Posted 08.05.2017

Ein dêl ddigidol: gallech chi gael Kindle Fire

Rydym yn gofyn i denantiaid ymaelodi â phrosiect chew mis, sy'n anelu at helpu  i gael mwy o bobl ar-lein. 

Os byddwch yn cymryd rhan yn y prosiect ac yn defnyddio tabled Kindle Fire i gyfathrebu â ni, cewch gadw'r tabled ar ôl cymryd rhan!  Fel rhan or ddêl mae disgwyl i chi ryngweithio â Newydd a defnyddio Fy Newydd i gysylltu â ni, talu'r rhent, gwirio eich balans rhent, a rhoi gwybod am waith trwsio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Ar gyfer tenantiaid sydd ddim yn hyderus ynghylch defnyddio tabled, neu sydd erioed wedi defnyddio Fy Newydd or blaen, gallwn gynnig hyfforddiant un-wrth-un yn eich cartref, neu mewn sesiwn digidol galw-i-mewn sy'n cael ei redeg yn eich llyfrgell leol. 

Os ydych chi, ffrind neu aelod o'r teulu yn dymuno cymryd rhan yn y prosiect hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â Scott Tandy wrth lenwi'r ffurflen isod. 

Gofyn am ragor o wybodaeth

Newyddion diweddaraf