Posted 11.03.2025

Newydd yn buddsoddi mewn cartrefi newydd yn RhCT

Mae Newydd, sy'n rhan o Grŵp Tai Cadarn, yn parhau i fuddsoddi yn y ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy yn Rhondda Cynon Taf gyda dechrau dau ddatblygiad tai newydd, gan ddarparu 34 o gartrefi fforddiadwy yn y sir.

Mae'r cynlluniau yng Nghwm-bach a Thonyrefail yn cael eu hadeiladu mewn partneriaeth â’r contractwyr M&J Cosgrove Ltd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth cyllid gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Bydd y datblygiad cyntaf ar safle hen Ysgol Gynradd Cwmbach yn darparu 17 byngalo dwy ystafell wely, pob un wedi’i adeiladu i’r sgôr effeithlonrwydd ynni uchaf o EPC A. Bydd y cartrefi’n cynnwys systemau gwresogi a phaneli solar nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil, gan sicrhau effaith amgylcheddol isel a chartrefi cyfforddus i denantiaid.

Bydd y strwythurau ffrâm bren ar gyfer y datblygiad £4.8miliwn hwn yn cael eu hadeiladu gan Celtic Offsite, sydd ddim ond 15 milltir i ffwrdd. Mae'r buddsoddiad hwn nid yn unig yn cefnogi swyddi a sgiliau lleol ond mae hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiad Newydd i adeiladu tai cynaliadwy ac ynni-effeithlon. Bydd system ddraenio gynaliadwy yn cael ei hymgorffori yn y datblygiad, gan gynnwys ardal blodau gwyllt i wella bioamrywiaeth y safle.

Bydd yr ail ddatblygiad ar y Stryd Fawr yn Nhonyrefail yn cynnig 17 o gartrefi newydd ar rent fforddiadwy, hefyd wedi'u hadeiladu i EPC A. Mae'r cynllun yn cynnwys 14 o fflatiau un a dwy ystafell wely, 2 dŷ dwy ystafell wely yn ogystal â byngalo dwy ystafell wely.

Derbyniodd y cynllun £4.2 miliwn hwn gyllid gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghenion tai lleol.

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Grŵp Cadarn, "Rydym yn gyffrous i gyfrannu at dwf a chynaliadwyedd Rhondda Cynon Taf drwy'r buddsoddiadau sylweddol hyn mewn cartrefi newydd. Mae'r datblygiadau hyn nid yn unig yn darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen ond hefyd yn cefnogi swyddi a sgiliau lleol tra'n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol."

Gary Cosgrove, Cyfarwyddwr M&J Cosgrove Construction Ltd,“ 'Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o ddau gynllun sylweddol yn RhCT, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac i ailddatgan ein hymrwymiad cryf i weithio ochr yn ochr â'n partner gwerthfawr, Cymdeithas Tai Newydd, ar y prosiectau pwysig hyn'

Mynychodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant, ddigwyddiad lansio i ddathlu cynnydd y cynllun. Meddai, “Mae’r prosiect hwn yn dyst i’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â heriau tai yn ein cymunedau. Bydd y cartrefi newydd hyn yn Abercynon yn darparu llety fforddiadwy y mae mawr ei angen tra'n cwrdd â safonau amgylcheddol uchel, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol."

“Mae gweithio gyda phartneriaid fel Newydd i ddarparu cartrefi i’n preswylwyr yn un o’r camau niferus y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu cymryd i greu cartrefi y mae mawr eu hangen, ochr yn ochr â’n rhaglen hynod lwyddiannus i roi defnydd newydd i dai gwag a’n cynlluniau Gofal Ychwanegol i ddarparu byw’n annibynnol i breswylwyr hŷn gyda chefnogaeth os oes angen.

I wneud cais am gartref yn Rhondda Cynon Taf, mae angen i drigolion gofrestru gyda Ceisio Cartref RCT, cofrestr tai'r awdurdod lleol.

Newyddion diweddaraf