Ymunwch â ni i gefnogi Oasis: #HeicioDrosDai #HikeForHousing
Yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf, bydd cymdeithasau tai ledled Cymru yn camu ymlaen dros eu helusennau dewisol ar ôl clywed yr alwad gan Cartrefi Cymunedol Cymru i godi gymaint o arian â phosib. Drwy gydol mis Gorffennaf, byddwn ni’n herio holl staff Newydd i gerdded neu redeg gymaint o filltiroedd ag y gallan nhw. Byddwn yn codi arian tuag at elusen arbennig o’r enw Oasis sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.
Mae Oasis yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob rhan o’r byd. Maen nhw’n cynnig amrediad eang o sesiynau gan gynnwys sesiynau i fenywod yn unig, dosbarthiadau celf, dosbarthiadau iaith Saesneg, sesiynau chwaraeon a llawer mwy. Eu prif nod yw helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio o fewn eu cymunedau lleol, a rhoi’r cyfle iddyn nhw gael bywydau llawnach ac iachach.
Drwy gwblhau’r daith gerdded noddedig hon, rydym yn gobeithio codi arian hollbwysig fydd yn galluogi Oasis i barhau i gynnig cefnogaeth a mynediad at wasanaethau hanfodol. Fel cymdeithas dai, rydym wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy i’r rheiny â’r angen mwyaf. Mae gennym feddwl mawr o’r gwaith mae Oasis yn ei wneud i baratoi ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar gyfer byw’n annibynnol, gan fod hyn yn gam sylfaenol tuag at sicrhau eu llesiant.
Dywedodd Jason Wroe, ein Prif Weithredwr, “Yma yn Newydd, rydym yn credu’n gryf ym mhŵer cymuned ac ym mhwysigrwydd dod at ein gilydd i adeiladu dyfodol gwell. Drwy ymuno â’r ymgyrch hwn, gallwn gefnogi Oasis yn eu hymdrechion gwerthfawr a helpu i drawsnewid bywydau’r bobl sydd ei angen fwyaf.”
Dywedodd Reynette Roberts MBE, Prif Swyddog Gweithredol Oasis, “Mae’r her yma o gerdded camau yn gyfle gwych i adlewyrchu ar siwrnai ffoadur a’r camau maen nhw wedi’u cymryd i integreiddio i mewn i gymdeithas newydd. Mae’n her arbennig fydd yn cyseinio gyda’n cleientiaid ac rydym ni mor ddiolchgar i’r rheiny sy’n cymryd rhan!”
Gallwch gyfrannu at yr achos drwy roi rhodd yma: Cymdeithas Tai Newydd - Ymgyrch Heicio Dros Dai/Hiking for Housing | Oasis Caerdydd
Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a chyfrannu at ddyfodol disgleiriach i bawb.

