Cylchlythyr In Focus Mis Mawrth
CROESO A CHYFLWYNIAD
Croeso i Gylchlythyr Ymgysylltu mis Ebrill!
Y mis hwn gallwch:
- Ddarllen y diweddariad diweddaraf ar ein nodwedd Cwestiwn y Mis – darlleniad 2 funud
- Gweld canlyniadau arolygon Acuity – 1 funud
- Darganfod beth rydym wedi bod yn ei wneud mewn ymateb i’ch adborth Acuity – 1 funud
- Dysgu am ein Pop-ups Digidol – 1 funud
- Darllen am ein Pop-ups Wyneb yn Wyneb newydd – 1 funud
- Dal i fyny â Thîm Craffu Cadarn – 4 munud
- Archwilio’r gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan gyda ni – 1 funud
Cwestiwn y Mis

Bob mis, gofynnwn gwestiwn syml am eich profiadau o’n gwasanaethau drwy ein nodwedd Cwestiwn y Mis. Mae’ch atebion yn helpu i lywio’r gwelliannau a wnawn.
Hyd yma, mae 139 o bobl wedi rhannu eu barn. Dim ond dwy funud y mae’n ei gymryd i’w gwblhau, a gallech ennill taleb siopa gwerth £25 fel diolch am gymryd rhan.
Ym mis Ionawr, gofynnon ni: “A ydych yn gwybod sut i gysylltu â ni, a phwy i gysylltu â?”.Dywedodd 94% o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod â phwy i gysylltu os oedd angen help arnynt gyda phethau sy’n ymwneud au cartref, a dywedodd 98% eu bod yn gwybod sut i gysylltu â ni.
Ym mis Chwefror, gofynnon ni: “Os ydych wedi defnyddio ein gwasanaeth y tu allan i oriau i adrodd argyfwng, a oeddech yn fodlon ar yr amser aros?”. Dywedodd 95% o’r ymatebwyr eu bod yn fodlon ar yr amser aros pan gysyllton nhw â ni.
Byddwn yn rhannu canlyniadau cwestiwn mis Mawrth yng nghylchlythyr nesaf y tenantiaid, ynghyd â Chwestiwn y Mis mis Ebrill, lle cewch gyfle arall i ennill taleb £25.
Adborth Tenantiaid Acuity – Beth Wnaethoch Chi Ddweud Wrthym

Mae Newydd wedi gweithio gydag Acuity ers sawl blwyddyn i gynnal arolygon boddhad tenantiaid annibynnol. Eleni, cymerodd 565 o denantiaid ran, gan roi mewnwelediad gwerthfawr i ni i’r hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae angen i ni wella.
Dangosodd y canlyniadau fod llawer ohonoch yn hapus gyda:
- Ansawdd cyffredinol eich cartref
- Teimlo’n ddiogel ac yn saff
- Gwasanaeth cyffredinol Newydd
- Bod Newydd yn hawdd i ddelio gyda
- Cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau
- Ymddiriedaeth yn Newydd
- Rhent yn cynnig gwerth am arian
Tynnodd yr adborth sylw hefyd at rai meysydd pwysig lle mae angen i ni wella, gan gynnwys:
- Atgyweiriadau a chynnal a chadw
- Ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Taliadau gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian
- Llaith a llwydni
Diolch i bawb a gymerodd ran – mae eich adborth yn helpu i siapio ein gwasanaethau a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysicaf i chi. Os hoffech ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch ar y ddolen isod.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.
Dilyniant Canlyniadau Acuity
O ganlyniad i’r adborth a dderbyniwyd, gwnaeth Newydd 215 o alwadau ffôn i gefnogi tenantiaid oedd â materion heb eu datrys neu oedd angen cymorth ychwanegol arnynt. Roedd yr alwadau hyn yn cynnwys:
- 129 am atgyweiriadau neu gynnal a chadw
- 29 am ymddygiad gwrth gymdeithasol neu faterion tai eraill
- 11 am daliadau gwasanaeth
- 3 am geisiadau am offer neu addasiadau i wneud cartrefi’n fwy hygyrch
- 42 atgyfeiriad ar gyfer cefnogaeth ddigidol
- 1 atgyfeiriad ar gyfer Cymorth Ariannol
Mae’r galwadau wedi ein helpu i ddatrys llawer o’r materion a godwyd a sicrhau bod tenantiaid yn cael y gefnogaeth oedd ei hangen arnynt.
Pop-ups

Pop-ups Digidol
Y llynedd, lansiwyd ein Pop-ups Cymunedol Digidol i’w gwneud hi’n haws nag erioed aros mewn cysylltiad, rhannu eich barn, a chael cefnogaeth. Ers hynny, rydym wedi cyrraedd mwy na 250 o denantiaid drwy Bop-ups Digidol ar draws ein cymunedau.
Yn hytrach na disgwyl am ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, rydym yn cysylltu â thenantiaid ym mhob cynllun ac ystâd drwy e-bost neu neges destun i gysylltu, gwrando ar eich pryderon, a dilyn unrhyw faterion a godwch.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym hefyd yn gofyn am eich gwybodaeth cydraddoldeb ddiweddaraf a’ch dewisiadau cyfathrebu. Mae cadw’r wybodaeth hon yn gywir yn ein helpu i deilwra ein gwasanaethau a chyfathrebu â chi’n effeithiol.
Pop-ups Wyneb yn Wyneb – Yn Dod Cyn Bo Hir
Byddwn yn dechrau ein pop-ups wyneb yn wyneb yn fuan i’w gwneud hi’n haws i denantiaid gwrdd â ni mewn person, rhannu barn, a chael cefnogaeth mewn ffordd sy’n addas i chi.
Byddwn yn ymweld â gwahanol ardaloedd bob mis hyd at fis Hydref, a byddwn yn anfon llythyrau i roi gwybod i chi pryd y byddwn yn cynnal pop-up cymunedol yn agos atoch chi.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â llawer mwy ohonoch.
Diweddariad Tîm Craffu
Cydweithio ar Gefnogaeth Ddigidol
Mae’r Tîm Craffu Tenantiaid wedi cyfarfod â Scott o Wasanaeth Cynhwysiant Digidol Newydd i rannu syniadau ar sut y gallwn gryfhau cefnogaeth ddigidol i denantiaid.
Amlygodd y grŵp yr angen am gymorth cliriach wrth symud i gartref newydd. Mae llawer o gartrefi bellach yn cynnwys systemau digidol, a dywedodd tenantiaid y byddent yn gwerthfawrogi canllawiau syml ar sut mae’r rhain yn gweithio. Bydd y gefnogaeth hon bellach yn rhan o’r Gwiriad Iechyd Digidol a gynigir i denantiaid newydd.
Mae Scott hefyd yn sefydlu cynllun peilot bach a fydd yn creu Llyfr Nodiadau Cefnogaeth Cartref Digidol personol i denantiaid sy’n dewis cymryd rhan. Bydd y llyfr nodiadau’n casglu canllawiau a llawlyfrau ynghyd mewn un lle, fel bod tenantiaid yn gallu dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnyn nhw’n haws.
Cododd y Tîm Craffu hefyd bwysigrwydd helpu tenantiaid i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio CCTV a systemau tebyg. Mae Scott wedi dechrau gweithio ar ymgyrch fewnol fel bod timau tai a diogelwch cymunedol yn deall pa gefnogaeth sydd ar gael. Bydd y tîm yn archwilio a all offer digidol newydd helpu i greu canllawiau cliriach a deunyddiau cefnogi i denantiaid.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i adolygu atgyfeiriadau a gweithgareddau presennol fel y gallwn ganolbwyntio ein hamser lle mae’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Diweddariad Tîm Craffu – Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw
Fel rhan o ffocws Cadarn ar ddatblygu gwasanaeth Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw sy’n darparu gofal cwsmer gwych a gwerth am arian, mae Newydd Maintenance Ltd a CanDo wedi uno i ffurfio un Adran Gwasanaethau Eiddo.
Yn ddiweddar, cyfarfu’r Tîm Craffu â’r Tîm Atgyweiriadau i rannu barn tenantiaid ac archwilio ffyrdd o wella.
Roedd y drafodaeth yn cynnwys: • Rhoi gwybodaeth gliriach i denantiaid cyn ymweliadau atgyweirio • Darparu canllawiau ar wiriadau trydanol – beth i’w ddisgwyl, pa mor hir y gall y gwaith gymryd, a sut y byddwn yn cadw unrhyw aflonyddwch i’r lleiafswm • Creu cyngor hawdd ei ddilyn ar larymau mwg, llaith a llwydni • Diweddariad byr ar Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC23) – beth mae’r canllawiau newydd yn ei olygu i denantiaid, gan gynnwys y safonau ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi, a sut mae cartrefi’n cael eu hasesu yn seiliedig ar oedran a chyflwr.
Dros y misoedd nesaf, bydd y Tîm Craffu’n gweithio’n agos gyda’r Tîm Atgyweiriadau i edrych ar amserlenni atgyweirio, polisïau, perfformiad a chyfathrebu o amgylch apwyntiadau.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am SATC.
Dewislen Ymgysylltu Newydd

Mae digon o ffyrdd i gymryd rhan a’n helpu i wella’r gwasanaethau a gynigiwn i chi.
Cymryd rhan o gartref:
Cwestiwn y Mis Rhannwch eich barn drwy ateb un cwestiwn byr bob mis. Amser: 2 funud
Arolygon Pop-up Digidol Ar-lein Dywedwch wrthym am faterion rydych eisiau eu hadrodd neu ofyn am gefnogaeth gan ein timau Cynhwysiant Digidol, Cyflogaeth, Cynhwysiant Ariannol neu Weithiwr Cefnogi. Amser: 6 munud
Panel Darllen Helpwch ni adolygu a gwella ein llythyrau, taflenni a chyfathrebiadau digidol i denantiaid er mwyn sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu darllen – anfonir adborth drwy e-bost. Amser: 10–15 munud
Arolwg Ffôn Acuity Rhannwch eich profiad o’n gwasanaethau drwy arolwg ffôn byr a gynhelir gan Acuity. Amser: 30 munud
Sylwch: Ni all tenantiaid ofyn i Acuity gysylltu â nhw. Mae Acuity yn dewis nifer cytunedig o denantiaid bob chwarter yn annibynnol i sicrhau bod canlyniadau’r arolwg yn deg, cytbwys ac yn gynrychioliadol.
Cymryd rhan mewn person:
Pop-ups Cymunedol Cwrdd â ni yn eich cymuned ar gyfer sgwrs anffurfiol a dweud wrthym beth sy’n bwysig i chi. Amser: 10–30 munud
Tîm Craffu Edrych yn ddyfnach ar sut mae ein gwasanaethau’n gweithio a helpu i lunio argymhellion ar gyfer gwelliannau. Amser: Cyfarfod misol 2 awr (yn bennaf ar-lein gyda dwy sesiwn wyneb yn wyneb)
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Panel Darllen, neu os oes gennych syniad arall ar gyfer cymryd rhan nad yw wedi’i restru yma, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn agored i ffyrdd newydd a chreadigol o ymgysylltu â’n tenantiaid. Mae croeso i chi e-bostio laetitia.davies@newydd.co.uk.


