Posted 01.04.2026

Neges gan Deb Austin, Cadeirydd Grŵp Tai Cadarn - Cyflwyno Adrian Barber fel Prif Weithredwr Dros Dro

Yn dilyn ymadawiad Jason Wroe fel Prif Weithredwr, roeddwn am roi gwybod i bob trigolyn am y trefniadau yr ydym wedi’u gwneud.

Mae’r Bwrdd wedi penodi Adrian Barber yn Brif Weithredwr Dros Dro. Mae Adrian yn dod â dros 35 mlynedd o brofiad yn y sector tai, gan gynnwys rolau blaenorol fel Prif Weithredwr dros dro yn Trivallis yn Ne Cymru ac yn Suffolk Housing. Yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr yn Victory Homes, sy’n rhan o’r Flagship Group. Mae ganddo hanes cryf o weithio ochr yn ochr â byrddau, staff a thrigolion i gryfhau gwasanaethau ac adeiladu hyder yn ystod cyfnodau o newid.

Mae Adrian wedi bod gyda ni ers dechrau mis Mawrth ac mae eisoes wedi bod yn dod i adnabod y sefydliad, yn cwrdd â staff a phartneriaid, ac yn deall y blaenoriaethau sydd o’n blaenau. Bydd yn gweithio’n agos gyda fi a’r Bwrdd, a gyda’n tîm arweinyddiaeth, i sicrhau bod gwasanaethau i drigolion yn parhau heb darfu ac ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar y pethau sy’n bwysicaf. Bydd Adrian hefyd yn sicrhau bod ein hymrwymiadau i denantiaid yn cael eu cyflawni’n llawn yn ystod y cyfnod pontio hwn.

Mae Newydd a Cadwyn yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i denantiaid ledled De a Chanolbarth Cymru, ac mae’r bartneriaeth a ddaeth â ni at ein gilydd wedi rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni. Nid yw hynny’n newid gyda newid Prif Weithredwr. Mae ein staff yn brofiadol, yn ymroddedig ac yn canolbwyntio ar wneud gwaith da i’r bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Bydd Adrian mewn cysylltiad â llawer ohonoch yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni drwy’r sianeli arferol y gallwch eu gweld yma.

Deb Austin 

Cadeirydd, Grŵp Tai Cadarn

Newyddion diweddaraf