Newyddion: Eich cylchlythyr mis Hydref
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:
- Peidiwch ag oedi, mynnwch help heddiw!
- Ydych chi dros oedran pensiwn y wladwriaeth?
- Mwynhau Calan Gaeaf ar gyllideb
- Cadw’n saff o gwmpas tân gwyllt
- Byddwch yn wyliadwrus o siarcod benthyg arian
- Dodrefn NuLife
Peidiwch ag oedi, mynnwch help heddiw!
Cwrdd â Ruth o’n Tîm Cynhwysiant Ariannol
Yn ddiweddar, cyfeiriodd un o’n Swyddogion Tai denant at ein Tîm Cynhwysiant Ariannol oherwydd problemau yr oedd yn eu cael gyda’u budd-daliadau. Yna ymwelodd Ruth â’r tenantiaid i gywiro eu Credyd Cynhwysol gan fod y cais yn anghywir. Llwyddodd Ruth i gynyddu eu hincwm wythnosol tuag at gostau tai, cynyddu eu lwfans personol Credyd Cynhwysol a gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor a gostyngiadau. Fel diolch, rhoddodd y teulu'r tusw hyfryd hwn o flodau iddi!
Derbyniodd y tenantiaid:
- Cynnydd tuag at eu costau tai: £283 y mis
- Cynnydd tuag at eu lwfans personol Credyd Cynhwysol: £177 y mis
- Gostyngiad Treth y Cyngor a gostyngiadau: £143 y mis
Cyfanswm o £603 y mis yn well arnynt! A’r cwbl diolch i gefnogaeth ein Swyddogion Tai a’n tîm Cynhwysiant Ariannol!
Os ydych yn cael anawsterau ariannol, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni. Gallwch siarad â’ch Swyddog Tai neu gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid a all eich cyfeirio am gymorth.
-
Ydych chi dros oedran pensiwn y wladwriaeth?
Oeddech chi'n gwybod efallai y bydd gennych hawl i Gredyd Pensiwn? Bydd hyn yn rhoi'r hawl i chi gael Taliad Tanwydd Gaeaf.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/taliad-tanwydd-gaeaf
I weld a ydych chi'n gymwys ac i hawlio'ch arian, ewch i:
https://www.llyw.cymru/yma-i-helpu-gyda-chostau-byw
Neu ffoniwch linell gymorth Advicelink Cymru am ddim ar 0808 250 5700
-
Mwynhau Calan Gaeaf ar gyllideb
Os ydych chi yn edrych i arbed arian y tymor yma, dyma rai awgrymiadau a thriciau i fwynhau Calan Gaeaf eleni ar gyllideb!
- Cyfnewid gwisgoedd: Am ychydig o newid bob blwyddyn, bath am gyfnewid gwisgoedd gyda’ch ffrindiau a’ch teulu?
- Gwneud eich gwisg eich hun: Beth am wneud eich gwisg eich hun? Gallwch wneud addasiadau i ddillad yr ydych yn berchen yn barod.
- Ail-law: Mae prynu dillad ail-law yn ffordd wych o greu gwisg. Beth am ymweld â’ch siop ddillad ail-law lleol i chwilio am rai eitemau!
- Noson Ffilm: Gallech gynnal noson ffilm Calan Gaeaf gyda ffrindiau a theulu.
- Cast neu geiniog: Os oes gennych chi blant, beth am wneud cast neu geiniog o ddrws i ddrws?
- Addurniadau Crefft: Gallwch greu addurniadau Calan Gaeaf trwy ddefnyddio deunyddiau sylfaenol fel papur lliw a siswrn.
- Cerfio Pwmpen: Mwynhewch droi pwmpen yn Jac Lantar. Peidiwch â gadael i weddill y bwmpen honno fynd i wastraff, gallwch chi wneud cawl pwmpen flasus!
-
Cadw’n saff o gwmpas tân gwyllt
Gyda Chalan Gaeaf, Diwali, Noson Tân Gwyllt, Blwyddyn Newydd Tsieineaidd a digwyddiadau eraill i ddod, sicrhewch eich bod yn cadw’n ddiogel o amgylch tân gwyllt.
Dyma rai awgrymiadau diogelwch i’ch help chi'r tymor hwn:
- Cynnau tân gwyllt: Cyneuwch dân gwyllt hyd fraich bob amser a sefyll ymhell yn ôl. Os nad yw tân gwyllt wedi diffodd, peidiwch â mynd yn ôl ato, fe allai ffrwydro o hyd.
- Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch yn cynnau tân gwyllt.
- Cadwch eich anifeiliaid anwes tu fewn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich anifeiliaid anwes tu fewn i osgoi achosi unrhyw drallod iddynt.
- Byddwch yn ofalus gyda ffyn gwreichion: Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan 5 mlwydd oed. Hyd yn oed pan fydd ffyn gwreichion wedi mynd allan, maen nhw’n dal yn boeth. Felly rhowch nhw allan ar ôl eu defnyddio.
- Peidiwch â chynnau tân gwyllt yn hwyr yn y nos: Parchwch eich cymdogion a chofiwch fod yna gyfreithiau i’w dilyn.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
-
Byddwch yn wyliadwrus o siarcod benthyg arian
Gyda thymor y Nadolig yn agosáu, byddwch yn ofalus gyda sgamiau a siarcod benthyg arian.
Peidiwch ag ystyried benthyca arian yn breifat. Mae'n debygol y byddwch chi'n talu llawer mwy nag y gwnaethoch chi ei fenthyg yn wreiddiol. Efallai y daw amser pan na allwch wneud ad-daliad a gallech ganfod eich hun, neu'ch teulu, yn cael eich bygwth â thrais.
Os ydych yn poeni am fenthyciwr arian yn eich ardal chi neu’n cael eich bygwth gan fenthyciwr arian, gallwch roi gwybod amdanynt i Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru sy’n rhedeg llinell gymorth gyfrinachol 24 awr ar 0300 123 33 11.
Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru
-
Dodrefn NuLife
Ydych chi’n chwilio am ddodrefn fforddiadwy? Efallai eich bod yn clirio ystafell? Neu efallai eich bod chi eisiau bod yn wirfoddolwr? Ymwelwch â Dodrefn NuLife!
Gyda help gwirfoddolwyr, mae Dodrefn NuLife yn casglu dodrefn a nwyddau gwynion am ddim. Mae gan y nwyddau hyn oes ddefnyddiol o hyd ac efallai y byddant fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’r rhain yn eitemau sy’n cael eu rhoi i bobl mewn angen neu eu gwerthu am gost isel. Mae unrhyw elw a gynhyrchir yn mynd yn syth yn ôl i NuLife.
Mae NuLife wedi’i leoli ym Mae Caerdydd ac mae’n gweithredu yng Nghaerdydd a’r Barri. Mae eu hystafell arddangos ar agor o 10yb – 3yp o ddydd Mercher i ddydd Gwener.
Cyfeiriad:
NuLife Furniture
Walters Building
Clarence Road,
Bae Caerdydd,
CF10 5FA