Newyddion: Eich cylchlythyr mis Medi
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:
- Newidiadau i gontractwyr yn Y Drenewydd a Llandrindod
- Ymunwch â'n Panel Tenantiaid a chael talebau gwerth £25 ar gyfer pob cyfarfod
- Haliwch hyd at £200 o help ychwanegol ar gyfer Hanfodion Ysgol
- Yma i helpu gyda chostau byw
Newidiadau i gontractwyr yn Y Drenewydd a Llandrindod
Yn ddiweddar, fe ychwanegom SPH Plumbing & Electrical at ein rhestr o gontractwyr cymeradwy. Maent yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol a byddant yn gweithio ar ein heiddo gwag i helpu ein staff yn ardaloedd Y Drenewydd a Llandrindod.
Maen nhw’n brofiadol yn y farchnad ac mae ganddynt gytundebau gyda chymdeithasau tai eraill.
I roi gwybod am unrhyw broblemau cynnal a chadw, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0303 040 1998 neu e-bostiwch wasanaethau cwsmeriaid ar enquiries@newydd.co.uk
Ymunwch â'n Panel Tenantiaid a chael talebau gwerth £25 ar gyfer pob cyfarfod
Rydym yn creu Panel Tenantiaid newydd o 10 aelod i drafod darparu gwasanaeth, boddhad tenantiaid a mwy. Bydd rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhai yn rhithwir a byddant yn cael eu cynnal am yn ail fis.
Tâl: taleb siopa £25 ar gyfer pob cyfarfod a fynychir.
I wneud cais: Am becyn cais neu os oes angen cymorth arnoch, e-bostiwch Tracy.James@newydd.co.uk.
Os nad yw’r cyfleoedd uchod yn addas i chi, mae grwpiau gwirfoddol eraill ar gael i chi:
- Panel Darllen a Pholisi
- Panel Recriwtio Staff
- Panel Buddion Cymunedol
- Grŵp y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio
- Ymgynghoriadau Cynhwysiant Digidol
 diddordeb? E-bostiwch Tracy.James@newydd.co.uk
Os hoffech chi fanteisio ar y cyfleoedd uchod ond eich bod yn cael trafferth mynd ar-lein, ffoniwch ni ar 0303 040 1998. Gall Scott a Nia o'n Tîm Cynhwysiant Digidol ddarparu cyfrifiadur a rhywfaint o hyfforddiant i chi.
Haliwch hyd at £200 o help ychwanegol ar gyfer Hanfodion Ysgol
Yw eich plentyn yn gymwys i gael Cinio Ysgol am Ddim?
Haliwch hyd at £200 o help ychwanegol ar gyfer Hanfodion Ysgol os yw eich plentyn yn gymwys i gael Cinio Ysgol Am Ddim.
Os ydynt yn gymwys, gallent gael:
- hyd at £200 ar gyfer Hanfodion Ysgol
- arian ychwanegol ar gyfer eich ysgol
Cliciwch yma i ddarganfod mwy.
Yma i helpu gyda chostau byw
Ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth?
Oeddech chi'n gwybod y gallai fod gennych chi hawl i gredyd Pensiwn?
I wybod pa gymorth sydd ar gael i chi:
https://www.llyw.cymru/yma-i-h...
Neu ffoniwch linell gymorth Advicelink Cymru am ddim ar 0808 250 5700