Posted 12.07.2024

Pob ffenestr gwydr lliw bellach wedi’u cwblhau yng Nghanolfan Gymunedol St Paul

Datgelodd Cymdeithas Tai Newydd ffenestri gwydr lliw newydd yng Nghanolfan Gymunedol St Paul ym Mhenarth gyntaf yn ôl ym mis Medi 2023.

Oherwydd maint y prosiect ar y pryd, ni chafodd pedair ffenestr fach, a welir ar bob ochr i fynedfa'r Eglwys gynt ac ar ochr y ffasâd, eu trawsnewid yn ffenestri lliw gyda'r ffenestri mawr. Fodd bynnag, gall Newydd ddatgelu nawr bod y ffenestri llai hyn hefyd bellach wedi’u cwblhau.

Dywedodd Rachel Honey-Jones, Pennaeth Adfywio Cymunedol yng Nghymdeithas Tai Newydd, “Ar ôl gweld gwaith gwych Lightworks Stained-Glass ar y prif ffenestri, roedd yn amlwg bod rhaid i ni adfywio’r ffenestri llai i gyd-fynd â gweddill y datblygiad syfrdanol hwn. Ac rydym yn hynod falch gyda’r canlyniad”

“Mae nifer yr unigolion a’r cwmnïau sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn o’r dechrau i’r diwedd wedi bod yn anhygoel. Mae’r ffenestri lliw hyn yn olygfa syfrdanol i’r gymuned gyfan eu mwynhau am genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Dan Burke, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Lightworks Stained-Glass a gynhyrchodd ac a osododd y ffenestri, “Mae wedi bod yn fraint cael y dasg o gyflwyno’r prosiect hwn a chwarae ein rhan mewn rhoi bywyd newydd i hen ffasâd St Paul. Rydym yn hynod o hapus gyda chynllun y ffenestri lliw gorffenedig ac mae’r pedair ffenestr fach olaf yn ychwanegiad perffaith.”

Adnewyddu’r Eglwys gynt

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, grwpiau cymunedol, trigolion lleol ac ysgolion, dyluniwyd y ffenestri trawiadol gan yr artist lleol Sarah Sweeney ac fe’u gweithgynhyrchwyd gan Lightworks Stained-Glass.

Gweithiodd Newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, fel rhan o ddatblygiad gwerth £3 miliwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, i ddarparu 14 fflat ar rent fforddiadwy i bobl sy’n gweithio ac yn byw yn yr ardal yn ogystal â chanolfan gymunedol, sydd bellach yn cael ei rheoli gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).

Gan gadw ffasâd yr eglwys, penodwyd contractwyr, WK Plasterers Ltd, i adnewyddu’r eglwys gynt yn dilyn caniatâd cynllunio, a gafodd ei gymeradwyo gan Gyngor Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2018, gyda’r gwaith adnewyddu yn cael ei gwblhau yn 2020.


Staff o Newydd a Lightworks Stained-Glass gan gynnwys Rachel Honey-Jones, cyntaf ar y chwith, a Dan Burke, cyntaf ar y dde. 

Newyddion diweddaraf