Posted 12.08.2020

Pentref Clare Garden

Rydym ni yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg i ddarparu cartrefi fforddiadwy yn y Bontfaen.

Byddan yn darparu 133 o gartrefi fforddiadwy i’w rhentu a 57 o gartrefi ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf ym Mhentref Clare Garden.

Rydym yn debygol o hysbysebu cartrefi 2 a 4 ystafell wely am rent fforddiadwy yng ngwanwyn 2021. Bydd yn rhaid i drigolion lleol fod yn barod i wneud cais i rhentu drwy gofrestru gyda Homes4U, y gofrestr tai ar gyfer y sir a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg.

Yn ogystal â’r cartrefi sydd ar gael am rent fforddiadwy, bydd cartrefi 2 ystafell wely ar werth i brynwyr tro cyntaf yn unig ar gael yn gynnar yn 2022. Byddem ni yn gwerthu tai i bobl sydd â chysylltiad â’r Bont-faen a’r ardal oddi amgylch. I fod yn gymwys i brynu’r cartrefi hyn, bydd yn rhaid i brynwyr am y tro cyntaf gofrestru gyda Aspire2Own, cynllun a reolir gan Gyngor Bro Morgannwg sy’n cefnogi prynwyr am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol eiddo.

Gall trigolion sydd â diddordeb mewn rhentu neu brynu cartref fforddiadwy ym Mhentref Clare Garden gofrestru gyda Homes4U ac Aspire2Own. Byddem ni yn hysbysebu’r eiddo sydd ar gael mewn papurau lleol, ar eu gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy wefan Cyngor Bro Morgannwg.

Newyddion diweddaraf