Neges gan Jason Wroe

Nawr bod y bartneriaeth rhwng Cadwyn a Newydd mewn i Cadarn wedi’i chwblhau’n llwyddiannus, rwyf wedi gwneud y penderfyniad i adael fy rôl fel Prif Weithredwr Cadarn.
Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gweithio gyda chymaint o bartneriaid, sefydliadau cymunedol ac, yn bwysicaf oll, y tenantiaid sy’n gwneud ein cymunedau yr hyn ydynt. Rwyf bob amser wedi credu mai’r cryfder mewn unrhyw sefydliad yw’r bobl y mae’n eu gwasanaethu a’r bobl y maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â nhw – ac mae hynny’n sicr yn wir yn yr achos hwn.
Rwy’n hynod o falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ymrwymiad i rymuso, i fod yn onest, caredig, ac arloesol wedi disgleirio ym mhob prosiect, pob sgwrs a phob her yr ydym wedi’i hwynebu. Dyna’r gwerthoedd sy’n gwneud gweithio yn y maes tai yn arbennig, ac rwy’n gwybod y byddant yn parhau i arwain y sefydliad tuag at ddyfodol disglair.
Diolch am y gefnogaeth, y cydweithio a’r ymddiriedaeth rydych wedi’u dangos trwy gydol fy amser yma. Byddaf yn parhau i gefnogi’r sefydliad wrth iddo barhau i ddarparu cartrefi gwych, cymunedau cryf a gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gyda dymuniadau gorau i chi i gyd ar gyfer y dyfodol,
Jason

