Posted 18.03.2026

Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Mawrth

Croeso i'r Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn gallwch ddarllen yn y rhifyn yma:

  1. Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Gwaith - Eich Adborth
  2. Cwestiwn Y Mis - Mawrth 2026
  3. Ni'n Recriwtio
  4. Gweithredu Ar Dipio Sbwriel
  5. Cwrs Meddylgarwch Am Ddim Gyda eCymru

Gwasanaeth Tu Allan I Oriau Gwaith – Your Feedback

Diolch i bawb a gymerodd ran yn Cwestiwn Y Mis diwethaf am ein gwasanaeth brys y tu allan i oriau. 

Derbyniwyd 148 o ymatebion, ac rydym yn falch iawn o rannu bod 95% ohonoch yn fodlon â’r amser aros wrth gofnodi argyfwng. Rydym yn adolygu eich adborth yn rheolaidd i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gweithio’n dda, felly mae’n wych clywed bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn teimlo ei bod hi’n hawdd cysylltu â ni pan fydd angen cymorth brys.

Bydd adegau o alw uchel bob amser, megis yn ystod tywydd garw. Os byddwch erioed yn cael trafferth dod drwodd ar y ffôn, gallwch hefyd riportio argyfwng gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod.

Cliciwch yma i riportio argyfwng y tu allan i oriau.

A’r enillwyr yw… Llongyfarchiadau i Lee o’r Barri a Kevin o Gaerdydd ar ennill ein raffl £25 ar ôl ateb y Cwestiwn y Mis diwethaf. Cofiwch gymryd rhan y mis hwn drwy’r stori uchod am y cyfle i ennill talebau mis hwn.


Cwestiwn Y Mis - Mawrth 2026

Diolch i bawb a gwblhaodd Cwestiwn Y Mis ar gyfer Chwefror. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich adborth, ac fe allwch ddarllen isod sut rydym yn gweithredu ar eich sylwadau am ein gwasanaeth y tu allan i oriau.

Unwaith eto, gallwch roi eich enw i mewn ar gyfer ein raffl taleb £25 drwy ateb ein cwestiynau byr.

Y mis hwn rydym am wybod: 

• Mae Cymdeithasau Tai yn darparu llawer o wasanaethau. Pa un sy’n bwysicaf i chi? 

• A beth yw’r anrheg Sul y Mamau munud olaf mwyaf clasurol ?

Cliciwch yma i ateb Cwestiwn y Mis.

Ni'n Recriwtio

Mae Grŵp Cadarn yn tyfu, ac rydym yn chwilio am bobl wych i ymuno â’n tîm ac i helpu gwneud ein cymunedau’n lefydd hyd yn oed gwell i fyw ynddynt! Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer dwy rôl llawn amser:

Swyddog Byw’n Annibynnol (£26,105–£27,478, dyddiad cau 27 Mawrth 2026)

Goruchwyliwr Cynnal a Chadw (£41,800–£44,000, dyddiad cau 23 Mawrth 2026)

Os ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau - neu os ydych yn adnabod rhywun sydd - cliciwch yma i weld ein swyddi gwag cyfredol.

Gweithredu Ar Dipio Sbwriel

Mae Newydd yn cymryd camau pendant i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn ein cymunedau. 

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio’n agos gyda Thîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael â materion parhaus yn Nhonysguboriau. O ganlyniad i ymchwiliadau ar y cyd, mae tri o drigolion wedi’u hadnabod am dipio anghyfreithlon ac mae pob un ohonynt wedi cael Hysbysiad Adran 46 o dan y Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Cyngor i gadw ein cymdogaethau’n lân, yn ddiogel ac yn bleserus i bawb.


Cwrs Meddylgarwch Am Ddim Gyda eCymru

Mae Newydd yn falch o bartneru ag eCymru i gynnig 4 Wythnos o Feddylgarwch, gan ddechrau ar ddydd Iau 9 Ebrill. 

Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan diwtor profiadol sydd wedi treulio dros 30 mlynedd yn dysgu myfyrdod tosturiol meddylgar ar draws y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gwaith mewn hosbis leol ac elusen ganser Macmillan. Dros y pedair wythnos, cewch archwilio’r theori a’r wyddoniaeth y tu ôl i feddylgarwch tosturiol, rhoi cynnig ar ymarferion syml, a darganfod sut y gall meddylgarwch gefnogi bywyd iachach a hapusach. Mae croeso i bawb ymuno a rhoi cynnig arni. 

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf