Posted 30.04.2024

Newyddion: Eich cylchlythyr mis Mai

Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:

1. Gwneud cartrefi'n fwy ynni effeithlon

2. Ymdrin â'ch cwynion

3. Beth ydych chi'n ei feddwl am ein gwasanaethau mewn gwirionedd?

4. Amddiffyn eich anwyliaid rhag mwg ail-law

5. A yw eich eiddo mewn perygl?

6. Gorsaf Dân Tonypandy yn ysbrydoli meddyliau ifanc


Gwneud cartrefi'n fwy ynni effeithlon

Fel rhan o Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru rydym wedi bod yn gwneud ein cartrefi'n fwy ynni effeithlon. Rydym wedi bod yn gosod inswleiddiad llofft, ffenestri, drysau allanol, paneli solar neu os oes angen adnewyddu'r to, rydym wedi bod yn gosod systemau paneli solar integredig.

Rydym hefyd yn y broses o osod pympiau gwres ffynhonnell aer newydd i nifer fach o eiddo ble roedd angen uwchraddio eu pwmp presennol.

Mae ein contractwr GB-SOL wedi bod yn gosod paneli solar yn ddiweddar ac rydym wedi cael adborth gwych gan denantiaid am y gwaith hyd yn hyn:

“Hapus iawn gyda’r cyfathrebiad gan Gareth, fe roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i ni bob amser. Fe gollon ni ein signal Sky pan godwyd y sgaffaldiau ond roedd y bois yn gyflym iawn wrth datrys y broblem.”

Yn ddiweddar, adnewyddodd Sustain Homes Ltd 4 pwmp gwres i gartrefi oedd â phympiau hen ffasiwn. Cymerodd rhwng 2 a 3 diwrnod i osod y systemau gwresogi newydd yn yr eiddo hyn. Dywedodd un tenant wrthym:

“Roedd y gweithwyr yn anhygoel ac yn barchus tuag atom ni a’n cartrefi. Roedd Mike y peiriannydd yn eithriadol. Aethant y tu hwnt ir disgwyl. Roedd ganddynt gynfasau plastig tra'n gweithio ac yn glanhau ar ôl eu hunain. Pobl broffesiynol iawn.”

Er mwyn ein galluogi i fonitro lleithder a thymheredd yn eich cartrefi rydym wedi bod yn gosod system Aico hefyd. Synhwyrydd amgylcheddol yw hwn i sicrhau bod yr holl waith uchod yr ydym yn ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar eich cartref.

Ymunwch â'n grŵp ffocws

Mae gennym grŵp ffocws tenantiaid sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio sy’n cynnwys trafod manteision paneli solar, systemau gwresogi newydd, ôl troed carbon, y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a thlodi dŵr.

Hoffem gael eich barn ar y pynciau hyn. Mae'r grŵp yn cyfarfod unwaith bob 3 mis. Mae ein cyfarfod nesaf ar Ddydd Mercher 15fed Mai am 10.30am, gallwch ymuno â ni ar-lein neu yn bersonol yn ein swyddfa yn Nhongwynlais, Caerdydd. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch neges destun at Caroline ar 07501 052835 gyda’ch enw, cyfeiriad a “GRŴP FFOCWS” neu anfonwch e-bost ati ar caroline.evans@newydd.co.uk


Ymdrin â'ch cwynion

Yn ddiweddar, sefydlwyd grŵp tenantiaid i adolygu sut yr ydym wedi ymdrin â chwynion ffurfiol diweddar. Cafodd y grŵp eu cyfarfod cyntaf ar 4 Ebrill a derbyniom adborth gwerthfawr ar yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a beth y gellid ei wneud yn well.

Eisiau aelodau newydd

Mae angen mwy o aelodau ar ein grŵp tenantiaid. Os hoffech gymryd rhan i'n helpu i wella'r ffordd yr ydym yn ymdrin â chwynion, anfonwch e-bost i Hana ar hana.morgan@newydd.co.uk Bydd y grŵp yn cyfarfod bob 3 mis ar ddydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau o 10am - 12pm.

Dydw i ddim yn hapus gyda gwasanaeth Newydd

Os nad ydych yn fodlon ag unrhyw elfen o’r gwasanaethau a ddarparwn, rhowch wybod i ni fel y gallwn anelu at ddatrys eich cwyn cyn gynted â phosibl. Dyma crynodeb o'n proses gwyno a nodyn atgoffa o sut y gallwch ddweud wrthym am unrhyw rai o'ch pryderon. 


Beth ydych chi'n ei feddwl am ein gwasanaethau mewn gwirionedd?

Bob blwyddyn rydym yn gofyn i gwmni ymchwil marchnad annibynnol gynnal arolygon ffôn. Maen nhw'n cysylltu â thua 500 o denantiaid bob blwyddyn.

Enw'r cwmni a ddefnyddiwn yw Acuity ac maent yn dilyn set o gwestiynau sy'n ymwneud ag ystod o bethau megis atgyweiriadau, ansawdd eich cartref, eich cymuned, a yw ein staff yn barod i helpu ac a ydych yn meddwl bod eich rhent a'ch tâl gwasanaeth yn werth am arian.

Mae'r arolwg yn cymryd tua 10 -12 munud i'w gwblhau, a chynhelir y cyfweliadau ffôn ar amseroedd y cytunwyd arnynt, fel arfer rhwng 9am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10am a 6pm ar ddydd Sadwrn. Ni wneir unrhyw alwadau ar y Sul.

Amserlen yr Arolwg ar gyfer 2024/25. Disgwyliwch alwadau rhwng y dyddiadau hyn:

20 Mai i 8 Mehefin

19 Awst i 7 Medi

18 Tachwedd i 7 Rhagfyr

13 i 25 Ionawr 2025

Y rhif ffôn y bydd Acuity yn ei ddefnyddio yw 029 2255029. Os ydyn nhw'n eich ffonio chi, rydym yn eich annog i ateb yr arolwg gan y bydd hyn yn ein helpu i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i chi.

Canlyniadau

Byddwn yn rhannu'r canlyniadau gyda chi yn flynyddol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi arolwg sy’n cymharu’r holl gymdeithasau tai a’u gwasanaethau. Cliciwch yma i weld canlyniadau’r llynedd.


Sut i amddiffyn ein staff, eich ffrindiau a'ch teulu rhag mwg ail-law

Yr unig ffordd i amddiffyn y rhai o'ch cwmpas rhag mwg ail law yw cadw'r amgylchedd o'u cwmpas yn ddi-fwg. Rydyn ni’n deall mai hwn yw eich cartref chi, felly rydyn ni’n gofyn i chi “helpwch ni gadw ein staff yn iach”. Pan fydd staff yn ymweld i wneud gwaith, gwnewch pob ymdrech i gadw mwg eich sigaréts i ffwrdd o’u mannau gwaith. Gellir gwneud hyn trwy

  • Ysmygu tu allan pan fydd staff yn eich cartref a gofyn i'ch ymwelwyr wneud yr un peth.
  • Os na allwch ysmygu y tu allan, smygwch mewn ystafell i ffwrdd o'r mannau gwaith ac agorwch y ffenestr.
  • Os oes gennych apwyntiad neu os byddwch yn derbyn neges destun i ddweud bod aelod o’n tîm ar eu ffordd, peidiwch ag ysmygu yn y tŷ yn ddelfrydol 2 i 3 awr cyn hynny.
  • Agorwch ffenestri mewn ystafelloedd lle rydych chi'n ysmygu neu lle bydd ein staff yn gweithio cyn iddynt gyrraedd neu gadewch iddynt wneud hyn pan fyddant yn cyrraedd.

Y ffordd fwyaf diogel o atal ysmygu goddefol yw rhoi'r gorau iddi, os ydych chi'n teimlo'n barod i wneud hyn dyma rai dolenni defnyddiol

Hela Fi i Stopio

Defnyddio e-sigaréts i roi'r gorau i ysmygu - NHS (Gwefan Saesneg)

Paan, bidi a shisha - NHS (Gwefan Saesneg)


A yw eich eiddo mewn perygl? Yswirio a chael tawelwch meddwl

Fel eich landlord rydym yn gyfrifol am strwythur ffisegol eich cartref gan gynnwys y waliau, y to a'r lloriau. Chi sy'n gyfrifol am yr eiddo yn eich cartref megis dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac addurniadau.

Er enghraifft, pe bai’r to yn gollwng byddem yn dod allan i atgyweirio'r to ac unrhyw ddifrod i strwythur eich cartref. Ni fyddem yn gyfrifol am adnewyddu unrhyw ddifrod a achosir i'ch eiddo personol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried polisi yswiriant cynnwys cartref i’ch diogelu rhag unrhyw ddifrod neu golled sy’n digwydd yn eich cartref. Efallai y cewch eich synnu faint yw gwerth eich holl eiddo.

Rydym wedi ymuno â Thistle Tenant Risks, a Royal & Sun Alliance Insurance Ltd sy’n darparu ‘My Home Contents Insurance Scheme’, sef polisi Yswiriant Cynnwys Tenantiaid a luniwyd ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol.

Gallwch gael Yswiriant Cynnwys Cartref hyd yn oed os ydych yn byw mewn ardal lle mae perygl llifogydd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw sicrhau eich bod yn dweud wrth y cwmni yswiriant yn eich ffurflen gais.

Cliciwch yma am ragor o fanylion neu gallwch ffonio Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288.

Cyfraddau yswiriant Thistle Insurance

Gorsaf Dân Tonypandy yn ysbrydoli meddyliau ifanc

Ar ddydd Llun 25 a dydd Mawrth 26 o Fawrth, ymwelodd pobl ifanc Rhydyfelin â Gorsaf Dân Tonypandy. Cawsant amser gwych yn dysgu am beryglon a chanlyniadau tanau glaswellt, sut i ddod yn ddiffoddwr tân a dysgon nhw hyd yn oed sut i ddiffodd tân eu hunain gan ddefnyddio offer arbenigol.

  • “Roedd bod yn ddiffoddwr tân am y diwrnod yn llawer o hwyl, rydw i wir eisiau bod yn ddiffoddwr tân yn y dyfodol, ac mae hyn wedi gwneud i mi eisiau hyn fwy.”
  • “Roedd yn dda iawn, fe wnaethon ni ddysgu llawer, defnyddio'r pibellau dŵr oedd y peth gorau.”
  • “Fe wnaeth i mi feddwl llawer mwy am beryglon tanau yn yr haf.”

Trefnwyd y teithiau hyn ochr yn ochr â Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Rhondda Cynon Taf er mwyn rhoi cyfle i 14 o bobl ifanc Rhydyfelin gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol.

Newyddion diweddaraf