Cymdeithas Tai Cadwyn yn ymuno â Grŵp Tai Cadarn
O 1 Tachwedd 2024, mae Cymdeithas Tai Cadwyn wedi ymuno’n swyddogol â Grŵp Tai Cadarn fel chwaer sefydliad i Gymdeithas Tai Newydd.
Mae Newydd a Cadwyn bellach yn gweithredu fel is-gwmnïau o fewn Grŵp Tai Cadarn, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn hanes y grŵp wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed a chyfnod newydd o gydweithio.
Mae’r bartneriaeth hon yn cryfhau cadernid ariannol Cadwyn a Newydd, gan wella eu gallu i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel tra’n adnewyddu a chynnal eiddo presennol. Drwy ddod at ei gilydd, eu nod yw lledaenu risgiau busnes yn well a chryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid, tra'n parhau i fod yn ymrwymedig i'w canolfannau lleol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae gweithredu fel endidau cyfreithiol ar wahân yn galluogi’r ddau sefydliad i gynnal eu hunaniaeth unigryw tra’n elwa ar arbenigedd ac adnoddau a rennir, gan roi Grŵp Tai Cadarn mewn sefyllfa i barhau â’i genhadaeth o ddarparu tai fforddiadwy a gwella gwasanaethau i denantiaid ar draws De a Chanolbarth Cymru dros yr 50 mlynedd nesaf.
Dywedodd Jason Wroe, Prif Weithredwr Grŵp Tai Cadarn, “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Cadwyn i’n grŵp fel chwaer sefydliad i Newydd. Mae hon yn garreg filltir fawr, nid yn unig wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o Cadarn, ond hefyd wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol o gydweithio. Drwy gydweithio, gallwn rannu arbenigedd, adnoddau, a dod yn fwy effeithlon, tra’n cadw ein tenantiaid wrth galon popeth a wnawn.”
Dywedodd David Hayhoe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cadwyn sy’n ymddeol, “Wrth i Cadwyn gychwyn ar y bennod newydd gyffrous hon fel rhan o Grŵp Tai Cadarn, rwyf am estyn fy nymuniadau gorau i’r grŵp ac i Cadwyn. Mae'r bartneriaeth hon yn gyfle pwerus i'r ddau sefydliad ffynnu, rhannu adnoddau, a chyflawni hyd yn oed mwy o lwyddiant yn y dyfodol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd gwerthoedd ac ymrwymiad Cadwyn i'w denantiaid yn parhau i ffynnu o fewn Cadarn, ac edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau cadarnhaol a ddaw yn sgîl y bartneriaeth hon i denantiaid a chymunedau. Dymunaf bob lwc i bawb sy'n rhan o hyn wrth iddynt symud ymlaen gyda’i gilydd.”