Posted 18.10.2023

Cymdeithas Tai Newydd yn cytuno pecyn cyllid newydd £45m gyda Danske Bank

Mae Cymdeithas Tai Newydd yn barod i weithredu rhaglen sylweddol o fuddsoddiad mewn cartrefi presennol a newydd yn ne a chanolbarth Cymru ar ôl cytuno pecyn cyllid newydd £45m gyda Danske Bank.

Y cyfleuster benthyca strwythuredig hwn yw cytundeb cyntaf Danske Bank gyda chymdeithas tai yng Nghymru, a bydd yn cael ei ddefnyddio i gyllido buddsoddiad parhaus, gan gynnwys uwchraddio a diweddaru cartrefi presennol yn y portffolio ac adeiladu cartrefi newydd.

Mae’r cyfleuster yn rhoi cryn dipyn o hyblygrwydd i Newydd, yn ogystal ag ymrwymiad hirdymor oddi wrth Danske. Trefnwyd y benthyciad gyda chefnogaeth Savills Financial Consultants, a gynghorodd Newydd drwy’r dull strategol codi arian, yn ogystal â’r gweithrediad.

Hyd yma, mae £15m o gyllid wedi’i dynnu i lawr ar gyfer ei fuddsoddi mewn prosiectau sydd eisoes wedi dechrau, gan gynnwys trydydd cyfnod y datblygiad yn Llandrindod, a fydd yn cynnig 79 o gartrefi newydd i bobl leol ac sy’n cael ei adeiladu mewn partneriaeth rhwng Newydd a Chyngor Sir Powys.

Mae gan Newydd darged o ddarparu 600 o gartrefi newydd dros y bum mlynedd nesaf, gan dyfu’r sefydliad gan o leiaf 20% o ran maint y stoc. Yn ogystal â darparu cartrefi atyniadol, fforddiadwy a hygyrch, mae’r gymdeithas hefyd yn ffocysu ar fuddsoddi mewn deunyddiau cynaliadwy a gwneud ei chartrefi’n effeithiol o ran ynni.

Er enghraifft, bydd y tai ffrâm bren yn Llandrindod, a fydd wedi’u cwblhau yn 2025, yn cael eu gosod â phympiau gwres ffynhonnell aer a hefyd yn cynnwys paneli solar ffotofoltäig, gan helpu i ostwng ôl troed carbon a biliau ynni, a rhoi sgôr EPC o A i’r eiddo.

Disgwylir i gyllid Danske drosi i fenthyciad sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd unwaith y bydd y broses o gytuno ar ddangosyddion perfformiad allweddol ESG wedi ei gwblhau.

Dywedodd Lee Bolderson, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Newydd:

“Bydd ein partneriaeth hirdymor newydd gyda Danske Bank yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn cartrefi newydd a pharhau i uwchraddio cartrefi presennol er mwyn cwrdd â’r galw parhaus am gartrefi fforddiadwy yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Dangosodd Danske ddealltwriaeth gref o’r sector tai cymdeithasol a chymerodd y banc yr amser i ddeall ein hanes a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at ddarparu cartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid am flynyddoedd i ddod diolch i’w cefnogaeth.”

Dywedodd Dominic O’Neill, Rheolwr Corfforaethol gyda Danske Bank: “Rydym yn falch iawn i gwblhau ein trafodiad cymdeithas tai cyntaf yng Nghymru gyda Chymdeithas Tai Newydd. Wrth i Newydd symud ymlaen gyda chynlluniau cyffrous i uwchraddio stoc ac adeiladu tai fforddiadwy newydd dros y blynyddoedd nesaf, mae Danske Bank yn falch iawn i’w cefnogi ar y siwrnai hon.

“Mae Danske Bank wedi bod yn brif ddarparwr cyllid i’r sector tai cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon am lawer o flynyddoedd ac wedi cwblhau nifer o drafodiadau sylweddol yn Lloegr mewn blynyddoedd diweddar. Mae’r trafodiad hwn yng Nghymru yn cydweddu’n dda gyda’n cynllun twf strategol o chwarae rhan weithredol i helpu’r sector i ffynnu.”

Dywedodd Alex Morgan, Cyfarwyddwr Savills Financial Consultants, a ddarparodd gyngor ar y ddêl: “Mae hwn yn drafodiad pwysig iawn i Newydd ac i’r farchnad Gymreig gyfan. Dyma’r trafodiad cyntaf i Danske yn y sector ac mae’n cyflwyno benthycwr newydd, cefnogol i Newydd wrth iddyn nhw ddechrau ar gyfnod nesaf eu twf a’u rhaglen fuddsoddi. Rydym wrth ein bodd cael cefnogi Newydd drwy bob cam o’r trafodiad hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weld effaith y buddsoddiad dros y blynyddoedd nesaf.

Mae gan Newydd eiddo ym Mro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Powys, Caerdydd a Chastell Nedd Port Talbot.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Dankse Bank. 

Newyddion diweddaraf