Mae Cadwyn yn bwriadu ymuno â Grŵp Newydd
Mae Cadwyn a Newydd wedi bod yn edrych ar ffyrdd o gydweithio i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n holl gwsmeriaid ar draws canolbarth a de Cymru. Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd Cadwyn yn parhau i weithredu fel ei endid cyfreithiol ei hun ond yn dod yn is-gwmni i Grŵp Newydd. Y dyddiad targed i Gymdeithas Tai Cadwyn ddod yn aelod o Grŵp Newydd yw gaeaf 2024. Dyma rannu ein bwriadau gyda chi yma a rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hyn y mae'n ei olygu i chi.
Pam ydym ni'n ystyried hyn?
Drwy ehangu’r busnes, gallwn rannu adnoddau a sgiliau a dod yn fwy effeithlon, a fydd yn rhyddhau arian i fuddsoddi yn ein cartrefi a datblygu gwasanaethau. Byddwn yn parhau i weithredu gyda'n ffocws ar ein tenantiaid yn ganolog i bopeth a wnawn.
Bydd ychwanegu Cadwyn fel aelod newydd o Grŵp Newydd hefyd yn cynyddu gwydnwch ariannol y ddau sefydliad ac yn gwella ein gallu i barhau i ddarparu tai fforddiadwy, er gwaethaf yr amgylchedd allanol heriol.
Beth mae'n ei olygu i chi?
Fel un o denantiaid Cymdeithas Tai Newydd, bydd eich landlord yn aros yr un fath. Ni fydd amodau eich tenantiaeth neu brydles a'r gwasanaethau a ddarperir i chi yn newid. Bydd eich rhent yn aros yr un fath a bydd yn cael ei gynyddu’n flynyddol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Ymgysylltu â'n tenantiaid
Rydym yn croesawu eich adborth ar y cynnig hwn a byddwn yn rhannu’r ymatebion â Bwrdd Newydd pan fyddant yn ystyried a ddylid cymeradwyo Cadwyn i ymuno â’r Grŵp ai peidio. Bydd yr holl breswylwyr yn cael gwybod am y penderfyniad terfynol o ran a ddylid bwrw ymlaen.
Ynghlwm wrth y llythyr hwn mae taflen sy'n nodi mwy o fanylion am y cynnig yn ogystal â rhestr o gwestiynau cyffredin a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi, gobeithio, i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sut gallwch chi ddweud eich dweud?
Mae gennych tan 7 Mawrth 2024 i roi unrhyw adborth ar y cynnig hwn. Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn am ein cynlluniau gan ddefnyddio unrhyw un o’r opsiynau isod:
- Ysgrifennu at Newydd, 5 Village Way, Tongwynlais, CF15 7NE.
E-bostio partnership@newydd.co.uk.
Anfon neges atom trwy eich cyfrif Fy Newydd.
Anfon neges destun atom ar 07422 128780.
Ymuno â sesiwn Holi ac Ateb ar-lein ar Zoom ddydd Llun 26 Chwefror rhwng 6-7pm. E-bostiwch partnership@newydd.co.uk os hoffech chi ymuno.
Mynychu un o'r 3 digwyddiad galw heibio isod. Does dim angen bwcio, jyst galwch heibio ar y diwrnod.
Ble |
Lleoliad |
Dyddiad ac amser |
Y Drenewydd |
Swyddfa Newydd, St Davids House, New Rd, Y Drenewydd SY16 1RB |
Dydd Llun 12 Chwefror 11.30am - 1.30pm |
Y Barri |
Castleland Community Centre, Belvedere Cres, Y Barri CF63 4JZ |
Dydd Llun 19 Chwefror 10am – 1pm |
Rhydyfelin |
Newydd/hapi hub, Trem-Y-Cwm, Masefield Way, Rhydyfelin CF37 5HQ |
Dydd Mercher 21 Chwefror 10am – 1pm |
Yn y digwyddiadau uchod byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ariannol, siarad â ni am uwchraddio ynni i'ch cartref a gofyn unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych. Mae llawer o waith i'w wneud eto cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud. Rydych chi'n ganolog i'n penderfyniadau ac mae'n bwysig iawn ein bod yn casglu eich barn yn gyntaf. Rydym hefyd yn siarad â rhanddeiliaid allweddol eraill a staff am y cynigion. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses.
Os hoffech dderbyn y wybodaeth hon mewn fformat arall, megis iaith arall, braille neu fersiwn sain, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio unrhyw un o'r manylion cyswllt uchod.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen cwestiynau cyffredin yma.