Blog Anthony: Fy lleoliad gwaith rhithwir gyda Newydd
Rwy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn y drydedd flwyddyn, a’r olaf, o gwrs gradd BSc Astudiaethau Tai. Mae’r cwrs gradd yn darparu dysgu ar holl agweddau o bynciau sy’n gysylltiedig â thai, gan gynnwys adfywio a chynaliadwyedd, busnes tai, theori ac ymarfer tai, a nifer o bynciau eraill, dros y tair blynedd. O ganlyniad i hyn, rydw i wedi penderfynu y byddwn yn hoffi gweithio ym maes adfywio ar ôl i fi raddio. Mae’r pandemig COVID-19 wedi gorfodi prifysgolion, sefydliadau, gweithwyr a myfyrwyr i addasu i ddysgu ar-lein, drwy Teams, tra’n gweithio o gartref yn yr amser ansicr a digynsail hwn. Mae dysgu ar-lein hefyd wedi arwain at gyfle unigryw ar gyfer lleoliad rhithiol a gytunwyd arno a’i weithredu mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chymdeithas Tai Newydd.
Mae tîm Newydd wedi rhoi croeso cynnes iawn i fi ac wedi gwneud i fi deimlo fel rhan o’r tîm. Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau fy mod i’n derbyn y profiad gorau posib o’r lleoliad gwaith - profiad na fyddai wedi bod yn bosib pe na fyddai Newydd wedi fy nerbyn ar gyfer lleoliad gwaith o fewn eu sefydliad. Mae Newydd wedi rhoi nifer o opsiynau i fi a fydd yn rhoi cyfle i ddatrys problemau a defnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u datblygu drwy fy nghwrs gradd. Bydd hyn yn cynnwys cynnal ymchwil a fydd yn fy helpu i gwblhau fy modiwl lleoliad gwaith yn llwyddiannus.
Mae’r profiad o fod ar leoliad gwaith rhithiol wedi cynnwys elfennau cadarnhaol a negyddol, gan gynnwys problemau TG, a Microsoft Teams yn gwrthod gweithio i ddechrau. Datryswyd y problemau hyn, fodd bynnag, drwy ddefnyddio cyfrifiadur newydd. Yr elfennau cadarnhaol yw bod dim angen cymudo na theithio i ardaloedd eraill ar gyfer y lleoliad gwaith. Mae hyn yn ei gwneud hi’n bosib i fi brofi meysydd a phynciau eraill o fewn y sefydliad, gan gynnwys cynhwysiant digidol, ôl-osod a buddion cymunedol - byddai hyn wedi bod yn anodd fel arall. Mae gallu cwrdd ar-lein wedi ei gwneud hi’n bosib sefydlu cysylltiadau newydd o fewn y sector tai na fyddai wedi bod yn bosib heblaw am y lleoliad gwaith rhithiol a’r cyfryngau cymdeithasol.
Anthony Morgans, myfyriwr BSc Astudiaethau Tai yn y 3edd flwyddyn