Ffit At Y Dyfodol
Scott Tandy, ein Swyddog Cynhwysiant Digidol yn cyflwyno llwyfan gweithgarwch corfforol digidol sy’n gobeithio chwyldroi iechyd a llesiant yn y sector tai.
Rydym ni yng Nghymdeithas Tai Newydd yn falch o gydweithio â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddod â GetFit.Wales i chi, llwyfan digidol arloesol sy’n ymroddedig i drawsnewid iechyd a lles ledled Cymru ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2019.
Mae’r fenter arloesol hon wedi’i chydnabod am ei rhagoriaeth mewn iechyd a llesiant, gan wneud gwelliannau ystyrlon i fywydau ein tenantiaid a’n staff trwy ddulliau technolegol ymgysylltiol. Roedd hefyd ar restr fer Gwobrau Tai Cymru eleni.
PARTNERIAETHAU CYDWEITHREDOL
Un o gryfderau allweddol GetFit.Wales yw ei bartneriaethau â sefydliadau fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru. Mae cydweithredu fel hyn yn sicrhau bod y prosiect wedi’i wreiddio mewn arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan olygu y gall ddarparu buddion gwirioneddol, mesuradwy i amryw gymunedau ledled de Cymru.
TECHNOLEG ARLOESOL
Wrth galon GetFit.Wales mae ymrwymiad i ddefnyddio gemau a thechnoleg i ysgogi gweithgaredd corfforol. Mae’r platfform yn integreiddio’n ddiwnïad â thracwyr ffitrwydd poblogaidd a ffonau clyfar, gan ei wneud yn hygyrch i’w 576 o ddefnyddwyr cofrestredig.
Gall cyfranogwyr ymgymryd â heriau rhithiol, o ‘gerdded ar hyd Pen-y-Fan’ i ‘gadw i fyny gyda swyddog heddlu’, gyda’r heriau wedi’u cynllunio ar gyfer pob lefel o ffitrwydd. Profodd elfennau o gemau, fel ennill pwyntiau a ‘hawlio tir’ ar fwrdd antur, yn gymhellion pwerus i ddal i ymgysylltu’n barhaus, gan wneud ffitrwydd yn hwyl ac yn werth chweil.
CANLYNIADAU DYLANWADOL
Mae’r canlyniadau yn amlwg. Ar y cyd, mewngofnododd cyfranogwyr fwy na 247,468,454 o gamau, cyfwerth â chylchu’r Ddaear 4.417 gwaith. Mae hyn wedi esgor ar ganlyniadau sy’n newid bywydau, o golli pwysau a chynyddu symudedd i wella iechyd meddwl.
Yn ôl ym mis Rhagfyr 2024, daliais i fyny â dau ddefnyddiwr, Ben a Samantha [llun] y mae eu stori’n enghraifft berffaith o’r trawsnewid hwn. Fel newyddddyfodiaid i ardal Rhydyfelin, cafodd Ben a Samantha fod GetFit.Wales yn esgus perffaith i grwydro’u cymuned newydd, gan wneud cerdded yn rhan o’u trefn bob nos ar ôl swper. O ganlyniad, roedd Samantha yn anhygoel o falch i ddweud ei bod wedi colli 6 stôn ers y cychwyn trwy ei hymrwymiad diwyro i gerdded bob dydd.
Dyma’r hyn a ddywed rhai o’n defnyddwyr eraill:
- ‘Dwi wedi colli 3 stôn ers cychwyn ar y prosiect. Dwi ddim wedi tynnu’r Fitbit. Dwi wrth fy modd yn cyfrif fy nghamau.’
- ‘Roedd bywyd yn rhwystr i’m hiechyd cyn y pandemig, a chefais fy hun mewn lle nad oeddwn am fod yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’r prosiect yn fy helpu i wthio fy hun yn ôl i lle dwi eisiau bod, ac dwi’n teimlo’n llawer gwell o’r herwydd.’
CYNHWYSIANT A HYGYRCHEDD
Mae cynhwysiant yn gonglfaen i GetFit.Wales. Mae gan y platfform heriau ar gyfer pob gallu, o’r hawdd i’r anodd, gan olygu y gall pawb ymgysylltu’n ystyrlon ag ef. Er mwyn cynnwys cyfranogwyr heb fynediad i dechnoleg, rydym yn darparu tracwyr camau y gellir eu benthyca.
Bu’r prosiect yn hynod lwyddiannus hefyd o ran cefnogi unigolion ag anableddau corfforol a phroblemau iechyd meddwl, sy’n amlygu ein hymrwymiad i sicrhau y gall pawb elwa ar well iechyd a llesiant.
EFFAITH CYMUNEDOL
Heblaw am y budd i unigolion, mae GetFit.Wales yn cryfhau rhwymau cymunedol ac yn cefnogi economïau lleol. Trwy gynnig gwobrau ar ffurf talebau ar gyfer busnesau lleol, mae’r platfform yn ysgogi ymddygiad iachus tra’n ailfuddsoddi arian yn ein cymunedau.
MESUR GWERTH CYMDEITHASOL
Mae’n hymrwymiad i ragoriaeth yn cynnwys mesur gwerth cymdeithasol yn fanwl. Gan ddefnyddio dyfais HACT Social Value Insight, amcangyfrifwn bod y prosiect yn creu £8.33 o werth cymdeithasol am bob £1 a fuddsoddir, sy’n dyst i’w effeithlonrwydd a’i effaith hirdymor.LLWYDDIANNAU HYD YMA
- Ymgysylltu â defnyddwyr: 576 o ddefnyddwyr cofrestredig.
- Gweithgarwch corfforol: Cerddodd y cyfranogwyr fwy na 247,468,454 o gamau, gan gylchu’r Ddaear 4.417 gwaith.
- Rheoli pwysau: Adroddodd y cyfranogwyr leihad sylweddol mewn pwysau, gyda rhai’n colli hyd at 3-4 stôn.
- Gwella iechyd meddwl: Gwell llesiant meddwl, llai o bryder, a mwy o hyder.
- Cymorth economaidd lleol: Hawliwyd 902 o wobrau gan fusnesau lleol.
- Cynhwysiant: Ymgysylltu’n llwyddiannus ag unigolion â gwahanol alluoedd a chyflyrau iechyd.
- Newid ymddygiad: Newidiadau parhaus i ffordd o fyw, gan gynnwys cerdded yn feunyddiol a bwyta’n well.
- Gwerth cymdeithasol: £8.33 o werth cymdeithasol am bob £1 a fuddsoddir.
- Effaith ymchwil: Astudiaeth barhaus gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar effeithiau iechyd hirdymor.
- Integreiddio systemau iechyd: Sefydlwyd llwybrau atgyfeirio gyda Byrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg.
- Mabwysiadu technoleg: Mwy o ddefnydd o dracwyr ffitrwydd ac apiau iechyd ymhlith cyfranogwyr.
EDRYCH YMLAEN
Fel swyddog cynhwysiant digidol, dwi’n llawn cyffro ynglŷn â dyfodol GetFit.Wales. Gyda’n gilydd, rydym nid yn unig yn gwella bywydau unigol ond yn trawsnewid cymunedau a chreu Cymru iachach a hapusach.
Scott Tandy yw swyddog cynhwysiant digidol Cymdeithas Tai Newydd, rhan o Grŵp Tai Cadarn. Am fwy o wybodaeth am GetFit. Wales, ewch i getfit.wales