Posted 15.04.2024

Datblygiadau tai ynni effeithlon yn Nhonyrefail yn mynd rhagddynt yn dda

Mae'r datblygiadau tai ar gyn safle Rhondda Bowl a'r Warws Ffrwythau yn Nhonyrefail yn dechrau dod yn eu blaenau, gyda fforddiadwyedd, effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio wrth wraidd y gwaith.

Mae'r ddau gynllun yn ddatblygiadau Cymdeithas Tai Newydd sy'n cynnig cyfanswm o 34 o gartrefi newydd i bobl leol.

Wedi'i adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a'i ariannu'n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, bydd yr hen Warws Ffrwythau yn cynnig 14 o fflatiau un ystafell wely i'w rhentu.

Bydd yr ail ddatblygiad ar gyn safle Rhondda Bowl yn cynnig cymysgedd o fflatiau un ystafell wely, tai dwy a thair ystafell wely am rent fforddiadwy.

Mae'r ddau ddatblygiad tai i fod i gael eu cwblhau yn 2025 gan y contractwyr Grŵp Castell.

Ar ôl cael caniatâd cynllunio yn 2023, bydd y cartrefi newydd hyn yn cael eu dylunio i fodloni’r safonau amgylcheddol diweddaraf a bydd ganddynt Dystysgrif Perfformiad Ynni ynni-effeithlon gradd A oherwydd system wresogi nad yw’n danwydd ffosil.

Dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Diogelu a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae tîm Strategaeth Tai’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas Tai Newydd i ddylunio’r ddau gynllun hyn yn Nhonyrefail, sy’n ymateb i’r angen lleol am dai. Bydd y 34 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu datblygu i Safon Ansawdd Tai Cymru a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a bydd yn dod â buddsoddiad o tua £5m i’r ardal drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y ddau gynllun yn gwneud cynnydd pwysig yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ar ôl eu cwblhau yn 2025, bydd pob un yn darparu opsiynau tai o ansawdd uchel a fydd yn cael eu dyrannu drwy gynllun gosod y Cyngor ar sail dewis.”

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Newydd, “Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn Nhonyrefail. Bydd y cynllun gwych hwn nid yn unig yn helpu i gyfrannu at gyrraedd ein targedau sero net ond bydd hefyd yn darparu cartrefi diogel, cynnes a fforddiadwy i breswylwyr. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cartrefi gorffenedig hyn yn 2025 ond yn y cyfamser hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid sydd wedi gweithio’n galed i’n cael ni i’r cam hwn.”

Dywedodd Dorian Payne, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Castell, “Rydym yn ymroddedig i gael effaith ystyrlon mewn cymunedau fel Tonyrefail.   Rydym yn falch o fod wedi partneru gyda Newydd ar ein prosiectau parhaus yn Heol Waunrhydd a Bryn Rhedyn. Mae'r bartneriaeth hon yn enghraifft o'n hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i'r rhai mewn angen.  Gyda gwaith sylfaen yn mynd rhagddo a gwaith yn dod yn ei flaen yn gyflym ar y ddau ddatblygiad, rydym yn falch o fod yn cyfrannu 34 o gartrefi gradd A EPC ar gyfer rhent cymdeithasol, gan helpu i leihau'r rhestrau aros am dai yn yr ardal hon.  Mae Newydd a Grŵp Castell wedi ymrwymo i greu effaith gadarnhaol ar draws y gymuned a byddwn yn cyflawni hyn trwy weithio gydag isgontractwyr a chyflenwyr lleol, sefydlu rhaglenni hyfforddi a phrentisiaeth, a buddsoddi yn yr ardal leol trwy ein mentrau ymgysylltu cymunedol. Edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau hyn yn ffynnu a byddwn yn rhannu mwy o ddiweddariadau yn y misoedd nesaf.”

Ymhlith aelodau eraill y tîm dylunio a gyflogir ar y cynlluniau tai hyn mae Kennedy James Griffiths, Phoenix Design, Betts, Geraint John Planning, I&G Ecology, Geldards, Morgan LaRoche, Cooke & Arkwright, Strongs Partnership a Taylor Lewis.

Y gobaith yw y bydd y cartrefi hyn wedi'u cwblhau yn ystod haf 2025. Mae angen i breswylwyr sydd â diddordeb mewn rhentu'r eiddo hyn gofrestru gyda HomefinderRCT i wneud cais.

Llun

Yn y llun uchod mae Cynghorydd Bob Harris (rhes cyntaf trydydd or dde), Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau yn ymweld â'r cyn Rhondda Bowl ar 12 Ebrill ynghyd â Maer Rhondda Cynon Taf (rhes cyntaf, pedwerydd or dde), cydweithwyr o Gyngor RhCT, Grŵp Castell a Chymdeithas Tai Newydd.

Newyddion diweddaraf