Posted 13.03.2018

Y cyntaf i agor eu drysau yn sgil cynllun Tir ar gyfer Tai gwerth £42m

Mae pobl wedi symud i mewn i gartrefi fforddiadwy newydd yn y Barri, y datblygiad cyntaf i'w gwblhau o dan gynllun benthyg Tir ar gyfer Tai Llywodraeth Cymru sydd werth £42m.

Mae Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cwrdd â thrigolion Newbourne Place, a gafodd ei adeiladu diolch i £2.9 milliwn gan Lywodraeth Cymru, a dysgu mwy am eu cartrefi newydd.

Mae tri deg o fflatiau, gan gynnwys tair sydd wedi'u haddasu ar gyfer cadair olwyn, wedi'u hadeiladu ar safle hen ganolfan hyfforddi oedolion yn y Barri. Cafodd Cymdeithas Dai 'Newydd' fenthyciad Tir ar gyfer Tai gwerth £585,000 gan Lywodraeth Cymru i brynu'r safle, a Grant Tai Cymdeithasol gwerth £2.34m gan Lywodraeth Cymru, i helpu i ddatblygu ac adeiladu'r fflatiau.

Dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod oes y llywodraeth hon, ac rydyn ni'n buddsoddi i gefnogi cymdeithasau tai i adeiladu cartrefi ac i helpu i gyrraedd y targed hwn.

"Dyma'r cartrefi cyntaf i gael eu cwblhau fel rhan o fenthyciad £42m Tir ar gyfer Tai; Gall cymdeithasau tai gael benthyg arian gan Lywodraeth Cymru i brynu tir. Pan gaiff y benthyciad ei ad-dalu, mae'r arian yn cael ei ailfuddsoddi mewn mwy o fenthyciadau i gyllido mwy o dai.

"Mae mor bwysig bod tai diogel, fforddiadwy ar gael i bawb yng Nghymru fel y gallant gyflawni eu potensial."

Ychwanegodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd:, “Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu'r Gweinidog i Newbourne Place. Mae'r cynllun yn destun balchder mawr i ni. Mae'n darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y gymuned. Yn ogystal â helpu i gyflawni'r angen am dai, rydyn ni wedi gallu darparu cartrefi llai, sydd wedi'u haddasu. Fel landlord cymdeithasol, fe fyddwn ni'n darparu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer trigolion lleol mewn meysydd fel cynhwysiant ariannol, iechyd a lles a chynhwysiant digidol.

"Fe ddefnyddiwyd cyllid cynllun Tir ar gyfer Tai ar gyfer y prosiect hwn, ac rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod ail gyfnod o gyllid wedi'i addo i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd yn ein cymunedau lleol."

Dywedodd Sandra Rehman, un o denantiaid Newydd ac aelod o grŵp craffu'r tenantiaid:

"Fe wnes i aros bron i dair blynedd a hanner i symud i gartref addas ar ôl cael diagnosis o osteoarthritis. Roedd hi'n sicr yn werth aros am y fflat dw i ynddi erbyn hyn, ac fe hoffwn i ganmol Newydd. Mae gen i fflat llawr daear sydd wedi cael ei haddasu a'i chynllunio'n hyfryd. Allwn i ddim bod wedi gofyn am well. Mae pawb yn haeddu cartref fel hwn. Newydd yw un o'r landlordiaid gorau o achos y ffordd maen nhw'n gwrando ar denantiaid."

Newyddion diweddaraf