Newyddion: Eich cylchlythyr mis Mehefin
Croeso i Newyddion! Dyma beth allwch ddarllen yn y rhifyn yma:
- Dyfarniad Rheoleiddiol Cadarn
- Amserlenni Atgyweiriadau
- Cwestiwn y Mis – Atebwch Am Gyfle I Ennill Taleb £25
- Ac Mae’r Canlyniadau Yma...: CYM Mai
- Ni'n Recriwtio
- Diogelwch Tân
- Cadarn, Cadwyn a Newydd: Ein Henwau Brand
- 15 Gorffennaf: Sut I Gysylltu  Ni Tra Bod Ein Tîm Profiad Cwsmeriaid I Ffwrdd
Dyfarniad Rheoleiddiol Cadarn

Mae Rheoleiddiwr Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i Grŵp Tai Cadarn (rhiant-gwmni Newydd) fod ei ddyfarniad rheoleiddiol, sy’n asesu sut rydym yn rheoli ac yn darparu gwasanaethau i denantiaid, yn cael ei adolygu.
Mae’r Rheoleiddiwr wedi cadarnhau nad oes unrhyw bryderon am wasanaethau Cadarn na diogelwch tenantiaid. Bydd ein holl wasanaethau, gan gynnwys atgyweiriadau a chefnogaeth i denantiaid, yn parhau fel arfer.
Ni fydd hyn yn effeithio ar eich tenantiaeth na’ch rhent.
Byddwn yn rhoi diweddariadau i denantiaid ar adegau allweddol ac, os bydd unrhyw beth yn newid, byddwn yn egluro’r holl ddatblygiadau yn glir ac ymlaen llaw. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod ynglŷn â hyn, cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@cadarn.co.uk neu ffoniwch 0303 040 1998.
Amserlenni Atgyweiriadau

Os oes angen atgyweiriad ar eich cartref, mae ein tîm medrus yma i helpu. Rydym wedi diweddaru ein proses atgyweirio i’w gwneud yn haws nag erioed i ddarganfod pa fathau o atgyweiriadau y byddwn yn eu gwneud a’r amserlen bydd yn ei gymryd i’w cwblhau.
Cofiwch roi gwybod am unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein proses atgyweirio.
Cwestiwn y Mis – Atebwch Am Gyfle I Ennill Taleb £25
Mae’n gyfle arall i ennill taleb siopa £25 drwy ateb ein Cwestiwn y Mis cyflym. Mae’n hawdd!
- Cliciwch y ddolen isod
- Atebwch ein harolwg 2 funud
- Teipiwch eich manylion cyswllt i fynd i mewn i’r raffl gwobrau
- Dyna ni!
Y mis hwn hoffem wybod:
- Wrth feddwl am atgyweiriadau a gwaith wedi'i gynllunio (e.e. ceginau, ystafelloedd ymolchi, toeau), pa wybodaeth hoffech chi i ni rhannu gyda chi?
- Ydy tadau yn haeddu rheolaeth llwyr o'r rheolydd teledu ar Sul y Tadau?
Darllenwch ymlaen isod i gael gwybod canlyniadau Cwestiwn y Mis diwethaf a’r enillwyr lwcus o’r talebau £25.
Cliciwch yma i ateb Cwestiwn y Mis.
Ac Mae’r Canlyniadau Yma...: CYM Mai

Y mis diwethaf, gofynnom ni, “Beth allwn ni ei wneud i’w gwneud yn haws i chi adael i ni ddod i mewn i’ch cartref ar gyfer gwiriadau diogelwch, fel gwiriadau nwy neu drydan?”
Fe roesoch lawer o adborth i ni a’r tri ateb uchaf oedd:
- Gwybod yn union pryd bydd y contractwr yn cyrraedd (18%)
- Y gallu i ddewis fy amser apwyntiad fy hun (13%)
- Neges atgoffa cyn yr ymweliad (12%)
Byddwn yn ystyried hyn i gyd ac yn rhoi gwybod i chi sut y byddwn yn gweithredu’r syniadau hyn.
A’r enillwyr yw… Llongyfarchiadau mawr i Pamela o Gaerdydd a Brooke o Landrindod ar ennill y talebau £25.
Cofiwch gymryd rhan yn raffl y mis hwn drwy ateb Cwestiwn y Mis.
Ni'n Recriwtio

Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau cyffrous ar draws Grŵp Cadarn. Oes un o’r rhain yn swnio fel y swydd i chi neu rywun rydych chi’n nabod? Cliciwch ar deitlau’r swyddi isod am ragor o wybodaeth.
Manylion cyflog: £34,249–£36,051
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026
£31,069–£32,704
5 Gorffennaf 2026
Diogelwch Tân

Gyda’r tywydd cynhesach yma, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r risg gynyddol o danau mewn cartrefi ac i amddiffyn eich eiddo pe bai’r gwaethaf yn digwydd. Darganfyddwch fwy am gamau syml y gallwch eu cymryd i leihau’r risg o dân yn eich cartref.
Cliciwch ymai ddarganfod mwy am ddiogelwch tân yn y cartref.
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi ymateb i nifer o adroddiadau am danau yn ein heiddo. Fel eich landlord, rydym yn darparu yswiriant adeilad ar gyfer eich cartref, ond eich cyfrifoldeb chi yw yswirio eich cynnwys. Rydym wedi partneru â Thistle Tenant Risks i gynnig yswiriant sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am yswiriant cynnwys.
Cadarn, Cadwyn a Newydd: Ein Henwau Brand
15 Gorffennaf: Sut I Gysylltu  Ni Tra Bod Ein Tîm Profiad Cwsmeriaid I Ffwrdd
Ni fydd ein Tîm Profiad Cwsmeriaid ar gael ddydd Mercher 15 Gorffennaf. Ond paid â phoeni! Rydym yn dal yma i’ch helpu os bydd argyfwng.
Ar y diwrnod hwn, os bydd mater brys yn codi na all aros, bydd ein llinellau ffôn arferol yn eich ailgyfeirio at ein contractwr tu allan i oriau Delta, neu gallwch gysylltu â nhw drwy gwblhau’r ffurflen yn y ddolen isod.
Fel arall, os nad yw’n argyfwng, gadewch e-bost i ni ar ymholiadau@cadarn.o.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Cysylltwch â Delta drwy e-bost tu allan i oriau yma.



