Posted 10.11.2022

Ariannu esgidiau bowlio newydd ar gyfer Cymdeithas Bowlio Dan Do Sir Faesyfed

Mae ein rhaglen budd i’r gymuned wedi ariannu esgidiau bowlio newydd ar gyfer Cymdeithas Fowlio Dan Do Sir Faesyfed yn Llandrindod, Powys.

Yma yn Newydd, rydym yn lwcus iawn i gael gweithio gyda chontractwyr hael sydd yn eiddgar i gefnogi cymunedau lleol. O ganlyniad i hyn, mae contractwyr yn cyfrannu at ein cronfa budd i’r gymuned. Fe wnaethom ni gomisiynu J.G. Hale Construction Limited i adeiladu cyfanswm o 55 o gartrefi fforddiadwy newydd sbon yn Ffordd Ithon yn Llandrindod, ac fe hoffem ddiolch iddyn nhw am gefnogi’r gronfa budd i’r gymuned hefyd.


Clwb Bowlio Dan Do Sir Faesyfed

Dywedodd John Dackers, Hyfforddwr ac Ymddiriedolwr Clwb Bowlio Dan Do Sir Faesyfed:

“Mae gennym ni gymaint i’w gynnig i’n haelodau anabl, er enghraifft hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i anghenion a gallu unigolion, cyfleusterau gwych, ac ystod eang o offer, gan gynnwys cadeiriau olwyn llaw a modur, tra hefyd yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a chymdeithasol.”


Ar y chwith mae dau o aelodau Clwb Bowlio Dan Do Sir Faesyfed, Harry Gwatkin a Lorna Clarke, yna ar y dde mae John Dackers, Hyfforddwr ac Ymddiriedolwr Clwb Bowlio Dan Do Sir Faesyfed, a Jonathan James, Cydgysylltydd Buddion Cymunedol Newydd.

Fe wnaethLorna Clarke a Harry Gwatkin, ennill medal efydd yn y gystadleuaeth parau yng Nghystadleuaeth Fowlio’r Gyfres Ryngwladol Anawsterau Dysgu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2019.

Dywedodd Ken Evans, “Mae Cymdeithas Fowlio Dan Do Sir Faesyfed yn ddiolchgar iawn i Newydd am eu cefnogaeth hael.”

Dywedodd Nia Collard o J.G. Hale Construction,

“Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda Newydd a chefnogi Clwb Bowlio Sir Faesyfed fel rhan o’n mentrau cymdeithasol a arweinir gan y gymuned ar gyfer datblygiad Ffordd Ithon.”

Y Gronfa Budd i’r Gymuned

Mae ein cronfa budd i’r gymuned wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd, ac mae hi’n defnyddio ein cytundebau caffael gyda phartneriaid i gael effaith bositif ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Nod ein cronfa budd i’r gymuned yw gadael etifeddiaeth gadarn yn y cymunedau yr ydym yn gwasanaethu ynddynt. Jonathan James yw ein Cydgysylltydd Buddion Cymunedol.

Dywedodd Jonathan, “Caiff ceisiadau i’r gronfa eu hasesu gan ein panel cyllido, sy’n cynnwys aelodau o staff o bob rhan o’r sefydliad yn ogystal â nifer o’n tenantiaid. Dim ond ffurflen syml yw’r broses gais, a gallwn eich helpu chi i’w chwblhau felly mae croeso i chi gysylltu â ni!”

Cysylltwch â Jonathan drwy e-bost: Jonathan.James@newydd.co.uk.

Newyddion diweddaraf