Os nad yw eich ymholiad yn un brys, ystyriwch ddefnyddio dulliau eraill i gysylltu â ni
Ar gyfer unrhyw ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, gofynnwn yn garedig i chi eu hanfon atom gan ddefnyddio eich cyfrif MyNewydd neu e-bostiwch enquiries@newydd.co.uk
Gall ein Tîm Cynhwysiant Ariannol eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y budd-daliadau cywir, gan gynnwys gostyngiadau ar bethau fel eich treth gyngor a'ch biliau dŵr. Yn yr adran isod, fe welwch sawl grant sydd ar gael i chi, neu aelodau o'ch teulu a all eich cynorthwyo yn ystod y cyfnod o gynnydd mewn costau byw.
Yn yr adran yma, byddwch yn darganfod sut y gallwn eich helpu i ennill sgiliau newydd mewn defnyddio cyfrifiaduron a thabledi, a defnyddio gwasanaethau fel siopa ar-lein, chwilio am swydd, a chyrchu eich cyfrif Porth y Llywodraeth neu fancio ar-lein.
Fe allwn ni eich arwain chi tuag at hyfforddiant a chyflogaeth. Mae ein cyrsiau yn agored i chi yn rhad ac am ddim, pa un a ydych chi’n un o’n tenantiaid ai peidio. Rydym ni eisiau eich helpu chi i ddod yn barod am swydd ac i fod â’r hyder i gamu i mewn i waith am y tro cyntaf, i gamu ymlaen yn eich gyrfa neu ddychwelyd wedi bwlch.
Rydym yn credu ei bod hi’n hanfodol ein bod yn galluogi ein tenantiaid i ddweud eu barn ar eu taith fel tenant ac ar sut caiff eu gwasanaethau tai eu darparu. Yn 2023, fe wnaethon lansio Strategaeth Dylanwadu Tenantiaid newydd ac amrywiaeth o gyfleoedd i denantiaid ddylanwadu ar ein gwasanaethau. Am fwy o wybodaeth ac i ddysgu fwy, cliciwch y botwm isod.
Cofrestrwch ar gyfer Fy Newydd trwy glicio ar y botwm isod. Trwy Fy Newydd, mi allwch chi gadw golwg a thalu eich rhent. Fedrwch hefyd rheoli eich gwaith trwsio, adrodd ymddygiad gwrth-gymdeithasol, newid eich manylion, anfon neges at Newydd a mwy.
Mae ein heiddo yn fwy na waliau a ffenestri yn unig, maent yn gartrefi, ac rydym yn sicrhau bod pob cartref newydd a adeiladwn yn ddeniadol, yn helaeth, yn hygyrch ac yn effeithlon o ran ynni.
Gallwch wneud taliadau yn uniongyrchol i'ch cyfrif rhent ar-lein neu dros y ffôn trwy greu cyfrif Fy Newydd. Fel arall, gallwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, Swyddfa'r Post, Paypoint neu drwy eich banc neu gymdeithas adeiladu.