Posted 08.07.2024

Datblygiad Newydd yn Dod i Aberdâr

Mae Cymdeithas Tai Newydd yn gweithio mewn partneriaeth â Celtic Offsite a M&J Cosgrove i ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen i Heol y Bont yng Nghwmbach, Aberdâr.

Bydd Celtic Offsite yn darparu'r strwythurau ffrâm bren ar gyfer 17 byngalo carbon isel o'u ffatri yng Nghaerffili. Bydd y gwaith adeiladu wedyn yn cael ei gwblhau ar y safle gan y contractwr M&J Cosgrove, gyda’r cartrefi’n cael eu rheoli’n ddiweddarach gan Newydd.

Mae Celtic Offsite yn fenter gymdeithasol o fewn Grŵp United Welsh. Bydd strwythurau ffrâm bren y byngalos ar gyfer datblygiad Cwmbach yn cael eu cynhyrchu o ffatri Celtic Offsite yng Nghaerffili.

Dywedodd Jodie Follett, Rheolwr Partneriaethau Celtic Offsite: “Rydym yn gyffrous i fod yn bartner gyda Newydd am y tro cyntaf i ddarparu’r cartrefi newydd hyn i Aberdâr.

“Bydd y byngalos hyn yn darparu opsiynau tai mawr eu hangen ar y gymuned leol, gan ddefnyddio technoleg ynni effeithlon i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.”

Dywedodd Simon Morris, Cyfarwyddwr Datblygu ac Asedau Cymdeithas Tai Newydd: “Pan ddaeth y cyfle i ni ddefnyddio strwythurau ffrâm bren a adeiladwyd gan Celtic Offsite dim ond 15 milltir i ffwrdd o’n safle yng Nghwmbach, roeddem wrth ein boddau. 

Roeddem yn gwybod y byddai hyn nid yn unig yn sicrhau y byddai ein buddsoddiad yn cefnogi swyddi a sgiliau lleol ond hefyd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o gynhyrchu datblygiad tai cynaliadwy ac ynni-effeithlon.

Mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y datblygiad, bydd gan y byngalos ffrâm bren sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni A oherwydd y defnydd o systemau gwresogi a phaneli solar nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil. Byddwn hefyd yn ymgorffori system ddraenio gynaliadwy yn y datblygiad, a bydd rhan ohoni yn cynnwys ardal blodau gwyllt i wella bioamrywiaeth y safle.

Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid a fu’n rhan o wireddu'r datblygiad, ac edrychwn ymlaen at weld tenantiaid yn symud i mewn.”

Ychwanegodd Gary Cosgrove, Cyfarwyddwr M&J Cosgrove Construction: “Mae’r cyfle i weithio gyda Celtic Offsite unwaith eto yn ein llenwi â brwdfrydedd a hyder.

Edrychwn ymlaen at gychwyn ar y daith gyffrous hon gyda Celtic Offsite a chreu datblygiad rhyfeddol a fydd yn gadael effaith barhaol. Gyda’n gilydd, rydym yn hyderus y gallwn gyflawni pethau gwych a gosod meincnodau newydd yn y diwydiant.”

Bydd y cartrefi dwy ystafell wely ar gael i bobl sy'n chwilio am dai fforddiadwy trwy Ceisio Cartref, rhestr dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Newyddion diweddaraf