Manteision cymunedol sylweddol yn Llandrindod
Mae datblygiad Cymdeithas Tai Newydd ar Ffordd Ithon, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, wedi dod â manteision cymunedol sylweddol i ardal Llandrindod.
Cyflawnwyd y mentrau hyn, sy'n werth bron i £11,000, gan gontractwr y prosiect, Hale Group, ac maen nhw'n adlewyrchu ymrwymiad cryf i roi yn ôl i'r gymuned leol.
Fel rhan o'i ymgysylltiad â'r gymuned, mae Hale Group wedi ariannu a chwblhau amrywiaeth o brosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghenion lleol. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys adnewyddu mannau cymunedol, megis adnewyddu meinciau mynwentydd, a gwelliannau sylweddol i ysgolion lleol a chanolfannau cymunedol.
Darparodd y contractwr wisg ysgol newydd a chinio Nadolig i wirfoddolwyr Ysgol Trefonnen fel rhan o fenter Oergell Gymunedol. Gwnaethant hefyd waith cynnal a chadw a phaentio yn Narpariaeth Lloeren Ysgol Penmaes ac Ysgol Gynradd Y Groes. Ar ben hyn, gosodwyd boeler newydd yn Celf o Gwmpas, ac adnewyddwyd y bloc toiledau ym Mharc Llanllŷr i sicrhau bod y cyfleusterau hyn mewn cyflwr rhagorol at ddefnydd y gymuned. Cwblhawyd yr holl waith i'r safonau uchaf, gan gwmpasu llafur a deunyddiau.
Dywedodd Rhodri Boosey, Rheolwr Contractau yn Hale Group, “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Newydd i gefnogi prosiectau cymunedol lleol dros y blynyddoedd diwethaf, yn unol â’n datblygiad Ffordd Ithon. Mae hyd y prosiect aml-gyfnod wedi rhoi cyfle gwych i ni adael rhoddion diriaethol hirdymor yn Llandrindod.”
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet dros Gysylltu Powys, “Rwyf wedi cael y pleser o weithio’n agos gyda Hale a Newydd ers i mi gael fy ethol gyntaf yn 2019. Maent bob amser wedi bod yn gyflym i fynd i’r afael â phryderon yr wyf wedi’u codi ar ran preswylwyr ac ymgysylltu'n rhagweithiol mewn perthynas â'r cyfnod datblygu diweddarach hwn i sicrhau bod yr effeithiau posibl ar drigolion presennol yn cael eu lleihau. Ond, yn fwy na hynny, maent wedi gwneud pwynt o estyn allan ataf fel Cynghorydd lleol i helpu i nodi prosiectau y gallent fuddsoddi ynddynt i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol, a gadael etifeddiaeth barhaus iddi. I ddechrau, gwnaed hyn drwy adnewyddu porth a rheiliau’r fynwent ac, ar yr achlysur hwn, ailosod meinciau adfeiliedig er budd y rhai a oedd yn ymweld â safle’r fynwent. Mae’r adborth cadarnhaol a gefais yn cadarnhau bod eu haelioni ysbryd (a’u cyllid) wedi’i dderbyn â diolch.”
Dywedodd Rachel Honey-Jones, Pennaeth Adfywio Cymunedol Cymdeithas Tai Newydd, "Rydym yn falch iawn o weld yr effaith gadarnhaol y mae'r prosiectau cymunedol hyn wedi'i chael yn Llandrindod. Mae datblygiad Ffordd Ithon bob amser wedi ymwneud â mwy na darparu tai o safon yn unig—mae hefyd yn ymwneud â buddsoddi yn y gymuned. Hoffem ddiolch i Hale Group sydd wedi gweithio’n galed i gael effaith gadarnhaol barhaus yn yr ardal.”
Bydd datblygiad Ffordd Ithon, a gyfarwyddwyd gan Gymdeithas Tai Newydd, yn darparu 79 o gartrefi ar rent fforddiadwy i bobl leol. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, bydd y datblygiad yn cynnig cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely, byngalos 2 ystafell wely, a thai 2, 3 a 4 ystafell wely. Mae’r cartrefi hyn yn ychwanegol at y 55 o gartrefi ar Ffordd Ithon a gwblhawyd eisoes gan Newydd yn 2021.
Bydd y cartrefi ffrâm bren newydd hyn yn cael eu gosod â phympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar ffotofoltäig, gan helpu i leihau ôl troed carbon a biliau ynni. Mae aelodau eraill y tîm dylunio a gyflogir ar y cynllun tai newydd hwn yn cynnwys RPA Group, Smart Associates, Asbri Planning, Chamberlain Moss King, Indigo Safety Management, a Fiona Cloke Associates.
Anogir trigolion lleol sydd â diddordeb mewn rhentu'r eiddo hyn i gofrestru gyda Chartrefi ym Mhowys i wneud cais.
O'r chwith i'r dde, y Cynghorydd Jake Berriman; Aelod Cabinet dros Gysylltu Powys, Jonathan Jones; Cydlynydd Budd Cymunedol Cymdeithas Tai Newydd, Dionne Herbert; Swyddog Gwerth Cymdeithasol a Rhodri Boosey; Rheolwr Contract, y ddau yn Hale Group.