Helo bawb, Caroline sydd yma, y Swyddog Cyswllt Tenantiaid yma yn Newydd. Yr wythnos hon yw Wythnos SeroNet TPAS, wythnos sydd wedi’i neilltuo i drafod a hyrwyddo atebion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Heddiw, rwyf am rannu'r cynnydd rydym wedi'i wneud wrth weithredu'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Nod y rhaglen hon yw trawsnewid ein cartrefi i fod yn fannau ynni-effeithlon ac ecogyfeillgar sydd o fudd i'n tenantiaid a'r amgylchedd.
Dewch i ni ddechrau drwy edrych ar y darlun mawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol o leihau allyriadau carbon mewn 1.4 miliwn o gartrefi ledled Cymru. Y nod yw dod o hyd i'r cyfuniad perffaith o uwchraddiadau ynni-effeithlon ar gyfer pob cartref unigol. Mae'r ORP yn rhan hanfodol o'r genhadaeth hon. Mae uwchraddio'n cynnwys gwelliannau i strwythur yr adeilad, systemau gwresogi, defnydd o ddŵr, ac effeithlonrwydd ynni cyffredinol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y pwnc hwn, rwy'n argymell yn gryf eich bod yn edrych ar adroddiad Llywodraeth Cymru ‘Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell' yma.
Ein Cynnydd
Nawr, gadewch i ni ganolbwyntio’n benodol ar y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn. Fe ddechreuon ni ein taith ORP yn 2021 gyda 103 o gartrefi, gan fabwysiadu dull ‘ffabrig yn gyntaf’. Mae 'ffabrig yn gyntaf' yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar atgyweirio, inswleiddio, atal drafftiau, ac awyru cyn edrych ar nodweddion ychwanegol fel gosod paneli solar. Felly, ein nod yw gwella perfformiad yr adeilad cyn ychwanegu mwy o systemau. Ein blaenoriaeth yw mynd i'r afael ag elfennau hanfodol fel drysau allanol, ffenestri, inswleiddio’r atig, a phaneli solar. Wrth gwrs, gall yr uwchraddiadau penodol amrywio, yn dibynnu ar oed a deunydd pob eiddo, ond ein nod bob amser yw sicrhau effeithlonrwydd ynni uchel, yn ogystal â gwerth am arian.
Nawr, gadewch i ni glywed gan ein tenantiaid gwych sydd eisoes wedi profi buddion anhygoel y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). A'r dyfarniad? Maen nhw wrth eu bodd gyda'r canlyniadau! Cefais y pleser o siarad â thenantiaid o Rhondda Cynon Taf a gafodd ffenestri gwydr triphlyg newydd wedi'u gosod yn ddiweddar. Doedd ganddyn nhw ddim byd ond canmoliaeth i'w rannu: ‘Roedd y gosodwyr yn hynod o ystyriol, yn enwedig oherwydd bod gen i gathod dan do, a mab sydd ag anabledd. Fe wnaethon nhw hyd yn oed adael y lle yn lanach nag oedd pan ddaethon nhw i mewn iddo. Does gen i ddim cwynion o gwbl. Ers i’r ffenestri gael eu gosod, rydym wedi sylwi ar welliant sylweddol - dim mwy o ddrafftiau, ac mae ein cartref yn amlwg yn gynhesach ac yn dawelach. Mae'r ddau ohonom yn teimlo'n llawer mwy diogel.’
Yn yr un modd, cafodd tenantiaid eraill o Fro Morgannwg y System Ynni Ddeallus (IES) wedi’ii gosod ac roedd yn brofiad gwych. Dyma ddywedon nhw: ‘Roedd y peirianwyr a osododd y system IES yn gyfeillgar ac yn gwrtais. Fe wnaethon nhw waith gwych, gan adael dim llanast ar eu hôl. Roeddwn i'n teimlo'n hollol gyfforddus trwy gydol y broses osod. Fe wnaethon nhw hefyd sicrhau fy mod yn deall pwrpas y system. A phetai gennyf unrhyw gwestiynau, roeddwn i'n gwybod y gallwn gysylltu â Caroline.’
Yn ystod ail flwyddyn y rhaglen yn 2022, fe wnaethon ni ymestyn yr ORP i 110 o gartrefi eraill. Fel y Swyddog Cyswllt Tenantiaid, bu'n bleser gennyf ymweld â thenantiaid i drafod yr ORP yn fanwl ac i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gan ein tenantiaid. Mae'r holl adborth ac ymgysylltiad wedi bod yn bwysig wrth lunio'r rhaglen wych hon.
Edrych ar y niferoedd
Rydym wedi llwyddo i osod 64 o Systemau Ynni Deallus yng nghartrefi ein tenantiaid. Mae'r dyfeisiau hyn yn ein helpu i olrhain y defnydd o ynni, a chasglu data pwysig. Yna caiff y data hwn ei rannu â Phrifysgol Abertawe, sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i bennu'r gwelliannau ynni-effeithlon gorau ar gyfer ein cartrefi. Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio tuag at leihau ein hôl troed carbon, a gwneud cartrefi ein tenantiaid yn fwy effeithlon o ran ynni.
Ond nid dyna'r cyfan! Trwy ORP, rydym eisoes wedi gosod a chomisiynu paneli solar ar gyfer 34 o gartrefi. Mae rhai cartrefi hyd yn oed wedi cael eu to cyfan wedi’i ailwampio, sy’n ein galluogi i integreiddio paneli solar i'w toeau newydd. Mae eraill wedi cael paneli solar wedi eu hychwanegu at eu toeau presennol. Rydym hefyd wedi blaenoriaethu hybu lefelau inswleiddio mewn 35 eiddo trwy roi deunydd inswleiddio ychwanegol yn yr atig. Mae tenantiaid eisoes yn elwa o dderbyn biliau trydan is, ac mae pawb ar eu hennill – y tenantiaid a'r amgylchedd.
Adborth tenantiaid
Credwn ei bod yn bwysig bod llais gan ein tenantiaid o ran yr ORP, lleihau allyriadau carbon, a chofleidio syniadau cynaliadwyedd. Dyna pam rydyn ni wedi creu grŵp o'r enw Grŵp Ffocws i Denantiaid ar Ddatgarboneiddio. Dechreuon ni'r grŵp hwn ym mis Ionawr 2022, ac rydym yn cynnal cyfarfodydd misol ar Microsoft Teams. Yn ystod yr hydref diwethaf, cawsom gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn un o'n cynlluniau Byw'n Annibynnol yn y Barri. Yn y grŵp hwn, rydym yn gwerthfawrogi barn a syniadau ein tenantiaid.
Gyda'n gilydd, rydym yn trafod sut y gallwn annog arferion da, lleihau allyriadau carbon, ac annog ein cymunedau a'n cydweithwyr i gymryd rhan. Rydym am i bawb chwarae eu rhan i ddiogelu'r amgylchedd nid yn unig er ein mwyn ni'n hunain, ond hefyd er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Os hoffech ymuno â'r grŵp a bod yn rhan o'r trafodaethau pwysig hyn, cysylltwch â mi drwy e-bostio caroline.evans@newydd.co.uk.
Nawr, i'r rhai hynny o'n tenantiaid sy'n aros eu tro yn eiddgar, rwyf am eich sicrhau bod eich cartref ar ein radar. Dros y degawd nesaf, byddwn yn cyrraedd pob un ohonoch. Felly, arhoswch yn amyneddgar, a byddwch yn dawel eich meddwl ein bod wedi ymrwymo i drawsnewid eich cartref yn hafan wyrddach a mwy cynaliadwy.

