Cartrefi Fforddiadwy Newydd yn Nhonyrefail Gan Gymdeithas Tai Newydd yn Barod i Groesawu Tenantiaid Newydd
Bydd datblygiad tai newydd sbon gan Gymdeithas Tai Newydd yn Nhonyrefail yn croesawu trigolion am y tro cyntaf yn fuan gyda'r datblygwyr Castell bellach wedi cwblhau'r gwaith.
Mae'r cynllun, a elwir yn Bryn Aeron, wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac wedi'i ariannu gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnig 14 o fflatiau un ystafell wely am rent fforddiadwy.
Mae'r datblygiad yn gam sylweddol wrth fynd i'r afael â'r angen lleol am dai ac mae cartrefi wedi'u dyrannu drwy CeisioCartrefRhCT. Mae gan bob eiddo yn y datblygiad sgôr EPC A, a fydd yn lleihau eu heffaith amgylcheddol.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd: "Rydym wrth ein bodd yn cymryd rheolaeth o'r cartrefi newydd hyn yn Nhonyrefail, a byddwn yn trosglwyddo'r allweddi i aelwydydd ar restr dai'r Cyngor yn fuan. Mae'r datblygiad hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad parhaus i ddarparu tai cynaliadwy a fforddiadwy sy'n diwallu anghenion pobl leol. Mae gweithio mewn partneriaeth â Castell a Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn allweddol i wireddu'r weledigaeth hon."
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o’r Cabinet dros Adfywio a Thai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, “Mae’n wych gweld Bryn Aeron wedi’i gwblhau ac yn barod i groesawu trigolion mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
"Mae cynlluniau fel hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i'n trigolion i ddarparu tai fforddiadwy o safon, ac rydym yn gallu eu cefnogi drwy gyllid o'r Grant Tai Cymdeithasol."
“Nid yw’n gyfrinach bod y DU yng nghanol argyfwng tai, gyda Rhondda Cynon Taf yn wynebu problemau tebyg i weddill y wlad. Mae mynediad at dai fforddiadwy o safon i drigolion yn flaenoriaeth i ni, a byddwn yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi datblygiad cartrefi sydd eu hangen yn fawr.
“Rydym wedi gweld llawer o brosiectau tai llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys troi eiddo gwag yn gartrefi y mae pobl yn eu trysori, ond rydym yn gwbl ymwybodol bod llawer o bwysau o hyd.
“Rydym yn falch o gefnogi Cymdeithas Tai Newydd ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn y prosiect llwyddiannus iawn hwn, ac mae pawb yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno’r gorau i’r trigolion newydd ar gyfer y dyfodol.”

