Dewch yn Aelod o Fwrdd Tenantiaid neu Banel Tenantiaid Newydd!
Dewch yn Aelod o Fwrdd Tenantiaid neu Banel Tenantiaid Newydd!
Rydym yn gyffrous i gynnig cyfleoedd i chi gymryd rhan a helpu i siapio dyfodol Newydd. Gweler y rolau sydd ar gael isod yn ogystal â grwpiau tenantiaid y gallwch ymuno â nhw.
Ymunwch â'n Bwrdd ac ennill o leiaf £3,500 y flwyddyn*
Bydd ein partneriaeth arfaethedig gyda Chymdeithas Tai Cadwyn yn rhoi'r cyfle i chi ddod yn aelod o'r Bwrdd. Bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar berfformiad a darparu gwasanaethau. Oes gennych chi ddiddordeb?
Rydym yn chwilio am denantiaid i ymuno â Bwrdd Cymdeithas Tai Newydd. Fel Aelod Bwrdd, byddwch yn:
- Dod â'ch persbectif a'ch profiad byw i drafodaethau.
- Dysgu sgiliau newydd a chyfrannu at benderfyniadau pwysig.
- Helpu i wella ein gwasanaethau a’n cymunedau.
- Darperir hyfforddiant a chefnogaeth i bob ymgeisydd llwyddiannus.
Cyfarfodydd: Mae Bwrdd Newydd yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, rhai yn rhithwir a rhai wyneb yn wyneb, fel arfer yn gynnar gyda'r nos. Efallai y bydd angen peth amser ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau eraill y Bwrdd.
Tymor: Tymor o 3 blynedd i ddechrau, gyda'r posibilrwydd o wasanaethu hyd at 9 mlynedd.
*Tâl: O leiaf £3,500 y flwyddyn. Os ydych yn derbyn budd-daliadau, efallai y byddwch am wirio pa effaith y gallai’r incwm hwn ei chael ar yr hyn a gewch. Gall ein Tîm Cynhwysiant Ariannol eich helpu gyda hyn neu gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau megis Entitled To neu Turn2us.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl: e-bostiwch Oonagh.Lyons@newydd.co.uk neu ffoniwch 0303 040 1998.
Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag un o aelodau presennol ein Bwrdd Tenantiaid fel y gallwch siarad â nhw am yr hyn y mae'n ei olygu.
Ymunwch â'n Panel Tenantiaid a chael talebau gwerth £25 ar gyfer pob cyfarfod
Rydym hefyd yn creu Panel Tenantiaid newydd o 10 aelod i drafod darparu gwasanaeth, boddhad tenantiaid a mwy. Bydd rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhai rhithwir a byddant yn cael eu cynnal bob dau fis.
Tâl: taleb siopa o £25 fesul cyfarfod a fynychwyd.
I wneud cais: Am becyn cais neu os oes angen cymorth arnoch, e-bostiwch jonathan.james@newydd.co.uk neu ffoniwch 02920 001527.
Os nad yw’r cyfleoedd uchod yn addas i chi, mae grwpiau gwirfoddol eraill ar gael i chi:
- Panel Darllen a Pholisi
- Panel Recriwtio Staff
- Panel Buddion Cymunedol
- Grŵp y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio
- Ymgynghoriadau Cynhwysiant Digidol
 diddordeb? E-bostiwch Jonathan.james@newydd.co.uk neu ffoniwch 02920 001527.
Os hoffech chi fanteisio ar y cyfleoedd uchod ond eich bod yn cael trafferth mynd ar-lein, ffoniwch ni ar 0303 040 1998. Gall Scott a Nia o'n Tîm Cynhwysiant Digidol ddarparu cyfrifiadur a rhywfaint o hyfforddiant i chi.
Cymerwch ran a helpwch ni i wneud Newydd y gorau y gall fod!