Cynllun tai yn Y Barri yn dathlu gwobr blatinwm
Mae tenantiaid mewn cynllun tai yn Y Barri ar gyfer pobl 55 oed a throsodd yn dathlu newidiadau mawr i’w cartrefi sy’n helpu pobl sy’n colli eu golwg.
Cwrt Arthur Davis yw pedwerydd cynllun byw’n annibynnol Cymdeithas Tai Newydd i dderbyn Gwobr Blatinwm Visibly Better RNIB Cymru am y gwaith ailgynllunio, sy’n galluogi pobl hŷn sy’n colli eu golwg i fyw’n annibynnol yn hirach.
Dathlwyd y wobr mewn digwyddiad yng Nghwrt Arthur Davis ddydd Iau, 18 Mai. Fe wnaeth preswylwyr y cynllun fwynhau te a chacen gyda staff o RNIB Cymru a Newydd, a dadorchuddiwyd plac coffa. Cyflwynodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru Ansley Workman y wobr i Oonagh Lyons, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Newydd.
Mae’r newidiadau syml ond effeithiol i Gwrt Arthur Davis yn cynnwys waliau, gosodiadau a ffitiadau mewn lliwiau cyferbyniol, arwynebau “teimlo” ar waliau a lloriau, arwyddion ar lefel y llygad, a chliwiau synhwyraidd i helpu pobl ddall a rhannol ddall i symud o gwmpas ardaloedd cymunol. Mae gan ardaloedd cymunol nawr oleuadau a reolir gan symudiadau, a ffenestri wedi’u tintio er mwyn atal golau tanbaid, sy’n medru effeithio ar bobl gyda golwg gwan.
Mae rheiliau llaw mewn lliwiau cyferbyniol, rhodfeydd wedi’u goleuo’n dda, ac arwynebau llwybrau a ffyrdd gwahanol yn sicrhau bod tenantiaid sy’n colli eu golwg yn medru mwynhau treulio amser yn yr ardd heb orfod poeni am fynediad na diogelwch.
Fe wnaeth tenantiaid Newydd hyfforddedig gynnal yr archwiliadau cychwynnol o’r cynllun, yn ogystal â chynnal asesiad beirniadol o’r gwaith a wnaed gan y contractwyr M. Delacey & Sons, gyda chefnogaeth gan RNIB Cymru. Drwy gydol y broses, fe wnaethon nhw sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig ac yn addas ar gyfer eu cyd-denantiaid.
Fe wnaeth Cath Kinson, tenant Newydd sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect Visibly Better ers dros 10 mlynedd, ddatblygu glawcoma a chataractau yn ystod y cyfnod clo. Mae hi’n dweud ei bod hi, ers hynny, wedi dod i ddeall yn well sut mae newidiadau i ofodau byw yn medru helpu pobl sy’n colli eu golwg.
Dywedodd Cath: “Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr. Roedd yn cynnwys y bobl iawn, fe ddaeth i’r lleoedd lle’r oedd pobl ei angen, ac mae wedi cael effaith fawr ar gynlluniau byw’n annibynnol oherwydd does neb wedi gwneud hyn yng Nghymru o’r blaen.
“Mae’n medru bod yn beth brawychus iawn mynd i rywle newydd pan rydych chi’n colli eich golwg, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod os yw’r grisiau yn mynd i fod yn beryglus, neu ba rwystrau fydd yn eich ffordd. Ond gan fy mod i wedi bod yn rhan o Visibly Better, wnes i ddim panicio pan golles i fy ngolwg. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu a’r newidiadau roeddwn i wedi helpu i’w cyflwyno yn fy helpu i. A nawr alla i ddim stopio fy hun rhag pwyntio allan unrhyw gynllunio anhygyrch ble bynnag yr af!”
Mae Visibly Better yn gynllun achredu gan RNIB Cymru ar gyfer cymunedau byw’n annibynnol a chartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Cefnogir staff i wella annibyniaeth, symudedd a safon byw preswylwyr drwy newidiadau syml i’w gofod byw. Cymeradwyir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, y Comisiynydd Pobl Hŷn, a Gofal a Thrwsio.
Dywedodd Oonagh Lyons, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau yn Newydd, “Mae’n bwysig i ni bod ein tenantiaid yn medru mwynhau byw’n annibynnol yng Nghwrt Arthur Davis cyhyd ag y bo modd. Ond fedrwn ni ddim cymryd y clod i gyd am y wobr hon – mae’n rhaid i ni gydnabod ymroddiad ein Haseswyr Cynllun Tenantiaid. Maen nhw wedi gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau bod y newidiadau a wneir nid yn unig o fudd iddyn nhw, ond hefyd i’w cymuned.”
Dywedodd David Watkins, Cydgysylltydd RNIB Cymru Visibly Better:
“Rydym wrth ein bodd cael gweithio gyda Newydd eto. Mae’n wych gweld eu hymroddiad parhaus tuag at gefnogi preswylwyr dall a rhannol ddall. Ni ddylai colli golwg arwain at golli annibyniaeth, a bydd y newidiadau i Gwrt Arthur Davis yn gymorth mawr i denantiaid nawr ac yn y dyfodol.”
I gael gwybod mwy am egwyddorion Visibly Better, neu i ddod yn ddarparwr tai â chymorth Visibly Better, ffoniwch 0141 739 3683 neu e-bostiwch VisiblyBetterCymru.Mailbox@rnib.org.uk.