Troseddau casineb

Yn Newydd, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb a byddwn yn ymchwilio'n llawn i bob achos ac yn cymryd camau priodol.

Beth yw troseddau casineb?

Mae digwyddiadau casineb a throseddau casineb yn weithredoedd o gam-drin geiriol, ysgrifenedig neu gorfforol. Gall fod yn weithred o aflonyddu neu fygwth person neu grŵp o bobl oherwydd eu nodweddion personol tybiedig. Byddai hyn yn cynnwys gelyniaeth neu ragfarn, neu'n cynnwys geiriau neu ymddygiad sy’n seiliedig ar ganfyddiad person o:

  • hil
  • crefydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth drawsryweddol
  • anabledd

Gall trosedd casineb gynnwys cam-drin geiriol, brawychu, bygwth, aflonyddu, ymosod, a bwlio, yn ogystal â difrodi eiddo. Gall y drwgweithredwr (y person sy'n cyflawni'r drosedd) fod yn rhywun sy’n ddieithr i chi, neu gall fod yn ffrind. Os yw'r dioddefwr yn credu bod rhywbeth yn ddigwyddiad casineb, dylai gael ei drin a'i gofnodi felly gan y person mae'n cael ei riportio iddo.


Troseddau Cyfeillio

Mae troseddau cyfeillio yn derm newydd ac fel arfer mae'n golygu bod yn gyfaill i bobl fregus er mwyn manteisio arnyn nhw, eu hecsbloetio, neu eu cam-drin. Gellir ei ystyried yn fath o drosedd casineb anabledd, neu drosedd casineb oedran, ond gall hefyd edrych fel achos o gam-drin domestig neu drais. Mae dioddefwyr troseddau cyfeillio yn aml yn agored i niwed oherwydd anableddau dysgu, cyflwr iechyd meddwl, neu oedran (sy'n targedu pobl hŷn neu iau bregus).

Gall troseddau casineb ddigwydd wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Beth yw troseddau casineb ar-lein?

Casineb ar-lein yw postio a rhannu cynnwys atgas a rhagfarnllyd yn erbyn unigolyn, grŵp neu gymuned. Gall gymryd ffurf datganiadau difrïol, sy’n pardduo a dad-ddyneiddio; gall fod yn fygythiadau, sarhad ar sail hunaniaeth, a galw enwau. Os yw post yn elyniaethus tuag at hil person, neu ei grefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, neu hunaniaeth rhyweddol, gellid ei ystyried yn araith gasineb. Os yw'n ddigon difrifol, gall fod yn torri'r gyfraith, boed hynny ar-lein neu all-lein.

Gellir mynegi casineb ar-lein trwy sawl math o gyfrwng, gan gynnwys testun, delwedd, fideo a sain. Mae'r gwahanol fathau hyn o gynnwys cyfryngau weithiau'n cael eu cyfuno.

Sut i riportio troseddau casineb?

Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, gallwch roi gwybod i'r heddlu neu i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr). Gallwch hefyd roi gwybod am y troseddau hyn os gwelwch chi nhw'n digwydd i rywun arall.

Heddlu

  • Mewn argyfwng, ffoniwch 999
  • Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101
  • Mae enw eich Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol (PCSO) ar gael ar www.police.uk

Gallwch hefyd gysylltu â’r Heddlu yn eich ardal chi drwy e-bost:

Cymorth i Ddioddefwyr

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maen nhw’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.

Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr am ddim ac ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982, ebost Hate.CrimeWales@victimsupport.org.uk neu cysylltwch â’u system sgwrs fyw ar eu gwefan yma.

Ein Swyddogion Cymunedau Mwy Diogel

Swyddogion Cymunedau Mwy Diogel Newydd yw Kay Greatrex (chwith) a Sarah Johnson (dde). Eu rôl yw darparu gwasanaeth rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid er mwyn galluogi ein tenantiaid i fyw'n ddiogel yn eu cymunedau. Maent yn gweithio i atal ac osgoi ymddygiad negyddol ar ein stadau, ymddygiad sy’n effeithio ar fwynhad ein tenantiaid o'u cartrefi ac o'r ardal oddi amgylch.


Mae ein Swyddogion Cymunedau Mwy Diogel yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner, fel Heddlu De Cymru, Iechyd yr Amgylchedd, a'r cyngor lleol i helpu i ddatblygu dull amlasiantaeth o greu mentrau newydd er mwyn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Gallwch gysylltu naill ai â Kay Greatrex neu Sarah Johnson ar 0303 040 1998 neu dros e-bost safer.communities@newydd.co.uk.