Posted 05.12.2022

Cwrt Canna yn ennill ei ail wobr o fewn ychydig wythnosau

Rydyn ni wedi ennill y categori ‘Darparu cartrefi o safon uchel’ yng Ngwobrau Tai Cymru am Cwrt Canna yn Llan-gan.

Enillwyd y wobr hon wythnosau yn unig ar ôl i’r cynllun tai ennill y categori ‘Datblygiad tai fforddiadwy gorau o dan £5m’ yn y gwobrau cenedlaethol Inside Housing Development Awards. (dolen i’r erthygl flaenorol)

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg a Canna Developments Ltd, derbynniodd y datblygiad gwledig £3.4 miliwn ar gyfer 13 o gartrefi ynni isel iawn ganiatâd cynllunio ym mis Ionawr 2019, a symudodd tenantiaid i mewn i’r cartrefi trawiadol ym mis Mawrth eleni.

Ariannwyd y prosiect gyda chyllid preifat, cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru a Grant Tai Cymdeithasol, ac fe adeiladwyd y tai – sy’n edrych fel casgliad o adeiladau fferm o amgylch iard ganolog – gan ddefnyddio’r Beattie Passive Build System.

Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Newydd, “Rydym yn falch iawn o ennill gwobr arall am Cwrt Canna, Llan-gan, ond rhaid i ni beidio ag anghofio bod llawer o waith ar ôl gennym i’w wneud er mwyn sicrhau bod ein cartrefi i gyd yn cyrraedd y safonau ynni diweddaraf. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio er mwyn gostwng allyriadau carbon ledled ein holl gartrefi er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn medru cynhesu eu cartrefi yn fwy effeithiol. Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid, ein tîm datblygu ac wrth gwrs i’n tenantiaid am wneud y cynllun tai hwn yn llwyddiant.”

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet ar gyfer Tai Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu Tenantiaid: “Mae hyn yn gyflawniad gwych gan Gymdeithas Tai Newydd. Mae datblygiad Cwrt Canna yn dangos beth ellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth. Yn ogystal â darparu cartrefi fforddiadwy mawr eu hangen, mae’r cynllun wedi creu swyddi lleol, hyfforddi prentisiaid newydd ar gyfer y sector adeiladu, a helpu gwella effeithlonrwydd ynni stoc tai’r wlad. Llwyddiant go iawn ar gyfer y Fro.” 

Newyddion diweddaraf