Posted 01.04.2021

Parc cymunedol lleol yn derbyn cefnogaeth diolch i ddatblygiad tai yn Llandrindod.

Mae Cymdeithas Tai Newydd, ynghyd â’u contractiwr J.G. Hale Construction, wedi gwneud cyfraniad ariannol tuag at brosiect adfywio parc cymunedol lleol wedi i’r grŵp ofyn am gefnogaeth.

Dywedodd Shannon Maidment, Cydgysylltydd Adfywio Cymunedol yn Newydd, “Rydym yn annog grwpiau cymunedol lleol i gysylltu â ni pan rydym yn gwneud gwaith datblygu mewn ardal, fel y gallwn gynnig cefnogaeth drwy ein rhaglen Buddion Cymunedol. Rydym yn ystyried materion cymdeithasol ac economaidd ehangach er mwyn cael effaith bositif ar ein cymunedau presennol a newydd.”

Dechreuodd y gwaith ar ddatblygiad £8.3 miliwn Ffordd Ithon ym mis Tachwedd 2019 wedi i’r prosiect dderbyn caniatâd cynllunio ym mis Mawrth o’r un flwyddyn. Comisiynodd Newydd J.G. Hale Construction i adeiladu cymysgedd o dai dwy a thair ystafell wely, byngalos, a fflatiau un ystafell wely i’w rhentu, yn ogystal ag eiddo i’w prynu drwy gynllun Llywodraeth Cymru Rhentu i Brynu: Cymru.

Dywedodd Jenna Smith, aelod o Grŵp Adfywio’r Parc: “Rydym mor hapus bod Cymdeithas Tai Newydd a Hale Construction wedi gweld pa mor bwysig yw’r parc yma i ni a faint o fudd a ddaw i’r gymuned drwy’r gwelliannau. Mae’r cyfraniadau hyn yn gwneud gymaint o wahaniaeth.

Mae’r grŵp yn falch iawn o dderbyn y cyfraniad gwych hwn i’r gwaith, i’n gardd blodau gwyllt ac fel gwobrau i gystadlaethau er mwyn sicrhau y gallwn barhau i godi arian i gyrraedd ein targed llawn yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Nia Collard, Swyddog Datblygu Busnes yn J.G. Hale Construction: “Rydym wrth ein bodd o gael cyfle i wneud cyfraniad tuag at gefnogi’r gwaith o adfywio Parc Llanllŷr, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Tai Newydd. Mae’n bwysig iawn bod gan blant a theuluoedd o’r gymuned leol, a chenedlaethau’r dyfodol, le diogel i fwynhau chwarae a chael hwyl ynddo.”

Llun o’r chwith i’r dde: Nia Collard o J.G. Hale Construction, Jenna Smith o Grŵp Adfywio’r Parc, Huw Lewis Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanllŷr, a Shannon Maidment o Newydd

Mae Hollie Smith a Jayne Lyons, sydd ddim yn y llun, hefyd yn aelodau o Grŵp Adfywio’r Parc.  

Newyddion diweddaraf